Sawl apêl i bobl ddathlu'r Calan yn bwyllog eleni

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Llun stoc o barti dan gyfyngiadau coronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae yna apêl o sawl cyfeiriad i bobl beidio â chymdeithasu yng nghartrefi ei gilydd wrth ddathlu'r Calan er mwyn atal coronafeirws rhag lledu.

"Dydy'r un parti'n werth y risg," yn ôl Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, sy'n gofyn i bobl aros adref nos Wener.

Ac mae un comisiynydd heddlu'n rhybuddio y bydd ei blismyn yn barod i roi dirwy i bobl sy'n torri'r gyfraith.

Mae yna bryderon y bydd pobl yn nodi troad y flwyddyn trwy fynd i bartïon anghyfreithlon yn yr awyr agored, neu ymweld â mannau o harddwch naturiol.

Hefyd mae rhieni a gwarchodwyr yn cael eu rhybuddio fod plant sy'n mynd i bartïon anghyfreithlon yn wynebu dirwyon.

Ffynhonnell y llun, Robert Melen Photography
Disgrifiad o’r llun,

Heidiodd nifer fawr o bobl, rhai o bell, i ardal Pen y Fan ddechrau'r wythnos

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod "yn ymwybodol o negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch partïon a rêfs Nos Galan".

Ychwanegodd llefarydd: "Os rydych yn trefnu neu'n mynd i un [o'r fath ddigwyddiadau], byddwch yn torri cyfyngiadau Llywodraeth Cymru, ac felly'n torri'r gyfraith."

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn wedi rhybuddio pobl i beidio ymweld â chyrchfannau poblogaidd ym Mannau Brycheiniog, fel Pen y Fan, neu wahodd pobl eraill i'w cartrefi i ddathlu.

"Ni'n gofyn i bobol fod yn bwyllog ac i beidio partïo," dywedodd. "Ond pan fydd yna wybodaeth yn dod i law ble mae pobol yn torri'r rheole, fydd yr heddlu yn weithredol ac yn ymyrryd."

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yn erfyn ar bobl i gadw'n ddiogel drwy nodi'r flwyddyn newydd adref, gan rybuddio bod y sector gofal iechyd "dan bwysau eithriadol ar hyn o bryd".

"Nid yw'r un parti werth y risg," meddai cyfarwyddwr gweithrediadau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Lee Brooks.

Ychwanegodd fod modd i bobl helpu "trwy beidio cymryd unrhyw risgiau diangen o gwmpas y cartref, yfed yn gymedrol yn unig, ac wrth gwrs trwy beidio trefnu neu mynd i ddigwyddiad torfol".

'Gwnewch y peth cywir'

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly, wedi apelio ar bobl y rhanbarth "i wneud y peth cywir i'w cymuned a dathlu'n wahanol eleni drwy aros adref".

Ychwanegodd: "Mae lefelau coronafeirws yn parhau'n uchel yn rhannau helaeth o sir Gwent a thrwy ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru rydym oll yn achub bywydau ac yn gwarchod y GIG."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n arferiad i rai gerdded i gopa Moel Famau, ger Yr Wyddgrug, i nodi achlysuron arbennig fel Nos Galan

Dywed Cyngor Sir Ddinbych y bydd swyddogion yn atal pobl sy'n nodi'r Calan bob blwyddyn trwy gerdded i gopa un o Fryniau Clwyd.

Mae nifer yr ymwelwyr â Moel Famau dros y dyddiau diwethaf wedi "codi pryderon potensial" y bydd nifer ag awydd mynd yno nos Wener, meddai'r Cynghorydd Martyn Holland.

"Dan amgylchiadau arferol, ni fyddai hynny'n bryder o gwbl," meddai. "Ond mewn cyfnod ble mae Cymru dan glo oherwydd Covid-19, partïon Nos Galan wedi'u canslo a thafarndai ac yn y blaen ar gau, mae yna bryder y bydd mwy o bobl o lawer yn ceisio gwneud y bererindod yma eleni."

Bydd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a cheidwaid ar batrôl yn yr ardal a byddant hefyd yn cadw golwg ar y tywydd rhag ofn bydd yn gwaethygu digon i ystyried cau ffyrdd.

Pynciau cysylltiedig