AS Reform 'wedi torri rheolau gyda sylw hiliol, ond nid ei threuliau'

Llun o Laura Anne JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Laura Anne Jones yn annerch cynhadledd Reform UK yn Birmingham ddydd Gwener diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae unig wleidydd Reform yn y Senedd wedi dwyn anfri ar y sefydliad am wneud sylw hiliol am bobl o China, yn ôl y comisiynydd safonau.

Roedd Laura Anne Jones hefyd wedi'i chyhuddo o dorri cod ymddygiad y Senedd am beidio â herio sylwadau amhriodol gan aelod o'i staff.

Ond cafodd ei chlirio o wneud ceisiadau treuliau ffug, gydag esboniad Laura Anne Jones wedi'i dderbyn - bod treuliau teithio anghywir wedi'i hawlio ar ei rhan gan fod negeseuon ganddi wedi'u camddehongli gan aelod arall o staff.

Dywedodd Laura Anne Jones na allai ymateb i "adroddiadau sydd wedi eu rhyddhau cyn cael eu cyhoeddi, heb i mi dorri'r rheolau".

Rhybudd: Mae'r stori hon yn cynnwys iaith hiliol gref a rhegi

Mae BBC Cymru wedi cael gafael ar gopi o adroddiad y comisiynydd safonau Douglas Bain, er nad yw wedi'i gyhoeddi eto.

Yn yr adroddiad mae Mr Bain yn beirniadu'r achwynydd - cyn-aelod o staff gafodd ei ddiswyddo ym mis Chwefror 2024.

Mae'n dweud iddi wneud cwyn allan o "ddial" ar ôl iddi gael ei diswyddo gan Laura Anne Jones.

Mae'r honiad yma'n cael ei wrthod gan yr achwynydd, sydd wedi dweud wrth bwyllgor safonau'r Senedd ei bod wedi bod yn ceisio gwneud y peth iawn, gan feirniadu'r modd y deliodd Mr Bain â'r gŵyn.

Daeth ymchwiliad heddlu i dreuliau Ms Jones i'r casgliad y llynedd fod dim tystiolaeth o dwyll.

Roedd Laura Anne Jones yn Aelod Ceidwadol o'r Senedd dros Ddwyrain De Cymru ar adeg yr honiadau, ond ers yr haf mae hi wedi ymuno â phlaid Reform.

Y llynedd fe ymddiheurodd Ms Jones am ddefnyddio gair hiliol sarhaus mewn neges WhatsApp wrth drafod ap TikTok, sy'n eiddo i gwmni o China.

'Sarhaus ac annerbyniol'

Dywedodd adroddiad Mr Bain fod Laura Anne Jones yn Awst 2023, wedi dweud "No chinky spies for me!" mewn grŵp WhatsApp lle'r oedd hi a'r achwynydd yn aelodau.

Yn ôl Mr Bain roedd y sylw yn torri rheolau'r Senedd am beidio â gwahaniaethu, gan ddwyn anfri ar y Senedd.

Mewn sgwrs WhatsApp gydag aelod arall o staff, fe alwodd Ms Jones cyn-weithiwr gwahanol yn "wanker" ac yn "bitter, twisted, useless person".

"Fe drïais i ddeall," ysgrifennodd.

"Fe wnes i hyd yn oed gofyn a oedd ganddo ADHD neu rywbeth, ac os oedd angen cefnogaeth ychwanegol arno ... achos mae 'na rywbeth sydd ddim yn iawn efo fo!?"

Fe gafodd yr unigolyn ei alw yn "Grade A prick", gan yr aelod o arall o staff oedd yn rhan o'r sgwrs.

Y neges WhatsApp
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd llun o'r neges dan sylw mewn sgwrs WhatsApp ei rannu gyda BBC Cymru y llynedd

Mewn neges ar 13 Tachwedd 2023, dywedodd yr aelod o staff uchod mewn neges WhatsApp: "Roedd Suella [Braverman, y cyn-ysgrifennydd cartref] yn gywir yn yr hyn a ddywedodd hefyd. Mae yna ddwy haen i blismona. Roedd yn amlwg dros y penwythnos os ydych chi'n wyn a dosbarth gweithiol rydych chi'n cael eich curo, os ydych chi'n Islamist mae popeth yn iawn, chwydwch yr holl gasineb yr ydych chi ei eisiau."

Disgrifiodd Mr Bain y sylw yma fel un "sarhaus ac annerbyniol".

Dywedodd fod Ms Jones wedi torri'r rheolau drwy fethu â herio'r sylwadau.

Dywedodd Mr Bain fod Ms Jones hefyd wedi torri rheolau'r Senedd wrth alw cyn aelod o staff yn "wanker" - gan gynnwys rheolau yn erbyn ymosod ar bobl.

Ymchwiliad i'w threuliau

Y llynedd daeth i'r amlwg bod Mr Bain wedi cyfeirio'r honiadau am dreuliau Ms Jones at yr heddlu, oedd wedi canfod nad oedd yna dystiolaeth o dwyll.

Fe gyhoeddodd BBC Cymru negeseuon testun o ffôn Ms Jones, ac roedd un yn dweud: "Wrth wneud y peth petrol - gwna fwy nag oeddwn i bob tro - ychwanega stwff i mewn plîs ok."

Roedd neges arall mewn sgwrs am dreuliau yn dweud: "Os allwch chi bob amser wneud mwy na mae'n dweud byddai hynny'n wych, diolch", gydag emoji bawd i fyny.

Doedd BBC Cymru ddim yn gallu gwirio a oedd y negeseuon yn cynrychioli'r sgyrsiau cyfan rhwng y bobl dan sylw, neu eu cyd-destun llawn.

Roedd negeseuon o ffôn Laura Anne Jones, a gyhoeddwyd gan BBC Cymru y llynedd, yn ymddangos fel pe bai'n gofyn i aelod staff: "Wrth wneud y peth petrol - gwna fwy nag oeddwn i bob tro - ychwanega stwff i mewn plîs ok."
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r negeseuon Whatsapp Saesneg a ddaeth i'r amlwg rhwng Laura Anne Jones ac aelod staff

Dywedodd adroddiad Mr Bain fod Jones wedi "nodi nifer o geisiadau am deithiau nad oedd hi wedi'u gwneud ac wedi ad-dalu" i'r Senedd "y swm a dderbyniodd".

Dywedodd y comisiynydd mai'r achwynydd oedd yn gyfrifol am gyflwyno ceisiadau treuliau, yn hytrach na Ms Jones.

Dywedodd Mr Bain fod yr achwynydd wedi dweud bod Ms Jones wedi gofyn iddi hawlio am deithiau ffug, gan ddweud bod negeseuon rhyngddi hi, Ms Jones ac eraill yn cefnogi ei thystiolaeth.

"Nid yw'r un o'r tystion a nodwyd gan yr achwynydd yn cefnogi ei fersiwn hi o'r digwyddiadau," ysgrifennodd Mr Bain.

Gwadodd Ms Jones iddi hawlio treuliau ffug a dywedodd nad oedd hi "yn cadw cofnod cywir o'r holl deithiau a wnaeth".

Dywedodd y gwleidydd ei bod wedi "dweud wrth yr achwynydd i ddefnyddio'r holl gofnodion sydd ar gael, er mwyn sicrhau ei bod hi'n cynnwys yr holl deithiau y gellid gwneud cais priodol amdano".

'Wedi camddehongli'r negeseuon'

Dywedodd Mr Bain ei fod yn fodlon â fersiwn Ms Jones o'r digwyddiadau.

Fodd bynnag, dywedodd nad oedd Ms Jones wedi darparu unrhyw hyfforddiant ar y cod ymddygiad, na'r rheolau a'r canllawiau ar ddefnyddio adnoddau'r Senedd - a bod hyn yn torri rheol.

Ond dywedodd y comisiynydd fod yr "achwynydd wedi camddehongli'r negeseuon WhatsApp fel cyfarwyddyd i gynllwynio gyda'r aelod i gyflwyno treuliau twyllodrus".

"Ni fyddai hynny wedi cael ei atal trwy ddarparu hyfforddiant," ychwanegodd.

Fe wrthododd y comisiynydd safonau gŵyn fod Ms Jones wedi methu â gweithredu yn unol â chod ymddygiad y Senedd pan gafodd yr achwynydd ei diswyddo ganddi.

Yn yr adroddiad dywedodd Mr Bain nad oedd wedi ei "blesio" gan "ymddygiad" yr achwynydd pan gafodd ei chyfweld.

Wrth drafod y treuliau dywedodd nad oedd yr achwynydd wedi gwneud unrhyw gwyn "tan fis ar ôl ei diswyddo, ac yna dim ond ar ôl i'w hymdrechion i gael ei chyflogi eto, neu i gael iawndal fethu".

"Nid dyna ymddygiad person gonest a dibynadwy," meddai Mr Bain.

Ychwanegodd ei fod yn amau ​​"bod y gŵyn yn erbyn yr aelod wedi'i gwneud mewn dial am yr hyn yr oedd yr achwynydd yn ei weld fel diswyddiad annheg".

Llun o Laura Anne JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ms Jones yn Sioe Frenhinol Cymru gyda Nigel Farage i gyhoeddi ei bod yn gadael y blaid Geidwadol i ymuno â Reform

Dywedodd Laura Anne Jones ei bod yn "siomedig" bod yr adroddiad wedi'i ryddhau ac nad oedd y broses gwynion "wedi'i pharchu a'i dilyn".

"Mae'r holl brofiad wedi cael effaith sylweddol ar fy iechyd a fy nheulu," meddai.

"Ni allaf ymateb i adroddiadau sydd wedi eu rhyddhau cyn cael eu cyhoeddi, heb i mi dorri'r rheolau.

"Rwy'n edrych ymlaen at roi ymateb llawn unwaith y bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn unol â'r broses safonau."

Bydd yr adroddiad nawr yn mynd at bwyllgor safonau'r Senedd, fydd yn argymell a ddylid cosbi Laura Anne Jones, gydag aelodau'r Senedd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

Er y gall y pwyllgor argymell ei hatal am gyfnod o amser, dydyn nhw ddim yn gallu ei gorfodi o'i rôl.

'Amgylchedd gwenwynig'

Mewn llythyr i'r pwyllgor safonau, mae'r achwynydd yn cyhuddo Mr Bain o "ddiffygion difrifol" wrth gynnal yr ymchwiliad, sydd yn ei barn hi wedi "gwadu proses deg a rhesymol i mi".

Honnodd fod y comisiynydd wedi "methu ag ymchwilio'n iawn i'm honiadau o fwlio, a oedd yn ganolog i'm cwyn" a dywedodd ei bod yn teimlo ei bod wedi'i "gwatwar a'i chywilyddio".

Dywedodd bod ei gallu i wneud cwyn yn gynharach wedi'i amharu gan ei hawtistiaeth a'r "amgylchedd gwenwynig a bwlio yr oeddwn yn destun iddo".

"Dyw hyn erioed wedi bod yn ddim byd mwy na cheisio gwneud y peth iawn," meddai.

Dywedodd Mr Bain fod yr adroddiad yn "gyfrinachol" nes iddo gael ei gyhoeddi gan y pwyllgor safonau, "ac felly byddai'n amhriodol i'r comisiynydd wneud sylw".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig