Diffyg anerchiad Covid-19 i Gymru wedi 'achosi dryswch'
- Cyhoeddwyd
Fe allai Prif Weinidog Cymru fod wedi lleihau dryswch ynghylch y rheolau coronafeirws yng Nghymru petai wedi annerch y wlad wedi'r cyhoeddiad fod Lloegr yn wynebu cyfnod clo newydd, yn ôl Aelod o'r Senedd Plaid Cymru.
Roedd Cymru eisoes dan gyfyngiadau caeth Lefel 4 cyn y cyhoeddiad ar gyfer Lloegr nos Lun, ac mae Delyth Jewell yn dweud bod sawl etholwr wedi gofyn iddi am eglurder wedi darllediad Boris Johnson.
Mae Plaid Cymru wedi galw am gyhoeddiad gan weinidogion yn cadarnhau'r bwriad i ehangu'r cyfnod clo yng Nghymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y cyfyngiadau'n cael eu hadolygu'n ddiweddarach yr wythnos hon.
Daeth y cyfnod clo presennol i rym yng Nghymru ar 20 Rhagfyr yn sgil lledaeniad amrywiolyn Covid-19 newydd.
Mae'n debygol o barhau tan o leiaf ddiwedd Ionawr wedi i Mr Drakeford ddweud ddydd Sul nad oedd yn "gweld llawer o le i newid".
Ddydd Llun fe gyhoeddwyd y byddai ysgolion Cymru'n parhau ar gau tan o leiaf 18 Ionawr, oni bai am i blant bregus a phlant gweithwyr allweddol.
Penderfynodd Llywodraeth Yr Alban hefyd ddydd Llun i gyflwyno cyfnod clo newydd, ac fe gytunodd y gweithgor yng Ngogledd Iwerddon i wneud cyfyngiadau oedd eisoes mewn grym yno yn ddeddf.
Ychwanegodd Mr Johnson at y dryswch, medd Ms Jewell, AS rhanbarth Dwyrain De Cymru, trwy fethu â phwysleisio'n ddigon clir nos Lun ei fod yn cyfeirio'n bennaf at y sefyllfa yn Lloegr.
Mae Plaid Cymru'n dadlau, yn sgil cyhoeddiadau Lloegr a'r Alban, y dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r cyfyngiadau yn gynt a chadarnhau bwriad i'w hymestyn yn y tymor byr.
'Niweidio hyder y cyhoedd'
"Mae dryswch a diffyg cyfathrebu'n gallu niweidio hyder y cyhoedd a lleihau bodlonrwydd glynu at y cyfyngiadau, felly mae angen gweithredu'n syth," meddai Ms Jewell.
"Yr hyn ddylai fod wedi digwydd oedd anerchiad cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru yn syth wedi i Boris Johnson siarad."
Byddai datganiad o'r fath gan Mark Drakeford, meddai, wedi helpu "atgoffa pobl pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa".
"Nid yw hyn, wrth gwrs, yn fater yn unig o beth mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud, neu heb wneud," meddai.
"Mae yna broblemau gwirioneddol gyda'r ffaith fod anerchiad Boris Johnson yn cael ei ddarlledu ar draws y DU, ac nid yw wastad yn glir o gwbl ei fod ond yn siarad am Loegr mewn gwirionedd.
"Dydw i ddim yn dweud mai Llywodraeth Cymru sydd i gyfri am hyn oll, ond oherwydd y cyd-destun rydym yn byw ynddo, fe fyddai wedi bod yn well petai'r pwynt yna wedi ei danlinellu.
"Oherwydd mae cymaint o fri i'r hyn mae Boris Johnson yn ei ddweud... mi wn fod nifer o bobl wedi'u drysu oherwydd mae etholwyr wedi bod mewn cysylltiad yn gofyn am eglurder."
'Cyfrifoldeb personol'
Ym mis Rhagfyr, cyflwynodd Heddlu De Cymru 500 o rybuddion cosb benodol i bobl am dorri'r rheolau coronafeirws.
Yn ôl Prif Gwnstabl y llu, Jeremy Vaughan, mae'r rheolau'n ddigon clir.
"Mae yna 44 tudalen o gwestiynau ac atebion ar wefan Llywodraeth Cymru sy'n ddigon clir os ydi pobl yn eu darllen, felly mae yna elfen o gyfrifoldeb personol i bobl yma ddeall y rheolau," meddai wrth Newyddion S4C.
"Dwi'n deall bod hi wedi bod yn anodd i bobl ond 'dan ni'n apelio ar bobl i ddilyn y rheolau."
Ychwanegodd bod cael rheolau tebyg yng Nghymru a Lloegr "wastad yn helpu pobol i'w deall... ond dwi'n meddwl bod y rheolau yng Nghymru'n eitha' clir - peidiwch treulio amser efo pobl 'dach chi ddim yn byw gyda nhw a pheidiwch â theithio oni bai bod rhaid."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2021