Ymddiheuro am ddod i ail gartref yn y cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gorchmynion Llywodraeth Cymru yn nodi nad oedd hawl teithio i Gymru heb esgus rhesymol

Mae prif weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) wedi ymddiheuro wedi iddi dorri rheolau y cyfnod clo ac aros yn ei hail dŷ yng Nghymru yn ystod gwyliau'r Nadolig.

Fe adawodd Rebecca Hilsenrath a'i gŵr eu tŷ yn Llanegryn, Gwynedd ar ddydd Nadolig wedi iddynt gael rhybudd gan yr heddlu.

Deallir bod plismyn wedi ymweld â nhw yn sgil pryderon gan drigolion lleol.

Rebecca HilsenrathFfynhonnell y llun, Mile 91/Dave Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Rebecca Hilsenrath aros yn ei hail gartref yng Nghymru wedi i'r cyfnod clo newydd ddod i rym

Mewn datganiad dywed Ms Hilsenrath: "Hoffwn ymddiheuro i'r gymuned leol yn Llanegryn, pentref lle ry'n ni wedi bwrw gwreiddiau, os wnes i achosi pryder a gofid yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Fe deithiais i'n cartref yng Nghymru cyn y cyfnod clo gan gredu bod y cyfyngiadau yn caniatáu hynny ar y pryd.

"Wrth i'r sefyllfa newid ac i'r cyfnod clo newydd ddod i rym ddaeth ein teulu ddim atom dros yr ŵyl ac wedi sgwrs fer llawn cymorth gan blismyn lleol fe gytunon ni adael ar unwaith ar ddydd Nadolig - gan wneud hynny fel bod dim angen rhybuddion pellach."

A woman with a face mask walking past Christmas decorationsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cyfyngiadau newydd i rym yng Nghymru ddechrau Rhagfyr

Deallir i Ms Hilsenrath deithio i Gymru ar 18 Rhagfyr - ddiwrnod wedi i Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan gyhoeddi bod Sir Hertford yn symud i gyfyngiadau Haen 3.

Gan nad oedd y rheolau newydd yn dod i rym tan 19 Rhagfyr doedd hi yn dechnegol ddim wedi torri rheol Llywodraeth Cymru oedd yn gwahardd pobl o ardaloedd Haen 3 yn Lloegr rhag dod i'r wlad.

Ond roedd y canllaw ar y pryd yn nodi "na ddylid teithio i Gymru heb esgus rhesymol" ac roedd y cyfarwyddyd yn nodi nad oedd "mynd ar wyliau" yn un o'r esgusion hynny.

Pan ddaeth cyfyngiadau Haen 4 i rym yng Nghymru ar Ragfyr 19 fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddweud y dylai unrhyw un nad oedd yn byw yng Nghymru yn llawn amser ddychwelyd adref ar unwaith ond roedd Ms Hilsenrath yn parhau i fod yng Ngwynedd.

'Hynod o flin'

Dywed y Cynghorydd Louise Hughes, sy'n cynrychioli ward Llangelynnin ar Gyngor Gwynedd, mai nid dyma'r tro cyntaf i Mrs Hilsenrath ymweld yn ystod y cyfnod clo.

"Dylai fod ganddi gywilydd am ei hymddygiad," meddai Ms Hughes.

"Mae'r gweddill ohonom yn ceisio cydymffurfio â'r rheolau. Rwy'n hynod o flin am yr holl beth."

Dywed y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol eu bod yn ystyried a oes angen gweithredu pellach.

Mewn datganiad dywed y cadeirydd, y Farwnes Kishwer Falkner: "Rwyf wedi cael gwybod bod Rebecca wedi teithio o'i chartref yn Sir Hertford i'w hail gartref yng Nghymru. Mae hi wedi ymddiheuro ac fe fyddaf yn ceisio canfod beth yn union ddigwyddodd cyn penderfynu a oes angen gweithredu ymhellach."

Doedd Heddlu'r Gogledd ddim am wneud sylw ar y mater.

Pynciau cysylltiedig