Degau yn heidio i Fannau Brycheiniog yn y cyfnod clo
- Cyhoeddwyd

Roedd degau o geir wedi parcio bob ochr y ffordd ger Bannau Brycheiniog ddydd Llun
Daeth tyrfa o bobl i Fannau Brycheiniog ddydd Llun a hynny er bod Cymru gyfan mewn cyfnod clo.
Roedd yr ardal wedi cael ychydig o eira dros nos.
Mae nifer o rybuddion melyn y Swyddfa Dywydd mewn grym ar draws Cymru yn ystod y dyddiau nesaf.
Ddydd Mawrth mae rhybudd melyn o eira a rhew yn y gogledd ddwyrain, canolbarth Cymru a'r dwyrain.
Ddydd Mercher a ddydd Iau mae rhybudd melyn o eira a rhew ar draws de Cymru.

Cerddwyr yn cerdded Pen y Fan ddydd Llun

Yr eira ar y mynyddoedd ger Y Fenni ddydd Llun


Eira uwchben Rhondda Fach ddydd Llun