Ysbrydoliaeth ar gyfer meddwl iach yn 2021

  • Cyhoeddwyd

Yn lle gwneud y rhestr yna o addunedau i ymarfer corff, colli pwysau, arbed mwy o bres, yfed llai, beth am feddwl am ffyrdd o fod yn fwy caredig gyda'n hunain a'n helpu i fagu cryfder emosiynol i wynebu pa newid bynnag a ddaw yn y flwyddyn sydd i ddod?

Alyson Jenkins, lifecoach sy'n helpu ei chwsmeriaid gyda'u bywydau personol a phroffesiynol, sy'n awgrymu pum peth i chi eu gwneud er mwyn mwynhau a chadw meddylfryd iach yn yn 2021.

Ffynhonnell y llun, Alyson Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alyson Jenkins yn helpu pobl i ffynnu yn eu bywydau personol a phroffesiynol ac yn arbenigo mewn hyfforddiant rhaglennu newroieithyddol

Mae bywyd yn gallu bod yn anodd, ac ar brydiau mae eisiau cymorth a chefnogaeth. Dyma bum pwynt sy'n tarddu o ddoethineb llawer o bobl drwy'r oesau gydag awgrymiadau am rai o'r pethau ymarferol gallwn eu gwneud er mwyn i ni brofi'r gorau mewn bywyd.

1. GWERTHFAWROGI

Dyma air hyfryd sydd yn cwmpasu'r cwestiwn, beth sydd yn werthfawr yn eich bywyd? Beth yw'r trysor sydd gennych? Ac mae gan bob un ohonom rywbeth i fod yn ddiolchgar amdano. Rhowch ddiolch bob dydd am yr hyn sydd o werth mewn bywyd.

O fy rhan i mae'r rhain yn cynnwys iechyd, y synhwyrau, teulu, adar, miwsig, ffrindiau, bwyd a … unwaith dechreuaf, mae'n amlwg fod gymaint sydd yn rhoi pleser. Digon i fod yn ddiolchgar amdano.

  • Awgrym: cadwch lyfr bach diolchgarwch - lluniau, ysgrifen, rhestrau, unrhywbeth i atgoffa eich hun, ac i gofnodi yr hyn sydd o wir werth mewn bywyd.

2. CAREDIGRWYDD

Mae ymchwil niwrowyddoniaeth wedi datgelu pwysigrwydd caredigrwydd i'n hiechyd. Wrth fod yn garedig mae ein corff, emosiynau a'n ymennydd yn elwa; mae cymdeithas yn elwa, mae'r byd yn elwa.

Amlwg efallai, ond mae'n werth atgoffa ein hunain yn rheolaidd. Un peth arall pwysig yw hunan-dosturi. Heb garu ein hunain a bod yn garedig i ni ein hunain mae'n rhy anodd i ymestyn hyn i bobl eraill.

  • Awgrym: gwnewch rywbeth caredig bob dydd - ond peidiwch â dweud wrth neb amdano.

3. AMSER TAWEL

Stopio a sylwi. Pan rydyn ni'n brysur, neu pan ein bod yn hel meddyliau mae'n anodd stopio. Pa mor aml ydych chi'n stopio a wir yn sylwi ar beth sydd yn digwydd - tu allan a thu fewn i chi eich hun?

  • Awgrym: cymerwch bum munud allan o bob dydd (mwy os yn bosib) i fod yn dawel - heb ffôn, heb deledu. Anadlwch yn ddwfn a gadewch yr aer allan yn araf er mwyn i'r corff ymlacio rhywfaint. Yna, sylwch heb farnu a rhoi sylwebaeth ar sut rydych yn teimlo - yn gorfforol. Beth allwch chi ei glywed, arogli, gweld? Byddwch yn dawel. Efallai bydd meddyliau yn llifo i mewn - ond peidiwch â sylwi arnynt - canolbwyntiwch ar eich synhwyrau ac ar eich anadl. Mwynhewch seibiant.

4. SYMUD

Digon hawdd yw bod yn segur, a gwir, mae hi'n anodd ar brydiau i symud o'r soffa ond ydi? Er hynny, mae symud yn gwneud gymaint o les i ni - ar y pryd ac yn y tymor hir. I mi, mae'n bwysig i fynd am dro bach, bron pob dydd - i gael awyr iach yn ogystal ag ymarfer corff. Yn ogystal â'r gampfa, nofio, cerdded neu redeg, mae digon o bethau eraill gallwn wneud sydd hefyd yn hwyl. Bydd symud yn atal pob math o wendid corfforol.

  • Awgrym: dawnsio yn y tŷ i'r radio neu eich hoff gân. Beth am Qi Gong neu Tai Chi? Mae'r rhain yn ymarferion syml gall unrhyw un wneud ac mae'r buddion yn gallu fod yn enfawr. Edrychwch ar YouTube am bytiau bach i ddechrau. Mae Jeffrey Chand yn dda er enghraifft.

5. CHWILFRYDEDD

Mae gan bob plentyn gymaint o chwilfrydedd. Wrth i ni dyfu gall hwn leihau i'r graddau lle mae'r 'sbarc' yn diffodd.

Mae ymchwilio, archwilio, darganfod, dysgu i gyd yn bwysig i greu egni ac i'n diddanu ni. Mae gymaint i'w ddarganfod yn y byd, gymaint o gwestiynau, pobl ddiddorol, storiâu, byd natur - rhestr ddiderfyn.

  • Awgrym: dysgu o leiaf un peth newydd pob dydd. Dilynwch eich trwyn a'ch calon wrth i chi rhoi caniatâd i'ch chwilfrydedd naturiol.

Dim ond pum pwynt bach yw'r rhain ac mae gymaint mwy i'w ddweud a'i wneud ar gyfer mwynhau bywyd. Cofiwch, o'r tu fewn daw ein hapusrwydd.

  • Dydych chi ddim yn gallu rheoli pobl eraill.

  • Mae byd natur yn drysor

  • Gall miwsig fod yn eli

  • Mae chwerthin yn aml yn dda i ni

  • Peidiwch gwylio'r newyddion gormod

Hefyd o ddiddordeb: