Dysgu byw 'fy mywyd gorau' wrth golli golwg
- Cyhoeddwyd
"Dwi'n canolbwyntio ar 'beth dwi'n gallu ei wneud' yn hytrach na 'beth alla i ddim ei wneud mwyach' a dwi'n darganfod y gall hyn arwain at bethau sy'n wirioneddol annisgwyl."
Addasu a thyfu yw'r gyfrinach i wneud y gorau o'ch bywyd, meddai'r Athro Rhiannon Tudor Edwards sydd wedi byw gyda golwg sy'n dirywio ers ei phlentyndod o ganlyniad i gyflwr genetig o'r enw retinitis pigmentosa.
Mae ei hanabledd wedi effeithio ar ei bywyd mewn sawl ffordd ac wedi golygu ei bod wedi bod drwy broses o addasu yn gorfforol ac yn emosiynol gan ddysgu sut i fod yn bositif a magu gwytnwch (resilience). Mae ganddi neges glir i rai sy'n colli eu golwg, a phawb sydd angen cyngor mewn cyfnod anodd ac ansicr.
Oherwydd Covid-19 rydyn ni i gyd wedi gorfod addasu i newidiadau mawr heb eu tebyg yn ein bywydau bob dydd sydd wedi effeithio ar y ffordd rydyn ni'n cymdeithasu, ein cynlluniau a'n breuddwydion. Pwy a ŵyr os ydi'r newidiadau yma am y tymor byr neu am yr hir dymor?
Fel y canodd Gloria Gaynor, "It takes a lifetime to become the best that we can be". I mi, y syniad allweddol yma yw'r syniad o dyfu yn barhaol.
Fy stori i
Fy stori ydy fy mod yng nghanol fy mhumdegau, yn athro academaidd ym Mhrifysgol Bangor, ac yn fam i ddau o blant sydd wedi tyfu i fyny. Dwi wedi gorfod byw ac addasu i golli fy ngolwg dros y blynyddoedd, a'r haf diwethaf mi ges i fy nhrydydd ci tywys, Bailey. Mae Bailey yn gi German Shepherd enfawr.
Mae adnoddau fel cyfrifiaduron sy'n siarad, fy ngweithwyr cymorth a fy nghŵn tywys wedi fy ngalluogi dros y blynyddoedd i gael gyrfa foddhaol, ac yn parhau i wneud hynny.
Mae fy ngwaith wedi cynnwys teithio yn rhyngwladol ac o amgylch y Deyrnas Unedig, yn ymchwilio ac addysgu mewn economeg iechyd, sef yr astudiaeth o sut rydyn ni'n defnyddio adnoddau cyhoeddus prin i fodloni anghenion iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r teithio cyffrous hwnnw gyda Bailey i gyd wedi dod i ben nawr ac rydw i, fel llawer o bobl eraill, yn treulio oriau o flaen y cyfrifiadur yn fy swyddfa gartref ar-lein, yn cysylltu â phobl ond ddim gyda nhw mewn gwirionedd.
Addasu
Dydw i erioed wedi gyrru car gan fy mod wedi bod â golwg rhannol trwy fy arddegau felly gallwch ddweud fod fy annibyniaeth wastad wedi cael ei gyfyngu. Gan ddewis, gyda fy ngŵr Paul, i fyw a magu ein teulu yng nghefn gwlad Ynys Môn, treuliais 20 mlynedd yn ymlacio trwy archwilio'r lonydd a'r traethau ar fy nghob du Cymreig o'r enw Cariad.
Mae gwneud rhywbeth mewn ffordd sy'n rhoi mwynhad plentyn i chi, fel gwneud rhywbeth gyda'ch dwylo, neu nofio yn y môr...yn gallu dod â gwir lawenydd.
Mae'r dyddiau hynny drosodd gan ei bod hi bellach wedi ein gadael, a dim ond ychydig iawn o olwg sydd gen i ar ôl.
Roedd addasu fy mywyd ar ôl y golled honno yn hynod boenus, ac yn broses o alaru mewn gwirionedd.
Yn ystod amseroedd pan oeddwn yn teimlo'n isel, rwy' wedi cael therapïau siarad defnyddiol, a dwi'n teimlo y dylai'r rhain fod ar gael i lawer o bobl.
Estyn allan
Gyda ein Gwasanaeth Iechyd a'n gwasanaethau cymdeithasol dan bwysau oherwydd Covid-19, dwi'n credu efallai mai estyn allan at rywun a allai fod yn cael amser caled am ba bynnag reswm, a'u hannog i gymryd rhan mewn rhywbeth newydd yw'r anrheg fwyaf y gallwn ei rhoi.
Weithiau rydyn ni'n unig heb hyd yn oed sylweddoli hynny. Trowch hynny ar ei ben ac weithiau gallwn fod ar ein pennau ein hunain, ond nid yn unig, os oes gennym ffordd o gysylltu efo eraill.
Gwneud pethau newydd
Ddwy flynedd yn ôl, pan ddechreuais wneud crochenwaith, fyddwn i ddim wedi meddwl y byddai gennyf stiwdio serameg gartref, gydag olwyn crochenydd ac odyn ac y byddwn allan yno gyda'r nos ar ôl gwaith, ar fy mhen fy hun yn taflu potiau, ac ar benwythnosau yn dysgu gyda fy ngŵr am y cemeg o roi glaze ar y crochenwaith.
Rwy' wedi ymuno gyda'r grŵp mwyaf rhyfeddol o fenywod sy'n nofio yn y môr ym Mhenmon yn rheolaidd. Pan dwi methu ymuno â nhw rwy'n cerdded pum munud i'r traeth agosaf, Traeth Coch, ac yn nofio gyda Bailey. Ddwy flynedd yn ôl fyddwn i heb ddychmygu y byddwn yn gwneud hynny chwaith.
Pan fyddaf yn nofio gyda Bailey ar y traeth lleol rwy'n gwybod trwy WhatsApp bod fy chwaer fôr-forwynion yn nofio ar draethau eraill o amgylch Ynys Môn a dwi'n teimlo cysylltiad gyda nhw. Dwi ar ben fy hun, ond ddim yn unig.
Tyfu
Mae gwytnwch yn cael ei ddiffinio fel "addasu'n dda yn wyneb adfyd".
Byddwn yn ychwanegu ei fod yn hefyd yn golygu addasu i newidiadau mewn bywyd, a thyfu a dod yn rhywbeth hyd yn oed yn fwy arbennig. Pan rydyn ni yn teimlo'n isel, mae'n anodd credu y gallwn dyfu drwy gyfnodau anodd a gwneud ein bywydau yn gyfoethocach ac yn fwy cyflawn, waeth pa mor anodd yw hi ar y pryd.
Mae gwneud rhywbeth mewn ffordd sy'n rhoi mwynhad plentyn i chi, fel gwneud rhywbeth gyda'ch dwylo, neu nofio yn y môr, neu beth bynnag arall, yn gallu dod â gwir lawenydd.
Mae'n dod yn llai am beth rydyn ni wedi'i golli, neu na allwn ei wneud mwyach, a mwy am beth rydyn ni'n ei ennill trwy dyfu drwy gydol ein bywyd.
Hyd yn oed wrth fyw gyda chyfyngiadau, yn enwedig ar hyn o bryd gyda Covid-19 - gallent fod yn gyfrifoldebau teuluol, cyfyngiadau ariannol, neu ein perthynas ni â phobl eraill - mae'n bosibl inni barhau i dyfu, a dod o hyd i'n "bywyd da", o fewn y cyfyngiadau yma, cyn belled nad ydynt yn niweidiol i ni neu eraill.
Ac mae'n sicr y bydd y "bywyd da" hwnnw inni rŵan, yn newid yn y dyfodol. A'r rhyfeddod yn hyn i gyd ydy nad ydyn ni'n gwybod beth allai'r "bywyd da" hwnnw fod i ni yn y dyfodol.
Mae ein bywyd cyfan yn broses o dyfu. Mae hyn yn golygu addasu dros y blynyddoedd, a'r addasu yma ydi'r allwedd i ddod o hyd i ryw fath o hapusrwydd mewnol.
Felly, fel y dywedodd Gloria Gaynor, "I am my own special creation". Gan siarad fel menyw sy'n byw gydag anabledd, ac yn gorfod addasu'n barhaus i olwg sy'n dirywio, rydw i wedi dysgu derbyn.
Dwi'n canolbwyntio ar "beth dwi'n gallu ei wneud" yn hytrach na "beth allai ddim ei wneud mwyach" a dwi'n darganfod y gall hyn arwain at bethau sy'n wirioneddol annisgwyl.
Mae Rhiannon yn athro yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor, dolen allanol ac wedi rhoi sgwrs Tedx, dolen allanol ar sut i adeiladu eich gwytnwch ar ôl colli golwg. Bydd yn westai ar gyfres Anrhegion Melys Richard Holt ar S4C fis Tachwedd. Mae hi'n parhau i ddysgu Cymraeg ac eisiau diolch i Llinos Haf Spencer am ei chymorth wrth addasu ei geiriau o'r Saesneg.
Hefyd o ddiddordeb: