Pro14: Dreigiau 12-13 Gleision Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Gleision Caerdydd osgoi colli eu gêm Pro14 gyntaf yn erbyn y Dreigiau ers 2014 wrth iddyn nhw frwydro yn ôl i guro eu gwrthwynebwyr lleol mewn amgylchiadau anodd ar Ddydd San Steffan.
Mewn cawodydd trwm o law yn y gêm ddarbi ar Rodney Parade, fe giciodd Josh Lewis yn effeithiol gan sicrhau fod y Dreigiau yn arwain 9-3 ar hanner amser.
Brwydrodd y Gleision yn ôl wedi'r egwyl gan fynd ar y blaen am y tro cyntaf gyda dim ond 12 munud yn weddill wedi i Josh Turnbull yrru drosodd am unig gais y gêm.
Seliodd trosiad Jarrod Evans unfed buddugoliaeth ar ddeg y Gleision yn olynol dros y Dreigiau.
Er fod y tywydd yn golygu nad oedd hon yn gêm o ansawdd arbennig, fe fydd yn fuddugoliaeth foddhaol i'r Gleision, a oedd yn bell o fod ar eu gorau am gyfnodau hir o'r 80 munud.
Ac er i'r gêm hon fynd yn ei blaen tra'r oedd gemau eraill yn y gynghrair wedi'u gohirio, roedd ganddi hefyd ei siâr o absenoldebau o achos coronafeirws.
Roedd sawl chwaraewr o'r Dreigiau ddim ar gael ar ôl achos newydd arall o'r haint yn ystod yr wythnos, tra bu'n rhaid i brif hyfforddwr y Gleision, John Mulvihill, wylio'r chwarae o'i gartref, lle'r oedd yn hunan-ynysu ar ôl dod i gysylltiad â chwaraewr oedd wedi profi'n bositif.
Dreigiau: Jonah Holmes; Owen Jenkins, Jack Dixon, Jamie Roberts (capt), Ashton Hewitt; Josh Lewis, Tavis Knoyle; Brok Harris, Elliot Dee, Lloyd Fairbrother, Ben Carter, Matthew Screech, Harrison Keddie, Taine Basham, Aaron Wainwright.
Eilydion: Richard Hibbard, Aaron Jarvis, Leon Brown, Lewis Evans, Huw Taylor, Luke Baldwin, Aneurin Owen, Evan Lloyd.
Gleision Caerdydd: Hallam Amos; Aled Summerhill, Garyn Smith, Max Llewellyn, Josh Adams; Jarrod Evans, Lloyd Williams; Brad Thyer, Kristian Dacey, Dillon Lewis, Ben Murphy, Seb Davies, Cory Hill (capt), James Botham, Josh Turnbull.
Eilyddion: Ethan Lewis, Rhys Carre, Dmitri Arhip, Alun Lawrence, Shane Lewis-Hughes, Tomos Williams, Jason Tovey, Rey Lee-Lo.