Troi gwastraff meddygol yn danwydd gwyrdd
- Cyhoeddwyd
Gall masgiau a menig plastig untro gael eu troi'n danwydd gwyrdd gan ddefnyddio techneg newydd sydd wedi'i ddatblygu gan wyddonwyr o Brifysgol Abertawe.
Fe allai helpu taclo problem fyd-eang ynglŷn â beth i'w wneud a gwastraff meddygol y pandemig, medd yr ymchwilwyr.
Ar hyn o bryd mae hen PPE yn cael ei losgi, gan gynhyrchu allyriadau sy'n cyfrannu at gynhesu byd eang.
Mae'r dull newydd yma'n defnyddio golau'r haul i dorri'r eitemau i lawr i mewn i hydrogen.
Yn ogystal, mae'r ymchwilwyr yn ceisio darganfod a ydy'r broses yn gallu lladd y germau sydd ar y PPE - gan gynnwys coronafeirws.
Maen nhw'n dweud y gallai arbed lot o arian i'r gwasanaeth iechyd - gydag oddeutu £700m y flwyddyn yn cael ei wario cyn y pandemig ar gael gwared ar wastraff meddygol ar draws y DU.
Fe honnodd Dr Moritz Kuehnel, arweinydd y prosiect ac uwch-ddarlithydd mewn cemeg ym Mhrifysgol Abertawe y byddai "defnyddio'n technoleg ni i ailbrosesu hyd yn oed 1% o'r gwastraff yma yn arbed miliynau o bunnau ac yn helpu atal llygru'r amgylchfyd."
Mae dod o hyd i ateb sy'n "rhad ac yn hawdd i'w weithredu yn bwysig iawn", yn enwedig i wledydd sy'n datblygu ac efallai heb isadeiledd ailgylchu da na llosgyddion pwrpasol, meddai.
Tra'n pwysleisio bod hi'n dal i fod yn ddyddiau cynnar o ran yr ymchwil, fe ddywedodd mai'r gobaith yn y pendraw oedd datblygu dyfais rad allai pobl ei ddefnyddio.
"Felly fydde gyda chi rhyw fath o beiriant golchi syml - ry'ch chi'n rhoi eich gwastraff i mewn, ei droi ymlaen, aros i'r haul wenu ac yna bydde'r gwastraff wedi mynd ond bydde hefyd gyda chi rhywbeth arall yn ei le sydd â gwerth iddo."
Defnyddio hydrogen fel tanwydd
Wrth i wledydd ar draws y byd geisio cael gwared ar danwyddau ffosil er mwyn taclo newid hinsawdd, mae hydrogen yn cael ei weld fel tanwydd amgen, glan ar gyfer cerbydau a gwresogi adeiladau.
Mae'r ymchwil newydd yma'n adeiladu ar waith blaenorol y tîm wrth gynhyrchu hydrogen o hen blastig - techneg o'r enw ffotoddiwygio.
Mae'n gweithio drwy ddefnyddio catalydd ffoto - deunydd sy'n amsugno golau ac sy'n gallu ei droi'n ynni i annog adwaith cemegol - yn yr achos yma mae'n dirywio plastig a throi dŵr yn hydrogen.
Mae hefyd yn cynhyrchu moleciwlau penodol sy'n gysylltiedig â lladd germau.
Felly mae'r tîm wedi sefydlu partneriaeth ag arbenigwyr iechyd o'r King Institute of Preventive Medicine & Research yn India, a dwy o brifysgolion y wlad - Prifysgol Thiruvalluvar a'r Indian Institute of Technology Mandi.
Byddan nhw'n ymchwilio i allu'r catalyddion ffoto i ddiheintio cynnyrch - gan gynnwys gweld a ydyw'n gweithredu yn erbyn SARS-CoV-2 - y feirws sy'n achosi COVID-19.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig £47,000 o nawdd i'r gwaith ymchwil, gyda'r tîm wrthi'n chwilio bellach am bartneriaid ym myd diwydiant i geisio masnacheiddio'r dechnoleg.
Dywedodd Dr Sudhaghar Pitchaimuthu, Cymrawd Sêr Cymru-II yng ngholeg peirianneg Prifysgol Abertawe: "Trwy droi'r gwastraff peryglus yma'n adnodd, ein bwriad yw i sicrhau symbyliad masnachol i gasglu'r gwastraff yma o'r amgylchedd ac atal sbwriel a llygredd yn y lle cynta'."
PPE 'yn broblem amgylcheddol enfawr'
Ychwanegodd Lesley Jones, prif weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus bod PPE sy'n cael ei daflu ar lawr yn datblygu i fod yn broblem amgylcheddol enfawr.
Mae data sydd wedi'i ddarparu i BBC Cymru gan yr elusen yn awgrymu bod eu gwirfoddolwyr wedi dod ar draws eitemau o PPE ar 45% o'u digwyddiadau casglu sbwriel ar draws y wlad ers mis Medi.
"Mae'r sbwriel yma'n cynnwys plastig sy'n cyrraedd ein hafonydd a'r amgylchedd morol, ac mae'r rhaffau bach sydd ar y masgiau yn achosi difrod go iawn i adar a bywyd gwyllt bach fel draenogod," meddai.
"Rhaid hefyd ystyried y perygl i iechyd y bobl sy'n pigo'r sbwriel yma i fyny."
"Ein neges ni fyddai'n amlwg iawn - plîs ewch a'ch sbwriel adref gyda chi neu ei roi yn y bin, ond hefyd ystyriwch brynu masgiau y mae modd eu hailddefnyddio gan eu bod nhw gymaint gwell i'r amgylchedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2020
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2020