Y Cymro sy'n chwilio am longau enwog ar waelod y môr

- Cyhoeddwyd
Mae gweithio ar y môr yn rhywbeth eithaf cyffredin, boed hynny fel pysgotwr, yn gweithio ar longau masnach neu fel aelod o'r Llynges.
Ond mae swydd Leighton Rolley o Gaerdydd yn golygu ei fod yn mynd miloedd o droedfeddi dan arwyneb y dŵr, gan wneud ymchwil gwyddonol a chwilio am longau coll.
"Dwi'n dod o'r Tyllgoed yng Nghaerdydd yn wreiddiol, ac es i i Ysgol Uwchradd Cantonian. O'n i yng Nghaerdydd nes o'n i yn fy 20au cynnar, ac yna es i weithio ar y môr.
"O'n i'n mynd i'r llyfrgell leol yn yr 1980au hwyr, yn darllen llyfrau am y Titanic pan ddoth nhw mas tua 1987 neu 1988, pan o'n i'n chwe neu saith mlwydd oed. Roedd e'n gyfuniad perffaith o dechnoleg ac archwilio moroedd, ac o'n i'n gwybod yn syth mai hyn o'n i am ei wneud pan o'n i'n hŷn.
"Felly 'nes i cyfrifiadureg yn y brifysgol, ac un o'r llefydd i weithio ar leoliad oedd yn y ganolfan oceanographic yn Southampton, ac es yno i weithio am flwyddyn yn wreiddiol, cyn cael swydd barhaol. O'n i'n gweithio ar y llongau ymchwil, gyda Southampton fel pencadlys."

Leighton ar fwrdd un o'r llongau ymchwil
Yn ei swydd roedd Leighton yn ymchwilio i sawl maes o wyddoniaeth tanddwr oddi ar arfordir Prydain.
"Yn eironig, enw un o'r llongau o'n i'n ei ddefnyddio oedd y Discovery, a gafodd ei henwi ar ôl llong Capten Scott, cyn iddo fynd ar y Terra Nova."
Roedd Leighton yn gweithio ar Longau Ymchwil Llywodraeth Prydain tan 2011, ac yno y cwrddodd â'i wraig.
"Ar fy mhrosiect diwethaf gyda'r Llongau Ymchwil Brenhinol fe gwrddais â fy ngwraig, sydd o'r Alban – a dyna pam rwy' bellach yn byw yn Stirling.
"Mae'r llong Discovery gwreiddiol bellach wedi ei throi'n amgueddfa yn Dundee, ac ar y llong y gwnaethon ni briodi."

Leighton a Clare yn priodi ar y Discovery yn Dundee
Wedi iddo adael Llongau Ymchwil Prydain dechreuodd Leighton weithio i gwmni o'r enw'r Schmidt Ocean Institute, gafodd ei sefydlu gan gyn-gadeirydd Google, Eric Schmidt.
Yn ôl adroddiadau mae gan Schmidt gyfoeth o dros $40bn, ac mae'n angerddol am ymchwil gwyddonol dyngarol, yn enwedig yn ymwneud â'r môr.

Leighton yn peilota un o'r cerbydau tanfor
Darganfod y Terra Nova
Ym mis Awst 2012 darganfuwyd y Terra Nova, llong Capten Robert Falcon Scott a oedd yn ceisio bod y cyntaf i gyrraedd Pegwn y De.
"Roedd y Schmidt Ocean Institute yn cael ei ail-leoli o'r Almaen i Newcastle, ac yna i Ogledd America.
"Roedden ni'n mynd i Ogledd America heibio Yr Ynys Las (Greenland), felly gofynnais a allen ni ddefnyddio'r systemau SONAR i drio ffeindio'r Terra Nova, y llong sy'n gysylltiedig efo'n ninas i!"
Wedi taith drasiedïol Scott i Begwn y De fe lwyddwyd i ddod â'r Terra Nova yn ôl i Brydain. Cafodd y llong ei defnyddio mewn sawl ffordd gan gynnwys cario nwyddau i'r Cynghreiriaid yn ystod Yr Ail Ryfel Byd.
Yn 1943 roedd y llong mewn trafferthion mawr ger Yr Ynys Las gyda dŵr yn llifo i mewn. Llwyddodd y criw i yrru neges SOS a dianc gan adael y llong yno, cyn iddi suddo'n hwyrach.

Y Terra Nova'n gadael Bae Caerydd yn 1910
Roedd gan y Terra Nova gysylltiadau cryf gyda Chymru - gadawodd o borthladd Caerdydd, roedd ffigwr amlwg o'r criw, Edgar Evans, o Rosili ym Mhenrhyn Gŵyr, a dirprwy Scott oedd y swyddog morwrol Edward (Teddy) Evans oedd â chysylltiadau Cymreig, a oedd hefyd wedi bod ar y Discovery gyda Scott.
Roedd Golygydd Y Western Mail yn awyddus i gefnogi ac hyrwyddo The Welsh National Antarctic Expedition.
Fe lwyddodd William Davies, y golygydd, berswadio David Lloyd George, oedd yn Ganghellor ar y pryd i ddarparu cymhorthdal o £20,000 ar gyfer y daith.
Dychwelyd i'r Terra Nova
13 mlynedd wedi iddynt ddarganfod y Terra Nova dychwelodd Leighton gyda'i griw i arfordir Yr Ynys Las yn ddiweddar i wneud ymchwil pellach ar y llong.
"Pan aethon ni i'r Terra Nova yn flaenorol roedd gennym ni gamera a SONAR, gyda'r camera'n mynd ble bynnag odden ni'n ei dynnu e. Roedd y lluniau o ansawdd sâl, ond yn dangos mai'r Terra Nova oedd hi yn fwy na thebyg.
"Roedd hynny yn 2012, ac felly aethon ni nôl yna eleni gyda cherbyd bach a oedd yn gallu mynd lawr at y Terra Nova. Yn hwnna roedden ni'n gallu mynd rownd y wreck yn rhydd, cael lluniau high-res, a mynd yn agos iawn – rhywbeth doedden ni methu gwneud 13 mlynedd yn ôl.
"Efo'r lluniau newydd 'ma oedden ni'n gallu gweld manylion y llong, y strwythur, y peipiau, a chael gwell dealltwriaeth yn gyffredinol o'r llong hanesyddol 'ma."
Lluniau diweddar o'r Terra Nova gan dîm Leighton
Gobaith o godi'r Terra Nova?
A fyddai modd codi'r llong eiconig 'ma fel bod y byd yn gallu ei gweld?
"Mae'r llong yn gorwedd yn nŵr Yr Ynys Las, ac felly bydde unrhyw benderfyniad i godi'r llong yn gorfod dod gan Lywodraeth Yr Ynys Las.
"Dydi cyflwr y llong ddim yn grêt, ac mae 170 medr o dan y wyneb mewn man anghysbell, felly bydde ei chodi yn heriol dros ben.
"Mae pobl yn siarad am y Mary Rose, ond fe wnaeth y llong yna suddo mewn rhyw 15 medr o ddŵr, ac mae 'na wahaniaeth mawr rhwng 170 medr a 15 medr. Dwi ddim yn dweud ei fod e'n amhosib, ond bydda'r gost yn anferthol.
"Mae pobl hefyd yn dweud y dyle ni godi'r Endurance, ond mae'n broses mor anferthol i'w gyflawni, ac mi fydda'r gost o edrych ar ôl y llong unwaith mae wedi ei chodi yn syfrdanol."

Suddodd y Terra Nova ger Yr Ynys Las yn 1943
Beth fyddai Leighton yn hoffi ei wneud nesaf gyda'r Terra Nova?
"Yn y dyfodol byddai'n dda creu'r hyn ma' nhw'n galw'n digital twin. Mae ganddon ni footage fideo o'r llong, ond bydda'n dda mynd nôl efo SONAR manwl iawn a mapio'r llong o fewn milimedr fel bo' ni'n gweld sut ma'r llong yn erydu dros amser.
"Mae hefyd system ecolegol anhygoel yno bellach, ac felly bydde'n ddiddorol gweld sut mae'n ymateb i newid hinsawdd oddi ar Yr Ynys Las."
Tywyllwch a distawrwydd
Felly, sut brofiad yw hi i fynd miloedd o droedfeddi o dan y môr mewn cerbyd bach plastig?
"Mae'r un dwi'n gweithio efo ar y funud yn mynd lawr i ryw 2,000 medr o dan arwyneb y môr, ac unwaith ti'n mynd lawr 'na mae hi mor dywyll ac mor dawel.
"Mae'r sub dan ni arno ar y funud wedi ei wneud mas o blastig, a ti'n gallu gweld bron i 360 gradd o dy gwmpas – mae'r hyn ti'n gallu ei weld yn anhygoel.
"Pan dan ni'n gweithio ar stwff gwyddonol ar waelod y môr rydyn ni yn dueddol o ffeindio mathau gwahanol o anifeiliaid – i ddweud y gwir nawn ni ffeindio'r rhain ar y rhan fwyaf o'r missions ry'n ni arno.
"Mae tua 40% o'r moroedd wedi ei fapio, ond dim ond rhyw 3-4% o'r moroedd dyfn sydd wedi ei ymchwilio'n iawn, felly mae'r tebygolrwydd o ffeindio anifeiliaid newydd tra chi lawr 'na yn eitha' uchel."

Leighton yn dangos ei falchder cenedlaethol ar long ymchwil
Mynydd Cymreig rhwng Hawaii a Tahiti
Mae 'na fynydd dan y Cefnfor Tawel sydd wedi ei enwi ar ôl rhan o Gymru, a Leighton sy'n gyfrifol.
"Mae 'na ffilm o'r 1990au o'r enw The Englishman Who Went up a Hill but Came Down a Mountain, ble mae 'na fryn o'r enw Ffynnon Garw sy'n 984 troedfedd o uchder - 16 troedfedd yn brin o gyrraedd yr isafswm i gael y statws o fod yn fynydd."
Mae'r mynydd Ffynnon Garw yn y ffilm yn fynydd ffug, ond yn y ôl y sôn mae wedi ei seilio ar Mynydd y Garth, sydd rhwng pentrefi Pentyrch a Gwaelod-y-garth.
"O'n i'n dysgu myfyrwyr mas yn y Môr Tawel a nathon ni ffeindio mynydd dan y môr a oedd yn 996 medr o uchder, a'r diffiniad ar gyfer mynydd tanddwr yw 1,000 medr. Felly nes ni awgrymu i'r awdurdodau bod ni'n galw'r mynydd ma'n Bryn Ffynnon Garw, gan esbonio pam, ac 'nathon nhw dderbyn y cynnig.
"Felly yng nghanol y Cefnfor Tawel rhwng Hawaii a Tahiti mae 'na fryn Cymreig."
Yn ogystal ag enwi'r bryn dan y môr mae Leighton hefyd wedi llwyddo i yrru'r ddraig goch 3.5km o dan arwyneb y môr gan ddefnyddio robot oddi ar arfordir Ynysoedd y Galapagos.
Mae Leighton yn Gymro balch sy'n mynnu chwifio'r faner... uwchben, neu o dan wyneb y môr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd12 Mai 2021