S4C i roi mwy o bwyslais ar gynnwys 'digidol yn gyntaf'

- Cyhoeddwyd
Bydd S4C yn rhoi mwy o bwyslais ar raglenni a chynnwys 'digidol yn gyntaf' fel rhan o'u strategaeth bum mlynedd newydd hyd at 2030.
Gyda bron i £1m yn cael ei fuddsoddi ar gynnwys newydd i YouTube, dywedodd y sianel eu bod nhw hefyd angen gwneud mwy i gyrraedd y rheiny sy'n "llai hyderus yn eu Cymraeg".
Ond gallai'r newid olygu mwy o ailadrodd rhaglenni a llai o gynnwys gwreiddiol ar deledu llinol traddodiadol, wrth i'r sianel ganolbwyntio ar "greu cynnwys sy'n diwallu arferion gwylio cyfoes".
"Dim ond dilyn y tueddiadau ydyn ni," meddai prif weithredwr S4C, Geraint Evans.
"Bydden ni'n gwneud cam gyda'n cynulleidfa tasen ni ddim yn mynd yn 'ddigidol-yn-gyntaf'."

"Dim ond dilyn y tueddiadau ydyn ni," meddai prif weithredwr S4C, Geraint Evans
Er bod strategaeth bresennol S4C yn rhedeg o 2022-2027, mae'r sianel wedi penderfynu ei ddisodli gydag un newydd er mwyn ymateb i newidiadau "digynsail" ym myd y cyfryngau.
Mae'r rheiny, yn ôl y ddogfen, yn cynnwys newid i arferion cynulleidfaoedd, ansicrwydd ariannol cyn adnewyddu'r ffi drwydded yn 2027, a chystadleuaeth gynyddol gan ffrydwyr rhyngwladol a chyfryngau digidol.
Bydd y strategaeth newydd hefyd yn cynnwys ceisio ehangu cyrhaeddiad eu cynnwys a chodi proffil S4C, a pharhau i hybu'r economi greadigol yng Nghymru.
'Allwn ni ddim eistedd yn ôl'
Daw'r newid yn sgil penodi Delyth Evans fel cadeirydd newydd S4C yn gynharach eleni, yn dilyn cyfnod cythryblus i'r darlledwr pan adawodd y cyn-gadeirydd Rhodri Williams ei swydd yn 2024.
"Mae'n bwysig bod ni'n dangos bod ni ar flaen y gad," meddai Ms Evans wrth siarad yn lansiad y strategaeth nos Fercher.
"Felly dwi'n teimlo'n gryf bod angen i ni ddangos yn S4C bod ni'n darparu gwerth am arian, a bod ein cynnwys ni o'r safon uchaf posib.
"Allwn ni ddim eistedd yn ôl a disgwyl bod popeth yn aros yr un fath.
"Mae'n rhaid i ni ddangos i'r gwleidyddion a'n cynulleidfaoedd ni ein bod ni'n uchelgeisiol, creadigol, ac yn barod i newid."

Cafodd Delyth Evans ei phenodi'n gadeirydd newydd S4C yn gynharach eleni
Yn ôl ffigyrau diweddar, mae 14% o oriau gwylio S4C bellach yn dod drwy iPlayer, S4C Clic ac YouTube - cyfran sy'n "cynyddu'n flynyddol".
Ychwanegodd y sianel bod y twf ymhlith cynulleidfaoedd ifanc hyd yn oed yn uwch, gyda thraean o bobl 16-44 oed bellach yn gwylio drwy blatfformau digidol – ond yn bennaf drwy setiau teledu.
- Cyhoeddwyd15 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf
Bydd yr amcan 'digidol yn gyntaf' yn gynyddol bwysig i'r sianel, meddai'r ddogfen, er mwyn "cystadlu, arloesi, a gwneud y Gymraeg yn amlwg yn yr oes ddigidol".
Bydd hynny'n cynnwys "annog mwy o wylio ar-lein", cynyddu'r defnydd o ffrydiau byw, a chadw rhaglenni ar wasanaethau ar-alw am gyfnodau hirach.
Fe fydd mwy o raglenni a chynnwys digidol-yn-unig hefyd yn cael ei gomisiynu, fel Yr Alwad – drama fertigol y bydd S4C yn ei chyhoeddi'n fuan ar TikTok.
'Cynnig rhywbeth i bawb'
Mae'r sianel hefyd wedi cyhoeddi y byddan nhw'n buddsoddi bron i £1m ar gomisiynu cynnwys newydd ar YouTube i gynulleidfaoedd rhwng 25-44 oed.
Arwydd yw hynny, meddai'r sianel, o'r angen i deilwra'n fwy ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd, gyda chynnwys ddim o reidrwydd yn ymddangos ar bob platfform gwylio.
"Efallai na all S4C fod yn bopeth i bawb drwy'r amser, ond ein nod yw cynnig rhywbeth i bawb," meddai'r ddogfen.
Ychwanegodd: "Rhaid symud o lenwi amserlen deledu at fodel comisiynu strategol sy'n defnyddio data i dargedu cynulleidfaoedd penodol ar draws ein platfformau, a chreu cynnwys sy'n diwallu arferion gwylio cyfoes."
Dywedodd Geraint Evans: "Bydd S4C dal yn bodoli ar deledu traddodiadol tra bod teledu traddodiadol yn bod.
"Ond mae'n rhaid i ni ehangu faint o bobl sy'n troi at S4C, achos dyna'r ffordd i achub yr iaith Gymraeg."
'Canllawiau iaith eithaf pendant'
Ychwanegodd Mr Evans nad oedd mwy o bwyslais ar gynnwys i blatfformau digidol a chynulleidfaoedd ifanc o reidrwydd am olygu mwy o Saesneg neu ddwyieithrwydd ar y sianel.
"Does 'na ddim newid polisi – mae gyda ni ganllawiau iaith eitha' pendant," meddai.
"Ond mae'n dibynnu pwy yw'r gynulleidfa darged.
"Mae'r gynulleidfa sy'n gwylio Newyddion S4C neu raglenni dogfen yn mynd i ddisgwyl Cymraeg safonol, clir, syml, sy'n trio cyfathrebu'r neges.
"Ond pan fo rhywun yn gwylio cynnwys tebyg i Hansh, maen nhw'n disgwyl clywed y Gymraeg maen nhw wedi arfer ei chlywed a'i siarad eu hunain.
"Felly mae'r hyblygrwydd yn bodoli o fewn y canllawiau presennol – fyddan nhw ddim yn newid ar gyfer platfformau digidol."
'Tirwedd y cyfryngau yn newid'
Dywedodd Llyr Morus, cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) eu bod yn "croesawu bod S4C yn gosod strategaeth a chyfeiriad ar gyfer y dyfodol".
"Mae tirwedd y cyfryngau yn newid ac mae'r diwydiant ehangach, gan gynnwys cwmnïau cynhyrchu, hefyd yn edrych i addasu," meddai.
"Er mwyn cyflawni'r strategaeth yn llwyddiannus a sicrhau bod y cynnwys ar gael ar draws y gwahanol lwyfannau i wylwyr S4C, bydd yn bwysig wrth gwrs i S4C gydweithio'n agos gyda TAC a'r sector."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.