'Dwi ddim isho bod y go-to am hiliaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae Jason Edwards wedi cael digon ar gael ei holi am hiliaeth. Ers i fudiad Black Lives Matter ledu ar draws y byd, mae'r Cymro sy'n byw yn Pittsburgh, Pennsylvania, wedi trafod y pwnc dro ar ôl tro ar y cyfryngau yng Nghymru.
Mae'n cefnogi'r mudiad ac yn falch o'r cyfleon mae wedi'u cael, ond pam na wnaiff newyddiadurwyr ei holi am chwaraeon weithiau?
"Dwi'n dallt mwy am hwnnw!" meddai Jason sy'n hyfforddwr pêl-droed proffesiynol.
Doedd neb llawer wedi clywed am Jason tan iddo ymddangos ar rifyn hanesyddol o Pawb a'i Farn ar S4C - y cyntaf lle roedd pob un o'r cyfranwyr o gefndir ethnig lleiafrifol.
Ers hynny, mae wedi cyfrannu'n gyson i Hansh, wedi serennu ar raglen Trump, America a Ni, a chyflwyno'r podlediad Hollt , dolen allanolar y cyd â'r newyddiadurwraig Maxine Hughes.
Hiliaeth yng Nghymru a thu hwnt oedd y pwnc trafod ar Pawb a'i Farn. Ond doedd Jason ddim yn gwbl hapus â'r profiad.
"O'n i mor frustrated ar ôl gorffen achos roedd gymaint o bwyntiau o'n i angen trafod mwy," meddai, "o'n i'n teimlo'n flin dros Betsan rili gan bod ni'n fflio drwy'r cwestiynau. O'n i'n teimlo gallech chi wneud sioe am bob un cwestiwn a ches i'm siawns i ateb cwestiwn yn iawn."
Peth arall oedd wedi taro Jason oedd pa mor wych oedd gweld cymaint o siaradwyr Cymraeg eraill oedd yn edrych ychydig bach fel fe.
"Odd o'n reit cŵl. O'n i'n meddwl mai fi oedd yr unig un! O'n i'n siarad efo Ameer Davies-Rana (cyflwynydd Hansh) y dydd o'r blaen, ac o'dd o'n dweud bod 'na gymuned gyfan o bobl hil cymysg yn siarad Cymraeg yn y de, ac o'n i'n meddwl sut gythraul ydw i wedi methu hynna i gyd?"
Unigryw
Ym mhentref ei blentyndod, yn Gaerwen, ar Ynys Môn, roedd Jason yn teimlo'n unigryw.
"O'n i'n mwynhau bod yn unigryw. O'dd lot o bobl yn gwybod pwy o'n i - y person du sy'n siarad Cymraeg. Fi oedd yr unig berson croenddu dan 15 yn siarad Cymraeg ar Ynys Môn!"
Ond doedd ei fagwraeth ddim yn un cwbl hapus. Cafodd ei fwlio yn ei ysgol gynradd oherwydd lliw ei groen. Aeth pethau mor wael nes iddo symud ysgol ym mlwyddyn 5.
"Dwi'n meddwl o'dd lot o alw enwau yn fwy na dim arall," meddai Jason.
"Dwi''n cofio yn iawn sut o'dd pawb isho eistedd yng nghefn y dosbarth. Dyna lle oedd seti'r pobl cŵl. Roedd y ddwy set ddiwethaf yn erbyn wal. Roedd 'na wresogydd yna ac o'n i ail sêt i fewn o'r pen.
"O'dd stwff wedi cael eu symud un dydd a 'nath y plant eraill ddweud, 'Hei Jason ti'm yn cael eistedd wrth y gwresogydd rhag ofn i ti feddalu' ... O'dd rhai yn dweud bo fi'n edrych fatha siocled gan bod fi'n frown."
Ond pêl-droed oedd dihangfa a phleser Jason. Yn byw gyferbyn â'r cae pêl-droed yn Gaerwen, ac yn gefnogwr brwd o Lerpwl, ymunodd â sawl tîm ar Ynys Môn a thu hwnt wrth dyfu'n hŷn.
Fe wnaeth un o'r hyfforddwyr lleol ei gymryd dan ei adain pan oedd yn 16 oed a'i annog i hyfforddi timau ei frodyr a'i chwaer fach. O hynny ymlaen, hyfforddi oedd bywyd Jason.
Pan oedd yn 21 oed, daeth cyfle i hyfforddi plant yn America mewn gwersylloedd dros yr haf. Roedd Jason wrth ei fodd, aeth nôl eto ac eto ac wedi iddo gyfarfod â'i wraig, Kenie, penderfynodd aros yn yr Unol Daleithiau.
Profiad pawb mor wahanol
O fod yn un o leiafrif bach oedd o hil cymysg yng Ngaerwen, mae'n byw mewn cymdeithas aml-ddiwylliannol yn Pittsburgh erbyn hyn. Ond yr hyn mae wedi'i sylweddoli yn ddiweddar, yw mor wahanol y gall profiadau pobl fod beth bynnag yw lliw eu croen
Jyst achos bod fi'n ddu, mae pobl yn meddwl bod gen i ddealltwriaeth, ond dio'm yn wir o gwbl.
"Mae wedi agor fy llygad i. Mae mwy i liw croen pobl na mae pobl yn ystyried. Dwi wedi cael fy rhoi yn y sefyllfa yma, i gael dealltwriaeth o'r sefyllfa yma oherwydd bod fi'n groenddu. Ddim am bod fi wedi cael y profiad mae Black Lives Matter yn trio'i drwsio. Ond jyst achos bod fi'n ddu, mae pobl yn meddwl bod gen i ddealltwriaeth, ond dio'm yn wir o gwbl.".
Y gwir yw nad yw Jason yn teimlo'n wahanol i unrhywun arall oedd yn tyfu fyny yng Ngaerwen yr un pryd ag e: "Oedd pawb yn siarad Cymraeg iaith gyntaf, ro'n i'n siarad Cymraeg iaith gyntaf, roedd pawb yn Gristnogol, ro'n i'n Gristnogol. O'n ni gyd yn mynd i'r un ysgol, pawb yn hoffi pêl-droed, o'n i'n hoffi pêl-droed. O'n i'n ticio yr un bocsys heblaw am liw fy nghroen."
Roedd rhieni Jason yn wyn, a'i frodyr a'i chwaer yn wyn hefyd. Roedd mam Jason wedi cwrdd â'i dad biolegol tra roedd yn fyfyriwr yn adran amaeth Prifysgol Bangor. Roedd yn dod o Cameroon ac aeth nôl i Affrica ar ôl i'w astudiaethau ddod i ben a dyw Jason ddim wedi cwrdd ag e erioed.
Pan oedd yn 18 oed fe gysylltodd ei dad gyda'i fam ar Facebook, cyn anfon neges at Jason ond doedd Jason ddim yn barod i ddatblygu'r berthynas ar y pryd.
Mae'n gwybod bod gan ei dad deulu arall yn Cameroon, a bod ganddo ddau frawd a dwy chwaer: "Mae 'fath a cael sealed lock ar gymaint o wybodaeth. 'Chi methu jyst agor chydig bach i weld beth sy'n digwydd, mae 'na gymaint o wybodaeth am ddod allan os ti'n agor y drws yna.
"Dwi'm yn siwr os ydw i'n barod am yr holl wybodaeth. Dwi'm isho mynd yna a peekio a heb fod yn barod i fod yn gwbl agored i dderbyn popeth sy'n bodoli."
Pawb yn wahanol
Felly dyw Jason ddim wedi teimlo ei fod yn perthyn yn llawn i 'ddiwylliant du' ac yn teimlo'n gryf bod angen cydnabod bod profiadau pobl o hil leiafrifol a hil gymysg yn gallu amrywio yn enfawr.
"Mae gynna i gymaint mwy o barch at ba mor unigryw ydi pobl dros y byd i gyd achos dydi pobl ddim yn ffitio mewn i pigeon hole. Er bod pobl yn debyg, eto maen nhw mor wahanol yn eu hunain - a dyna be dwi wedi sylweddoli wrth fyw mewn ardal gyda chymaint o bobl sydd o hil gwahanol."
Mae Jason wedi mwynhau ei brofiadau yn ddiweddar, er iddo boeni am gyfnod ei fod ond yn cael y cyfleon oherwydd lliw ei groen.
Ond roedd cynhyrchydd Trump, America a Ni wedi egluro wrtho bod ganddo lawer mwy i gynnig - yn cynnwys y ffaith ei fod yn byw yn America ac wedi sefydlu fforwm drafod, Y Sgwrs Caled, ar Facebook.
Mae'n falch bod 'na ymdrech i gynnwys mwy o bobl o leiafrifoedd ethnig ar y cyfryngau nawr ac mae'n credu bod pethau wedi gwella yn aruthrol yng Nghymru ers ei fod e'n ifanc.
Siarad 'iaith clic' ar S4C
Y tro cyntaf iddo ymddangos ar S4C, roedd cynhyrchydd teledu wedi gofyn iddo gymeryd rhan mewn sgetsh gomedi, yn actio rhan bachgen Affricanaidd difreintiedig.
"Dwi'n cofio cyrraedd y stiwdio yng Nghaernarfon a fo'n gofyn ydw i'n siarad iaith clic (grŵp o ieithoedd ar gyfandir Affrica sy'n cynnwys sŵn cliciau) a finna'n deud na ddim o gwbl a fo yn deud 'O shambles, o'n i angen i ti fod o Affrica."
"Felly am yr hanner awr nesa' o'dd rhaid i fi wylio fideos o bobl yn siarad iaith Affricanaidd ac yna cael go ar siarad iaith clic. Dyna'r tro cyntaf i fi fod ar y teledu ar S4C.
"Mae o'n rili gwael yn meddwl nôl am y peth."
Mae S4C wedi cydnabod yn ddiweddar bod angen gweithredu ar gynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig ar y sianel. Mae'r sianel yn dweud ei bod yn benderfynol o gynyddu amrywiaeth ar y sgrîn a thu ôl y camera a gwella'r ffordd y mae Cymru a'r Cymry yn cael eu hadlewyrchu ar draws ein gwasanaethau.
Mewn datganiad mae S4C yn dweud: "Mae S4C eisoes yn gweithio gyda phartneriaid ar draws Cymru i ddatblygu a denu talent newydd i'r sector, ond mae angen i ni gyflymu'r broses ac ry'n ni'n falch o fod wedi penodi Nia Edwards-Behi i swydd Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant S4C fydd yn gweithio ar gynlluniau i sicrhau ein bod yn cyrraedd y nod."
Yn y cyfamser, mae Jason yn swatio gyda'i ferched Eluned ac Edie a'i wraig Kenie ynghanol lluwch mawr o eira yn Pittsburgh. Mae'n breuddwydio weithiau am fod yn gymeriad du ar Rownd a Rownd - oedd yn cael ei ffilmio mor agos at ei gartref ar Ynys Môn.
Ond yr hyn mae wir yn gobeithio fydd yn digwydd cyn bo hir yw y daw cais gan y cyfryngau iddo siarad am ei gariad cyntaf - chwaraeon.
"Dwi ddim isho bod y go-to am hiliaeth. Dwi'n gwybod mwy am chwaraeon! Dwi dal yn dysgu am hiliaeth."
Hefyd o ddiddordeb: