Ateb y Galw: Carwyn Eckley
- Cyhoeddwyd
Gyda chyfrol newydd o farddoniaeth yn cael ei chyhoeddi'r wythnos hon, tro Prifardd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd, Carwyn Eckley yw hi i Ateb y Galw.
'Trochi' yw ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth gyda cherddi yn adlewyrchu ei ddiddordebau, ei lawenydd a'i ofidiau fel bardd.
Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, mae Carwyn bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel newyddiadurwr.
Dyma ddod i adnabod Carwyn ychydig yn well.

Carwyn yn cael ei gadeirio ym Mhontypridd
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Un o'r atgofion cynharaf sydd gen i ydi dysgu reidio fy meic ar Lôn Eifion efo fy nhad, cyn i gi mawr - labrador, dwi'n meddwl, redeg ata i ac achosi imi ddisgyn oddi ar y beic. Mi gymrodd sbelan imi faddau i gŵn!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Dyffryn Nantlle. Golygfeydd anhygoel a phobl go-iawn, ffraeth.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mi oedd y parti yn Lille ar ôl i Gymru guro Gwlad Belg yn un go arbennig!

Carwyn yn dathlu yn Lille wedi buddugoliaeth Cymru yn erbyn Gwald Belg
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Positif, prysur, sensitif.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Gwers fathemateg tua Blwyddyn 9. Pedwar ohonon ni'n cyrraedd y dosbarth yn hwyr ar ôl gwers ymarfer corff ac yn meddwl y bydda' fo'n ddoniol cerdded mewn i'r dosbarth a chanu 'Hello, hello, hello, hellooooo" un ar y tro fel barbershop quartet.
Wnaeth neb yn y dosbarth chwerthin.
Troi rownd a sylweddoli bod y Prifathro, oedd yn y cefn yn arsylwi'r wers, wedi gweld y cyfan.
"Da chi isio trio hwnna eto hogia?" oedd ei ymateb o. Jaman go iawn!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Cael fy nal yn taflu papur tŷ bach gwlyb ar y to yn yr ysgol gynradd. Wps.

Mae Dyffryn Nantlle yn agos iawn at galon Carwyn a'i hoff le yng Nghymru
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Efo Siân, wrth inni wylio Seremoni'r Cadeirio eto ar ôl Eisteddfod Wrecsam 2025.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n gallu bod yn ddiamynedd iawn weithiau.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Dwi'n hoff iawn o'r podlediad Legacy sy'n trafod cyfraniad ffigurau mawr mewn hanes ac a ydyn nhw'n haeddu'r enw sydd gennyn nhw erbyn heddiw.

Carwyn a Dat - ei dad-cu, dyma un o'r lluniau pwysicaf yn ei gasgliad
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Fy nhad-cu mae'n debyg, neu Dat i fi.
Richie Brynmair oedd ei lysenw, ac roedd o'n löwr ym Mhwll Cynheidre yng Nghwm Gwendraeth.
Mae gen i gof plentyn ohono fel cymeriad mawr efo calon fwy. Mi fydda'n dda rhannu jôc efo fo dros beint heddiw.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dydw i ddim yn Gog go-iawn! Mae teulu Mam o Gwm Gwendraeth a theulu Dad o ochrau Aberhonddu.

Carwyn yn mynd am dro gyda'i deulu
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd am dro ar hyd yr arfordir neu fynydda efo fy nheulu a'r ci, cael cinio mawr yn rhywle a chael ffrindiau a theulu ynghyd am ddiod yn y nos.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Y llun o fi a Dat. Mae'n dal llawer o'r hyn sy'n bwysig i mi heddiw - teulu, pêl-droed a Chymru.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Bruno Fernandes

Fe hoffai Carwyn fod yn Bruno Fernandes, capten Manchester United am y diwrnod
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2024