Cofio 'arweinydd dadeni diwylliannol Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae 15 Mai yn nodi 100 mlynedd ers marwolaeth y golygydd, llenor ac addysgwr dylanwadol, Syr Owen Morgan Edwards o Lanuwchllyn ger y Bala.
Roedd OM Edwards yn academydd o fri wnaeth astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Glasgow a Choleg Balliol, Rhydychen. Roedd yn Brif Arolygydd Ysgolion y Bwrdd Addysg yng Nghymru, yn awdur a gyhoeddodd nifer fawr o lyfrau a chylchgronau i oedolion a phlant, ac yn Aelod Seneddol dros Sir Feirionnydd.
Mae'r Athro Hazel Walford Davies, gynt o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Morgannwg, yn arbenigo ar fywyd a gwaith OM Edwards. Mae newydd ryddhau cofiant swmpus 600 tudalen, O.M. - Cofiant Owen Morgan Edwards, i nodi cyfraniad aruthrol y gŵr o Lanuwchllyn.
"Gadawodd gasgliad anferth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac roedd e'n cadw dyddiaduron ers pan oedd yn blentyn - roedd yn cadw pob darn o bapur, pob nodyn oedd e'n wneud," meddai Hazel Walford Davies.
'Gorthrwm Ysgol y Llan'
Roedd y Welsh Not yn cael ei ddefnyddio yn Ysgol Llanuwchllyn ac fe gafodd OM Edwards hi rownd ei wddf sawl gwaith er na wnaeth sôn am hynny yn ei ddyddiaduron cynnar, yn rhyfedd iawn, meddai Hazel Walford Davies.
"Ond pan oedd yn ddyn ac yn Rhydychen, ac yn Brif Arolygydd Addysg, roedd yn sôn llawer iawn am orthrwm Ysgol y Llan, a'r ffaith bod y cyfan yn Saesneg, ac doedd e ddim yn deall llawer o Saesneg pan aeth i'r ysgol," meddai.
"Rwy'n credu mai effaith yr addysg gynnar yna a'i gwnaeth yn ddyn mor ddylanwadol wrth wyrdroi addysg Cymru ei gyfnod."
Gyrfa academaidd
Roedd yn ddyn hynod alluog ac fe raddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn hanes modern ac ennill prif wobrau hanes Prifysgol Rhydychen. Roedd hefyd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Dafydd ap Gwilym ym Mhrifysgol Rhydychen.
"Roedd ei wybodaeth mor helaeth, ond roedd yn weithiwr gwydn hefyd. Roedd yn gweithio o tua pump y bore tan un o'r gloch y bore. Doedd e ddim yn rhyfedd ei fod yn ddyn a oedd yn llwyddo, am ei fod yn ymroi cymaint i'w waith.
"Oedd mi roedd e'n ysgolhaig, ond rhoddodd OM Edwards heibio yr ysgolheictod hynny er mwyn gwella deunydd darllen Cymru, addysg Cymru, ac ehangu gwybodaeth y werin trwy ei gyhoeddiadau.
Y cylchgronau
Cafodd OM Edwards yrfa hir fel golygydd cylchgronau. Roedd yn gyd-olygydd Cymru Fydd (1889-1891), cylchgrawn y mudiad gwleidyddol o'r un enw, ac yn 1891 dechreuodd olygu a chyhoeddi y cylchgrawn Cymru (1891-1920) yn fisol, a adwaenir yn aml fel y Cymru Coch, oherwydd lliw y clawr.
Yn 1900 hefyd fe ddechreuodd gyhoeddi y cylchgrawn misol i blant Cymru'r Plant, a oedd ar ei anterth yn 1900 yn gwerthu tua 40,000 o gopïau y mis.
Roedd hefyd wedi cyhoeddi nifer o lyfrau hanes fel Trem ar Hanes Cymru, Cartrefi Cymru ac A Short History of Wales.
OM y gwleidydd
Ym mis Ebrill 1899 bu farw Aelod Seneddol Sir Feirionnydd, T E Ellis o'r Bala, yn 40 oed. Roedd yn ffrind agos i OM Edwards, ac o ganlyniad i'w farwolaeth fe fentrodd OM i fyd gwleidyddiaeth.
"Doedd e ddim yn wleidydd i ddweud gwir. Camgymeriad oedd y penderfyniad i fynd yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Sir Feirionnydd. Doedd e ddim yn hoffi siarad yn gyhoeddus yn Nhŷ'r Cyffredin - wnaeth e ddim siarad o gwbl o blaid nag yn erbyn dim, oherwydd ei ysgrifbin oedd ei arf e, nid araith gyhoeddus.
"Roedd ei ffrindiau i gyd wedi dweud wrtho i beidio mynd i San Steffan i gynrychioli Sir Feirionnydd," meddai Hazel "ond roedd e'n teimlo llaw ei ffrind T E Ellis ar ei ysgwydd ac yn ei arwain."
"Roedd e'n gymrawd o Goleg Lincoln, yn dysgu bechgyn o ysgolion bonedd. Roedd e'n gyfarwydd â delio gyda'r math o bobl fyddai yn Nhŷ'r Cyffredin. Roedd ganddo barch at bawb, ond doedd ganddo ddim gor-barch at bobl o ysgolion fonedd na phobl ariannog."
Yr Urdd
Ei fab, Ifan ab Owen Edwards, sy'n cael ei adnabod fel sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru. Ond fel esboniai Hazel fe chwaraeodd OM Edwards ran allweddol yn y datblygiadau hefyd.
"Fe wnaeth OM Edwards osod y sylfaen i ffyniant Urdd Gobaith Cymru. Oherwydd roedd wedi sefydlu, drwy gyfrwng Cymru'r Plant, hyn a alwodd yn Urdd y Delyn, ac roedd plant Cymru mewn aelwydydd dros Gymru gyfan yn ymaelodi â'r Urdd hwnnw. Ar batrwm Urdd y Delyn a wnaeth ei fab, Ifan ab OM Edwards, wneud yn siŵr bod Urdd Gobaith Cymru'n ffynnu.
"Felly mae ffyniant yr Urdd heddiw wedi tarddu o ffynhonnell OM Edwards, a da ni'n tueddi i anghofio hynny. Mae'r ffyniant yr ysgolion Cymraeg a'r ysgolion dwyieithog heddiw yn tarddu o ymgyrch OM Edwards i roi safle briodol i'r iaith Gymraeg yn ein ysgolion.
'Arloeswr'
"Roedd ein Prifysgolion hefyd ar yr adeg hynny yn Seisnig ofnadwy, ac fe 'nath e geisio, drwy bwyllgorau a drwy adroddiadau, roi pwyslais Cymraeg a Chymreig ar gyrsiau Prifysgol Cymru. Mi fydde wrth ei fodd o wybod bod Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyda ni heddi! Fe wnaeth fynnu mai system ffederal y dylai prifysgolion Cymru fod, gyda choleg ym Mangor, Aberystwyth, Caerdydd, doedd ddim coleg yn Abertawe y pryd hynny.
"Fe greodd batrwm ffederal Prifysgol Cymru, ac drwy'r amser roedd e'n pregethu yn erbyn penodi Saeson i swyddi penaethiaid y sefydliadau hynny, ond dyna a wneid. Roedd o flaen ei amser yn hyn - oedd mi roedd e'n ddyn ei oes, ond mewn llawer o ffyrdd roedd OM Edwards yn ddyn heddiw hefyd."
"Mae iaith OM Edwards yn dawnsio ar dudalennau ei lyfrau. Hen iaith farw oedd hi cyn hynny, ac un swmpus a hynod o orthrymus, ond fe wnaeth OM Edwards fywiogi'r iaith. Fel dywedodd John Morris Jones "roedd yr iaith Gymraeg wedi colli ei ffordd, ond daeth ein ffrind o hyd iddi".
"R'yn ni'n siarad am ffyniant nofelau a llyfrau Cymraeg heddi, dwi'n gwbl sicr na fydde pethau mor ddiddorol â heddiw oni bai am y patrwm dangosodd e i rhyddhau yr iaith Gymraeg. Nid yr unig yr iaith, ond y cynnwys hefyd - roedd y cynnwys yn apelio at werin Cymru ac at blant Cymru.
"Roedd e'n arloeswr mawr mewn nifer o ffyrdd. Pan chi'n meddwl am beth 'nath e o safbwynt addysg Cymru, roedd hynny'n chwyldroadol. Ond doedd dim yr hawl ganddo i newid pethau yn sylfaenol oherwydd gweithredu dan adain yr adran addysg yn Whitehall oedd e. Doedd ganddo ddim y rhyddid- byddai pethau wedi bod yn fil gwahanol petai'r awdurdod gyda fe i newid pethau yn eitha gwahanol i'r addysg yr oedd Lloegr yn cael - ond fe wnaeth e ei orau.
"Dywedodd OM Edwards bod gwybod ein hanes ni yn hollbwysig, ac bod angen cof ar bob cenedl oedd a mesur o hunan-barch. Rhan o'r hunan-barch hynny oedd bod yn ymwybodol o'r gorffennol, o'r presennol ac o bosibiliadau'r dyfodol.
"Mae dilorni hanes Cymru, neu gwrthod gwneud astudiaeth o hanes Cymru yn orfodol, yn rywbeth erchyll o safbwynt gwybodaeth ac ymwybyddiaeth plant Cymru o bwy y'n nhw; o ble ni wedi dod, ble y'n ni, ac ble ni'n mynd - hanes cenedl all roi rhywbeth fel yna i ni."
Diwedd ei oes
"Mi wnaeth e esgeuluso ei wraig a'i deulu, a dwi ddim yn credu ei fod o'n gwneud hynny yn greulon. Canolbwyntio yn ormodol wnaeth ar ei waith, doedd e ddim yn ymwybodol ei fod yn greulon tuag at ei wraig a'i deulu.
"Ond, wedi colli ei wraig, Elen, daeth e'n ymwybodol o'i esgeulustod ohoni, a daeth yn ymwybodol hefyd o'i gwerth, o ba mor ardderchog yr oedd hi fel person, fel gwraig. Fe'i lloriwyd, a dirywiodd ei iechyd. Wedi ei marwolaeth hi yn 1919 bu farw ef yn fuan wedyn."
Bu farw OM Edwards yn Llanuwchllyn yn 61 oed. Cafodd ysgol y pentre' ei henwi'n Ysgol OM Edwards ar ei ôl er teyrnged iddo.
Hefyd o ddiddordeb: