Môn: Caniatáu cynllun parc technoleg fyddai'n 'creu 1,200 o swyddi'

Parc FfyniantFfynhonnell y llun, Stena Line
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anglesey Land Holdings Ltd - is-gwmni Stena - wedi prynu cyn-safle Alwminiwm Môn a'i ailenwi'n Parc Ffyniant

  • Cyhoeddwyd

Mae cynllun i godi parc technoleg ar gyn-safle Alwminiwm Môn, sy'n gobeithio creu dros 1,000 o swyddi, wedi derbyn sêl bendith y cyngor sir.

Yn ôl rheolwyr Parc Ffyniant, ar gyrion Caergybi, bydd y safle 220 erw yn cynnwys dros 220,000 metr sgwâr o ganolfannau data yn ogystal â swyddfeydd, fel rhan o gampws carbon isel.

Byddai'r safle - oedd yn gartref i'r cyn-weithfeydd alwminiwm - hefyd yn cynnwys system storio ynni batri, gan fanteisio ar gysylltiad â'r grid sydd eisoes yn bodoli yno.

Bellach wedi derbyn caniatâd cynllunio amlinellol gan Gyngor Môn, bydd y datblygwyr nawr yn darparu cynlluniau mwy manwl er mwyn cael dechrau ar y gwaith.

Disgrifiad,

Fel rhan o'r gwaith clirio a pharatoi fe ddaeth simnai adnabyddus Alwminiwm Môn i lawr y llynedd

Yn 2009 daeth smeltio i ben ar safle Alwminiwm Môn, oedd wedi bod yn gyflogwr pwysig yn y gogledd ers 1971.

Yn ddiweddarach cafodd cynlluniau ar gyfer 'parc eco' eu datblygu yno, ond aeth cwmni Orthios i'r wal yn 2022.

Mae Anglesey Land Holdings Ltd - is-gwmni Stena - bellach wedi prynu'r safle a'i ailenwi'n Parc Ffyniant, gyda'r bwriad o fanteisio ar statws Porthladd Rydd yr ynys.

Dywedodd Ian Hampton, rheolwr gyfarwyddwr Porthladd Rhydd Ynys Môn, ei fod "wrth fy modd" bod Parc Ffyniant wedi derbyn caniatâd amlinellol.

Ychwanegodd byddai'n helpu i gyflawni addewidion y Porthladd Rhydd drwy "greu swyddi i bobl Ynys Môn, amddiffyn treftadaeth ac iaith Cymru, a hybu twf economaidd ledled gogledd Cymru".

"Byddwn nawr yn canolbwyntio ar weithio gyda'n partneriaid a'r gymuned leol i gyflawni cynlluniau manylach wrth i ni barhau i fuddsoddi yn Ynys Môn," meddai.

'Manteision ehangach i Ynys Môn'

Yn ôl y datblygwyr byddai'r parc yn cynhyrchu twf o hyd at £578m yn yr economi leol bob blwyddyn, ac yn creu oddeutu 1,200 o swyddi.

Byddai'r cyfnod adeiladu, medden nhw, yn creu 890 o swyddi ychwanegol.

Yn ogystal â swyddi newydd, bydd y prosiect yn golygu buddsoddiad mewn hyfforddiant, addysg a datblygu sgiliau lleol.

Ychwanegodd pennaeth rheoleiddio a datblygu economaidd Cyngor Sir Ynys Môn, Christian Branch, bod sicrhau caniatâd cynllunio amlinellol yn "gam arwyddocaol".

"Mae'r garreg filltir bwysig hon yn hanfodol i ailddatblygu'r safle tir llwyd, a fydd yn cyfrannu at wireddu cyflawni gweledigaeth ehangach Porthladd Rhydd Ynys Môn," meddai.

"Bydd yn helpu i ddarparu nifer sylweddol o swyddi a buddsoddiad yn y safle a fydd yn sbarduno twf ac yn dod â manteision economaidd-gymdeithasol ehangach i Ynys Môn a gogledd Cymru."

Ian Davies
Disgrifiad o’r llun,

Ian Davies: "'Da ni mewn lleoliad gwych i ddarparu cyfleuster blaengar fel hwn"

Mae'r cwmni hefyd wedi prynu 100 acer o dir gerllaw yn ardal Cae Glas, Caergybi, yn ogystal â safle 10 acer cyn-ffatri 2 Sisters yn Llangefni, sydd bellach wedi ei ddymchwel.

Y llynedd dywedodd Ian Davies o gwmni Stena wrth BBC Cymru y byddai'r ganolfan ddata "ar flaen y gad" o ran technoleg, ond y byddai'n cael ei ariannu'n breifat.

"Yn draddodiadol mae canolfannau fel hyn wedi eu canoli ar hyd yr M25 ond mae'r galw lawer mwy erbyn hyn a 'da ni mewn sefyllfa eitha' unigryw," meddai.

"Ar hyn o bryd does gan Iwerddon ddim y gallu i gael mwy o ganolfannau data.

"Mae technoleg yn beth mawr o gwmpas ardal Dulyn ac wrth gwrs rydan ni 50 milltir o Ddulyn.

"Felly 'da ni mewn lleoliad gwych i ddarparu cyfleuster blaengar fel hwn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.