Covid-19: 'Cyfle a bygythiad' datblygiadau technolegol
- Cyhoeddwyd
Mae datblygiadau technolegol a wnaed yn ystod y pandemig yn "gyfle yn ogystal â bygythiad" i weithwyr, meddai un arbenigwr.
Mae'r defnydd o awtomeiddio, roboteg a deallusrwydd artiffisial (AI) wedi tyfu 30% ers mis Mawrth 2020, yn ôl y corff diwydiannol Technology Connected.
Daeth adroddiad i'r casgliad y gallai hyn niweidio rhagolygon gwaith staff ar gyflogau is, menywod, pobl ifanc a grwpiau lleiafrifol.
Ond dywedodd yr Athro Phillip Brown o Brifysgol Caerdydd bod yn rhaid defnyddio technoleg i helpu i lunio dyfodol gwell.
Mae awtomeiddio yn golygu cynhyrchu a darparu nwyddau a gwasanaethau heb fawr o ymyrraeth ddynol, ac AI yw'r hyn y mae robotiaid a dyfeisiau'n ei ddefnyddio i gyflawni'r tasgau hyn.
'Angen gwell dealltwriaeth'
"Mae angen i ni gael gwell dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio technolegau mewn ffordd sy'n gadarnhaol i'r gweithlu, mewn ffordd sy'n gadarnhaol i Gymru," meddai'r Athro Brown.
Fe gadeiriodd adolygiad annibynnol i arloesi digidol, yr economi a gwaith i Lywodraeth Cymru.
"Mae'n anodd iawn llunio barn am ble rydyn ni oherwydd wrth gwrs mae llawer o fusnesau ar gau mewn gwirionedd ac yn methu agor," meddai.
"Ond rwy'n credu yn y bôn nad ydyn ni mewn sefyllfa wych, ac rwy'n credu bod gwir angen i ni ddechrau gweithredu'n well."
"Mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r cyfle hwnnw ond byddwn ni'n methu os na fyddwn ni'n dod at ein gilydd gyda'r llywodraeth, busnesau, undebau a rhanddeiliaid eraill i gyflwyno Cymru yn wahanol mewn gwirionedd, a gweld sut allwn ni symud yr economi," meddai'r Athro Brown.
"Sut allwn ni symud i greu dyfodol gwell i bobl? Oherwydd os ydyn ni'n caniatáu i'r technolegau bennu ein tynged bydd y dyfodol yn anodd iawn."
Mae X-STK yn gwmni awtomeiddio gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd sy'n cynnig cynhyrchion a hyfforddiant ar ddefnyddio "cobots", neu robotiaid cydweithredol.
Defnyddir y cobots hyn mewn diwydiannau o rai fferyllol i foduro ac mewn prifysgolion.
Mae'r cwmni wedi gweld cynnydd mawr yn y galw am awtomeiddio - gyda phobl yn methu â mynd i'r gwaith - i helpu gyda llai o staff a mesurau fel pellhau cymdeithasol.
Ond a yw awtomeiddio yn anochel yn arwain at ddisodli pobl? Dim yn ôl Jessica Watts o'r cwmni.
"Mae allbwn yn cynyddu, sy'n golygu galw uwch fel bod y bobl hynny a fyddai fel arfer wedi bod yn gwneud y swyddi ailadroddus iawn, a allai fod yn beryglus - gyda phroblemau RSI a phethau eraill fel hynny - mewn gwirionedd, mae'r bobl hynny yn mynd ymlaen i ddatblygu sgiliau uwch, ac mae ganddyn nhw swyddi gwell, ac maen nhw'n gwneud pethau sydd â mwy o werth," meddai.
Dywedodd Technology Connected fod bron i 70% o'r holl fusnesau a holwyd wedi cynyddu eu defnydd o dechnoleg o ganlyniad i'r pandemig a dywedodd 48% eu bod wedi achosi iddynt werthuso a chyflymu eu defnydd o dechnoleg ac arferion gwaith newydd.
"Mae technoleg yn hollol hollbresennol ac nid mewn diwydiant yn unig," meddai'r rheolwr gyfarwyddwr Avril Lewis.
"Pwy fyddai wedi meddwl y byddem ni'n cysylltu â'n hanwyliaid trwy alwadau Zoom - neu wedi meddwl y byddem ni'n ymweld â'n meddygfeydd o bell, yn tynnu lluniau ar ein ffonau ac yn anfon y rheini drwodd i gael diagnosis.
"Pwy fyddai wedi meddwl y byddai ein plant yn cael eu haddysgu ar-lein gartref."
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y pandemig wedi taflu goleuni ar sut mae technoleg yn gallu newid bywydau.
"Yn ddiweddar lansiwyd ein strategaeth ddigidol ar gyfer Cymru a fydd yn bwysig wrth lunio sut yr ydym yn ffrwyno technoleg ddigidol, data, technoleg ac AI yn effeithiol nawr ac i'r dyfodol er budd pobl yng Nghymru," meddai dirprwy weinidog yr economi, Lee Waters.
"Mae newid yn digwydd ar gyflymder ac mae gennym gyfle go iawn i ddefnyddio pŵer digidol i wella ein gwasanaethau cyhoeddus a chreu diwylliant o arloesi a chydweithio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020