Hanes iselder teulu O.M. Edwards
- Cyhoeddwyd
Roedd y llynedd yn gan mlynedd ers marwolaeth Syr O.M. Edwards, y golygydd, llenor ac addysgwr dylanwadol o Lanuwchllyn.
Ar gyfer rhaglen Etifeddiaeth ar BBC Radio Cymru fe aeth ei or-wyres, Mari Emlyn, ar daith emosiynol i ganfod pa gyflyrau iechyd y gallai hi fod wedi eu hetifeddu gan O.M. a'i wraig Elin. Fe ysgrifennodd Mari am ei chanfyddiadau i BBC Cymru Fyw:
A hithau'n ganmlwyddiant marwolaeth O.M. Edwards llynedd, roedd llawer trywydd y gallwn fel gor-wyres iddo eu dilyn ar gyfer Radio Cymru.
Gan i'r rhaglen gael ei darlledu dros gyfnod y Nadolig, gallwn fod wedi dilyn sgwarnog ei ddyddiad geni; a gafodd O.M. ei eni ar ddiwrnod Dolig neu ar Ŵyl San Steffan? Beth oedd arwyddocâd y groes ar ei dystysgrif geni? A phwy yn union oedd ei dad o, ac felly pwy oedd fy hen hen daid innau?
Ond gyda hanes o iselder a chyflyrau niwrolegol yn frith drwy'r teulu, penderfynais seilio'r rhaglen ar etifeddiaeth genynnol.
A'r diddordeb pennaf gen i oedd nid O.M, ond ei wraig Elin. Roeddwn i'n awyddus i roi llais i'w stori hi, er mor drist ydi'r stori honno, gan fod gen i hen chwilen yn fy mhen am ein tuedd yn aml iawn i adael straeon y merched yn y cysgodion.
'Ai cyflwr genynnol ydi iselder?'
Roeddwn i'n llunio'r rhaglen, fel llunio'r erthygl fach hon, yn ystod y cyfnod clo; cyfnod tebyg i gyfnod y ffliw Sbaenaidd ychydig dros ganrif yn ôl. Ac fe gafodd Elin y ffliw ddiwedd 1918.
Ond nid y ffliw laddodd Elin. Erbyn dechrau 1919, fe'i llethwyd hi gan iselder. Ganol mis Mawrth, lluchiodd Elin ei hun o ffenestr ystafell ymolchi'r cartref yn Llanuwchllyn.
Fe'i hanafwyd hi'n ddifrifol a bu farw fy hen nain ar y 9fed o Ebrill 1919 yn 51 mlwydd oed.
A dyna osod prif gwestiwn y rhaglen: Ai cyflwr genynnol ydi iselder?
Profodd Elin sawl croes yn ei bywyd - a thybed â hithau wedi gwanio ar ôl y ffliw, nad aeth holl drawma ei bywyd yn drech na hi? Ynte oedd hi wedi etifeddu tuedd at iselder gan ei thad, Evan Davies, a fu farw mewn seilam?
Pan oeddwn i'n tynnu at derfyn y cyfnod recordio es i fynwent y Pandy yn Llanuwchllyn i ymweld â bedd Elin. Wrth recordio fy hun yn darllen enwau'r pump ar y garreg fedd, sylwais fod bedd arall yng nghysgod bedd fy hen nain ac enw 'Evan Davies, meddyg anifeiliaid' arno.
Dyma dad Elin a fy hen hen daid innau. Roeddwn i'n dal i recordio wrth ddarllen y geiriau ar y bedd a gweld fod ei wraig Gwen Davies (mam Elin) wedi ei chladdu yno hefyd.
'Dynes go arbennig'
Daeth rhywbeth drosof i wrth ddarllen ei henw a bu'n rhaid dod â'r recordio i ben. Dyna'r unig ddarn o'r recordio lle'm trechwyd i gan emosiwn. Pam i mi ddechrau dadfeilio wrth ddarllen enw fy hen hen nain nad oedd wedi cael dim sylw yn y rhaglen?
A dyna ateb fy nghwestiwn fy hun. A finnau'n daer am roi llais i stori'r merched, roeddwn innau wedi syrthio i'r fagl o anwybyddu dynes go arbennig.
Goroeswraig oedd Gwen Davies. Ar ôl colli ei rhieni a'i brodyr, gadawyd hi'n ferch ifanc i gynnal fferm gan erw. Priododd â'r milfeddyg Evan Davies a chawsant saith o blant; un mab a chwe merch.
Er diogelwch ei phlant, anfonodd Gwen Davies ei gŵr i ysbyty meddwl Dinbych yn 1882 ac wedyn yn 1884 i Hydro yn Buxton, Swydd Derby ble bu farw. Achos ei farwolaeth oedd 'General Paralysis of the Insane' a dwi'n trafod y term erchyll hwnnw yn y rhaglen.
Gadawyd Gwen i ffermio'r Prys Mawr a magu'r saith plentyn ar ei phen ei hun. Cafodd tair o'r merched byliau difrifol o iselder a thystiodd Gwen Davies i hunanladdiad dwy o'i merched.
A hithau dros ei phedwar ugain oed, gwyliodd angladd ei merch Elin o ffenest y Prys cyn iddi hithau farw rai misoedd yn ddiweddarach.
Gwelais, wrth baratoi'r rhaglen, mor hawdd, hyd yn oed wrth osod merch yn brif gymeriad y stori, ydi colli golwg ar gymeriadau benywaidd eraill straeon ein teuluoedd. Dyna pam, mae'n debyg, i mi gael pwl bach o emosiwn wrth lan bedd fy hen hen nain.
A beth oedd yr emosiwn yna? Ynghanol y tristwch a'r cywilydd o sylweddoli i mi ei hanwybyddu hi, roedd yna hefyd ddogn o falchder.
Fu bywyd ddim yn hawdd i Gwen Davies a phe bawn i'n gallu etifeddu owns o ddycnwch ac urddas hen ledi'r Prys, mi faswn i'n fodlon iawn fy myd.
Hefyd o ddiddordeb: