Ymateb cwmnïau o Gymru i fywyd wedi Brexit
- Cyhoeddwyd
Wrth i gytundeb masnach rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd ddod i rym mae cwmnïau yng Nghymru yn dweud y bydd heriau newydd yn eu hwynebu.
Mae cwmni bwyd Castell Howell yn mewnforio oddeutu 9% o'u cynnyrch o Ewrop, ac o ddydd Calan 2021 ymlaen fe fydd y drefn yn dra gwahanol medd Nigel Williams o'r cwmni.
"Tan y misoedd diwethaf doeddwn i ddim wedi cael llawer o fanylion - dim ond cael rhif cofrestru ar gyfer mewnforio," meddai.
"Ry'n ni wedi cael dogfennau swmpus am yr holl beth ond mae'r cyngor wedi bod yn newid yn aml. Ry'n yn hynod o falch bod cytundeb wedi dod wythnos diwethaf.
"Ond ry'n ni wedi apwyntio asiant i ddelio gyda'r gwaith papur a sicrhau y bydd popeth yn gweithio'n hwylus, gobeithio, yn y porthladdoedd.
"Cyn heddiw roedd popeth yn rhwydd - byddai bara yn cyrraedd o Sbaen a sglodion o Ffrainc yn ddidrafferth. Ond nawr bydd rhaid cysylltu gyda'r cwmni sy'n cyflenwi, byddan nhw wedyn yn cysylltu gyda'r asiant, bydd rhaid cofrestru lle yn y porthladd fel bod pethau yn dod trwyddo yn hwylus.
"Mae 'da ni ryw 25 o gyflenwyr o Ewrop. Bydd y cyfan yn dipyn o her, yn enwedig yn nyddiau Covid."
'Mwy o gost i'n cwsmeriaid'
Mae cwmni PERO yn allforio bwyd i anifeiliaid anwes ar draws y byd.
"Fi'n rhagweld lot yn rhagor o waith papur," medd perchennog y cwmni Jonathan Rees.
"Fi'n credu hefyd bydd y gost yn cynyddu i'n cwsmeriaid ar y cyfandir ac yn Iwerddon. Fydd ein prisiau ni ddim yn gallu bod mor gystadleuol rhagor.
"Pan ro'n i yn siarad yn ddiweddar â chwsmer yn Iwerddon roedd e'n dweud ei fod yn mynd i edrych ar be mae e'n ei brynu o Brydain a phwy a ŵyr pa effaith fydd y cyfan yn ei gael arnom ni.
"Bydd tipyn mwy o gostau 'da ni - bydd angen cael tystysgrif milfeddyg ac angen dilyn taith y cynnyrch at y cwsmer."
'Rhaid cael yswiriant'
Dywed Ann Jones, perchennog cwmni Teithiau Menai y bydd ei chyngor hi i deithwyr yn newid cryn dipyn.
"Bydd rhaid i deithwyr rhagor sicrhau bod chwe mis o amser ar ôl ar eu passports. Os yn teithio drwy Ewrop am dros 90 diwrnod bydd rhaid cael fisa.
"Hefyd mae'n rhaid i deithwyr siecio beth yw cytundeb eu ffonau symudol fel 'dach chi ddim yn dod adref i fil anferth o daliadau crwydro.
"Ac mae hi hefyd yn fwy pwysig nag erioed i gael yswiriant. Bydd y cerdyn iechyd Ewropeaidd yn ddilys tan y dyddiad sydd arno ac yna yn dod i ben ond mae'n rhaid cael yswiriant pan fydd hi'n bosib i deithio unwaith eto."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2020