Cofio Laura Ashley, un o arloeswyr ffasiwn

Laura Ashley
  • Cyhoeddwyd

Ganrif yn ôl mewn tŷ teras bychan yn ne Cymru, ganwyd plentyn â aeth ymlaen i drawsnewid y byd ffasiwn a home decor.

Doedd Laura Mountney, a ddaeth yn Laura Ashley yn ddiweddarach ddim yn ceisio adeiladu ymerodraeth.

Dechreuodd ei thaith gyda sgarff pen syml, buddsoddiad bach o arian ac angerdd am decstiliau.

Gan gychwyn gyda'r un eitem yna, fe grefftiodd Laura Ashley frand sy'n diffinio'r cyfnod ac yn parhau i ddylanwadu dylunwyr hyd heddiw.

Ganrif ers ei genedigaeth, dyma edrych yn ôl ar fywyd person ddaeth â lliw a phatrymau blodeuog i dai a chypyrddau ar draws y byd.

Pwy oedd Laura Ashley?

Laura Ashley oedd yn gyfrifol am liwio'r diwydiant ffasiwn yn ystod yr 1970au, yn ôl y steilydd Huw 'Fash' Rees.

"Roedd yn gynllunydd wnaeth ddylanwadu ar gymaint o gynllunwyr eraill," meddai. "Daeth â steil cefn gwlad i'r ddinas. Roedd ei ffrogiau diniwed, ffwrdd â hi yn cael eu gwisgo a'u casglu gan lu o ddilynwyr i gyd yn prynu fewn i'r ddelwedd Brydeinig."

Ganwyd Laura Mountney yn Nowlais, Merthyr Tudful. Cafodd ei haddysg yn Llundain ond daeth yn ôl i Gymru am flwyddyn yn 1938 cyn yr Ail Ryfel Byd. Yna fe ddychwelodd i'r ddinas lle wnaeth hi gyfarfod Bernard Ashley a'i briodi yn 1949.

Yn 1953, dyma nhw'n sefydlu cwmni Laura Ashley gan ddylunio a phrintio defnydd yn eu cegin yn Llundain.

Laura Ashley
Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r cynllunydd ifanc wrth ei gwaith

O'r cychwyn, roedd Laura'n defnyddio cynlluniau gwledig, rhamantaidd a blodeuog ar gyfer ei defnyddiau. Roedd yn bosib prynu'r sgarffiau drwy'r post i ddechrau ac yna fe'u gwerthwyd i siopau mawr Llundain fel John Lewis.

Cyswllt Cymreig

Ond roedd Laura yn awyddus iawn i ddychwelyd i Gymru, sef ysbrydoliaeth ei gwaith cynllunio. Sefydlodd bencadlys i'r busnes ym mhentref Carno ac agorwyd ffatrïoedd ar draws gogledd a chanolbarth Cymru i gyflenwi'r holl angen.

"Daliodd stori'r gynllunwraig oedd yn printio defnydd ar fwrdd y gegin a'r casgliadau yn cael eu creu yng Nghymru ddychymyg y diwydiant ffasiwn," meddai Huw Rees.

"Ond heb os, delweddau ffotograffiaeth ei merch Jane o'r casgliadau wnaeth ychwanegu at lwyddiant cwmni a ddaeth yn adnabyddus am safon a steil arbennig," ychwanegodd.

Agorodd y siop Laura Ashley gyntaf yn Kensington yn 1968. Erbyn 1981 roedd yna 5,000 o siopau yn gwerthu'r cynnyrch oedd yn cynnwys dodrefn a phapur wal yn ogystal â ffrogiau.

Roedd Diana, Tywysoges Cymru, yn un o ffans mwyaf enwog y brand ac ar ôl i lun ohoni'n gwisgo blows gan Laura Ashley gael ei gyhoeddi'n y wasg, bu'n rhaid i'r cwmni roi'r gorau i gynhyrchu am ychydig oherwydd y galw.

Ffrogiau mewn arddangosfa
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cwmni yn ei anterth yn y 1970au

Ffrogiau mewn arddangosfa
Disgrifiad o’r llun,

Ydy rhai o'r rhain yn procio'r cof?

Bu farw Laura Ashley yn 1985, 10 niwrnod ar ôl cwympo lawr y grisiau yng nghartref ei merch ar ei phen-blwydd yn 60 oed.

Deufis yn ddiweddarach, fe roddwyd y cwmni ar y farchnad stoc ac amcangyfrifwyd gwerth y cwmni'n £200 miliwn.

Newid ffasiwn

Ond, roedd ffasiwn a chwaeth yn newid a gwneuthurwyr ym Mhrydain yn ddrud a chwmnïau cynhyrchu ar fin symud i'r Dwyrain pell.

Yn dilyn problemau ariannol, fe geisiwyd newid hynt y cwmni yn yr 1990au ond heb fawr o lwyddiant.

Fe achubwyd y cwmni i bob pwrpas yn 1998 gan Malayan United Industries a brynodd 40% o werth y cwmni.

Cafodd staff olaf ffatri Laura Ashley eu diswyddo yn 2005. Ym mis Rhagfyr 2018 fe gyhoeddodd y cwmni golled ariannol flynyddol o dros £14m. Yn y cyfnod yma fe gafodd 40 o'u siopau eu cau.

Siop ar stryd fawrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2018 fe gyhoeddodd y cwmni eu bod yn cau 40 o siopau ar draws y DU

Yn 2020, ar ôl i bandemig Covid-19 dorri, fe wnaeth y cwmni alw'r gweinyddwyr wedi i drafodaethau i geisio achub y cwmni fethu.

Ers 2023 mae'r hawl i fasnachu o dan yr enw Laura Ashley gan y cwmni buddsoddi Gorden Brothers.

Waeth beth yw llwyddiant y cwmni, mae Laura Ashley'n parhau i gael ei chofio fel person a newidiodd y byd ffasiwn ac fel un a ddaeth a gwaith i ganolbarth Cymru a thu hwnt.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig