3 Llun: Lluniau pwysicaf Tanwen Cray

- Cyhoeddwyd
Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?
Dyma ddewis cyflwynydd tywydd S4C, Tanwen Cray.
Pedair cenhedlaeth

Dyma lun pwysig iawn, iawn i fi, a fe wnai ei drysori am byth. Mam-gu Tŷ Clyd, Mami, Efa fy chwaer, fi, a fy merch Neli.
O'dd y llun yma yn bwysig i fi ers i ni dynnu'r llun 'nôl ym mis Ebrill, ond mae hyd yn oed yn bwysicach i fi ers bu farw mam-gu yn 94 oed ar ddydd Sadwrn cynta'r Eisteddfod eleni.
Odd hi'n garedig, yn ddoniol, ac yn llawn cariad.
Dyma'r llun ola gafodd ei dynnu o'r pump ohonom ni.
Llun cyntaf fel teulu o dri

Llun arall sy'n bwysig i fi yw'r llun yma. Hwn odd y llun cynta o'r tri ohonom ni fel teulu.
Fi, Ollie, a Neli Meillionen Awen. Ganwyd Neli ar 31 Ionawr 2024. Roedd y dyddiad 31 yn bwysig i fi ac Ollie gan taw dyna'r rhif mae Ollie wedi'i wisgo ar ei grys pêl-droed ers iddo ddechrau chwarae.
Mae e wedi symud i Wigan dechrau'r tymor yma, ac wedi gofyn i gael gwisgo'r rhif 31 - er mae hyn yn anarferol iawn i bêl-droediwr gan mai rhif isel maen nhw fel arfer eisiau!
Fe wnaethon ni enwi Neli ar ôl fy hen Fam-gu i, Nellie, sef mam Mam-gu Tŷ Clyd, a fe wna i byth anghofio gweld Mam-gu yn llefain o hapusrwydd yn cael gwybod beth oedd enw Neli am y tro cynta' - yr unig dro i fi erioed weld Mam-gu yn llefain.
Priodas ffrind bore oes

Ac yn ola, llun diweddar iawn, sydd yn bwysig i fi ar hyn o bryd.
Diwedd mis Awst es i i Ffrainc i briodas un o fy ffrindie cyntaf ac agosaf.
Roedd Megan a fi yn y feithrin gyda'n gilydd, Ysgol Gynradd Iolo Morganwg, a hefyd Ysgol Gyfun Bro Morgannwg gyda'n gilydd.
Er ein bod ni wedi byw yn bell iawn oddi wrth ein gilydd dros y blynyddoedd diwethaf, 'ni wedi aros mewn cysylltiad a fi wedi mwynhau cael cwrdd â James gyda Megan ym mhob parti pen-blwydd!
O'dd hi'n ddiwrnod llawn chwerthin a dawnsio, ond hefyd roedd yn emosiynol iawn gweld rhywun mor bwysig i fi yn priodi - jest fel o'dd y ddwy ohonon ni wedi breuddwydio dros y blynyddoedd.
O'dd hi'n ddiwrnod sbesial i gwpl sbesial - a o'dd Megan yn edrych yn biwtiffwl.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd26 Awst
- Cyhoeddwyd12 Mehefin