Y Gynghrair Genedlaethol: Stockport 2-0 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Y Gynghrair GenedlaetholFfynhonnell y llun, Getty Images

Gêm rhwng dau dîm mewn safleoedd tebyg yn y gynghrair genedlaethol oedd gêm Wrecsam yn Stockport ddydd Llun.

Go brin bod y Dreigiau wedi ei mwynhau oherwydd o fewn 12 munud roedd Richie Bennet wedi rhoi'r Hatters ar y blaen.

Yna gwta dair munud yn ddiweddarach cafodd y tîm cartref gic gornel a pheniodd Jordan Keane y bêl i'r rhwyd.

Prin oedd y cyfleoedd i'r Dreigiau - Jordan Ponticelli gafodd y cyfle gorau ond ergydiodd y bêl dros y bar.

Y ddwy gôl gynnar oedd yn gwahanu'r ddau dîm drwy'r prynhawn.

Mae Stockport County bellach yn bedwerydd yn y gynghrair a Wrecsam yn ddeuddegfed ond eto dim ond tri phwynt y tu ôl i Stockport.