Cynnydd eto yn nifer y marwolaethau Covid-19 yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae byrddau iechyd Aneurin Bevan a Bae Abertawe wedi gweld y nifer fwyaf o farwolaethau Covid-19 ers diwedd Ebrill, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Ar draws Cymru cafodd 256 o farwolaethau'n ymwneud â Covid-19 eu cofnodi yn yr wythnos hyd at 18 Rhagfyr - 33 yn fwy na'r wythnos flaenorol.
Coronafeirws oedd achos 29% o'r holl farwolaethau yng Nghymru yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Mae cyfanswm o 4,479 o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 wedi cael eu cofnodi yng Nghymru bellach.
Rhondda Cynon Taf â'r gyfradd uchaf
Roedd 63 o farwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan dros yr wythnos honno - 52 o'r rheiny mewn ysbytai a saith mewn cartrefi gofal.
Cofnodwyd 61 o farwolaethau gan Fwrdd Iechyd Bae Abertawe - 43 mewn ysbytai a 13 mewn cartrefi gofal.
Fe wnaeth nifer y marwolaethau gynyddu yn ardal Cwm Taf Morgannwg hefyd, i 49.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos mai Rhondda Cynon Taf, sydd wedi gweld 610 o farwolaethau bellach, sydd â'r gyfradd farwolaethau uchaf yng Nghymru a Lloegr.
Mae nifer y marwolaethau ledled Cymru 22.8% yn uwch na'r cyfartaledd dros y bum mlynedd ddiwethaf.
Mae'r marwolaethau sy'n cael eu cofnodi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnwys unrhyw farwolaeth ble mae meddygon yn credu bod Covid-19 yn ffactor.
Yn wahanol i ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru, maen nhw'n cynnwys pobl sydd wedi marw gyda Covid-19, ond oedd heb gael prawf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2020