Mwy ar ras i gael beic trydan - cyn ac ers y pandemig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Beic trydan, Evolution Bikes, Bae Colwyn

Gyda llai o gyfleon i fynd ymhell o adref, mae cyfyngiadau'r pandemig wedi cael cryn effaith ar arferion teithio.

Ond ydy cynnydd ym mhoblogrwydd beiciau trydan yn ysgogi newid yn y ffordd mae pobl yn mynd o gwmpas eu milltir sgwâr yn ogystal?

Y gwanwyn diwethaf, adeg y cyfnod clo cyntaf, cododd gwerthiant y beiciau hyn yn siop Halfords 230% - ac mae'r un duedd mewn siopau annibynnol hefyd.

"Roedd 'na gynnydd aruthrol yn y ddwy flynedd ddwytha' 'ma", meddai Gareth Jones, perchennog siop Evolution Bikes. Achos y twf mewn diddordeb, mae o wedi agor cangen newydd ym Mae Colwyn, gyda lle penodol i brofi beiciau trydan.

Disgrifiad o’r llun,

Gareth Jones o gwmni Evolution Bikes

"Er bod y gost llawer yn uwch na beics cyffredin - mae'n dipyn go lew o fuddsoddiad - mae pobl yn reidio cymaint mwy," meddai.

"Dwi ddim wedi clywed dim un person - a dwi wedi gwerthu lot dros y blynyddoedd - yn dweud eu bod ddim wedi mwynhau neu mai dim hwn oedd y dewis cywir."

Un ffordd o leihau'r gost yw trydanu beic cyffredin gyda motor bach - a dyna mae menter gymunedol Drosi Bikes yn ei wneud ger Rhuthun, Sir Ddinbych.

"Ein prif nod yw lleihau gwastraff sy'n mynd i landfill drwy gynnig opsiwn mwy affordable i bobl ar gyfer teithio efo effaith isel," meddai Beth Ward, un o'r sylfaenwyr.

"Dwi'n meddwl fod Cymru tu ôl i wledydd Ewrop o ran beiciau trydan, ond 'dan ni wedi gweld cynnydd yn y misoedd diwethaf gyda'r lockdown."

Disgrifiad o’r llun,

Beth Ward a Robin Hughes o gwmni Drosi Bikes

Yn ôl yr Institute for Transport for Quality of Life, mae tua hanner y teithiau sy'n cael eu gwneud ar feiciau trydan yn rhai fyddai fel arall yn digwydd mewn car, dolen allanol.

Er bod hynny'n awgrymu newid cynnil mewn arferion, mae'n tanlinellu'r angen am fuddsoddiad pellach mewn llwybrau beicio, yn ôl elusen Sustrans Cymru.

Angen buddsoddiad pellach

"I gael y budd mwya' allan o'r shifft yma, rhaid i ni weld buddsoddiad mewn seilwaith beicio saff a hygyrch iawn i bobl, fel bod gan bobl yr opsiwn o seiclo'n ddiogel," meddai Sara Jones o'r elusen.

"Hefyd, byddai'n grêt gweld mwy o brosiectau rhentu, fel bod dim rhaid i bobl brynu un, ond eu bod yn gallu gadael y tŷ yn y bore, pigo beic lan yn y stesion a seiclo i'r gwaith. 'Na beth fyddai'n gwneud gwahaniaeth go iawn i'r ffordd mae pobl yn teithio."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sara Jones yn galw am fwy o brosiectau rhentu beiciau

Mae Llywodraeth Cymru'n ymgynghori ar hyn o bryd ar eu strategaeth ddrafft ar drafnidiaeth - Llwybr Newydd - sydd yn addo buddsoddi mewn llwybrau beicio yn y pum mlynedd nesaf.

Yn ôl llefarydd, mae £20m ychwanegol wedi ei glustnodi yn y gyllideb ddrafft ar gyfer prosiectau teithio llesol, sy'n dod â'r cyfanswm i £50m yn 2021-22.

Dywedodd llefarydd: "Rydym eisiau i seiclo, gan gynnwys e-feicio, fod yn rhan annatod o'r rhwydwaith trafnidiaeth ac yn opsiwn cyfleus ar gyfer teithio'n lleol ar draws Cymru.

"Mae'r pandemig wedi newid patrymau teithio yn sylweddol ac rydym yn gweithio i sicrhau bod y cynnydd mewn seiclo'r rhywbeth fydd yn parhau yn y tymor hir."

Pynciau cysylltiedig