O Gaerfyrddin i'r Aifft: Y gŵr a helpodd i ddod o hyd i Tutankhamun

Mae mwgwd angladdol aur Tutankhamun i'w weld yn Amgueddfa Eifftaidd Cairo
- Cyhoeddwyd
Roedd dod o hyd i fedd Tutankhamun yn Nyffryn y Brenhinoedd yn 1922 yn un o'r darganfyddiadau pwysicaf ym maes archaeoleg yr Hen Aifft.
Dyma oedd un o'r beddi mwyaf cyflawn i archeolegwyr ddod o hyd iddo, ac roedd corff y pharo ifanc a'r dros 5,000 o greiriau oedd wedi eu claddu gydag ef wedi bod ynghudd o dan y ddaear am dros 3,000 o flynyddoedd. Llwyddodd hyn i danio dychymyg a diddordeb y cyhoedd mewn Eifftoleg.
Ond gŵr ifanc oedd wedi ei fagu yng Nghaerfyrddin sydd i'w ddiolch yn rhannol am y darganfyddiad pwysig, er fod ei enw yn aml ar goll o'r stori.

Harold Jones
Er iddo gael ei eni yn Barnsley yn 1877, roedd rhieni E. Harold Jones yn Gymry, a symudodd y teulu i Gaerfyrddin pan oedd yn fachgen ifanc.
Roedd y teulu i gyd yn artistiaid medrus, ac fe dderbyniodd Harold ysgoloriaeth i'r Coleg Celf Brenhinol yn Llundain, ond cafodd ei daro'n sâl gyda'r diciáu (TB). Newidiodd hyn gwrs ei fywyd, eglurodd y cyflwynydd Siân Thomas, sydd â diddordeb mewn Eifftoleg.
"Ymunodd â gŵr o'r enw John Garstang, oedd yn archeolegydd profiadol iawn ac yn arbenigo ar hanes y dwyrain canol a'r Aifft. 'Naeth Harold ymuno ag e a'i dîm er mwyn gwneud lluniau o'r hyn oedd yn cael ei ddarganfod ar y digs gan Garstang.
"Roedd yr Aifft yn golygu fod y tywydd yn well i'w iechyd e. Dyna ddechrau ei siwrne yn yr Aifft."

Darlun gan Harold Jones o'r addurniadau ar bostyn drws beddrod Siptah yn Nyffryn y Brenhinoedd, sy'n dyddio i tua 1188 CC
Erbyn 1907, roedd Harold yn gweithio gyda'r Americanwyr Theodore M. Davis ac Emma Andrews, oedd â'r hawl i gloddio yn Nyffryn y Brenhinoedd.
"Oedden nhw yn byw yn Luxor, tref prysur iawn a chanolfan i archeolegwyr ar y pryd. Dechreuodd Harold weithio gyda nhw yn Nyffryn y Brenhinoedd; dim jest paentio, ond dechreuodd e gloddio yno hefyd," meddai Siân.
"Roedd yn lle anghysbell iawn. Roedd llawer o ddrwgweithredoedd yn digwydd yno, pobl yn trio dwyn, pobl yn trio mynd i mewn i'r beddau yn anghyfreithlon. Felly roedd e yn waith peryglus iawn, cloddio yn y dyddiau yna.
"Roedd ym mlynyddoedd cynnar iawn gweithio fel archeolegydd yn yr Aifft, ac roedden nhw'n peryglu eu bywyd yn aml iawn yn mynd i'r llefydd yma."
Ac yn Luxor y daeth Harold i 'nabod – a dod yn ffrindiau gyda – Howard Carter, yr archeolegydd o Loegr, a'r Arglwydd Caernarfon, a oedd yn ariannu'r cloddfeydd.
"Fe ffeindiodd y cliwiau cyntaf, ‘naeth wedyn arwain at y darganfyddiad."
Sian Thomas yn sôn am hanes Harold Jones ar Dros Ginio ar BBC Radio Cymru
Wrth i Harold gloddio yn Nyffryn y Brenhinoedd, dechreuodd ddod ar draws modrwyau a chreiriau gyda'r enw Tutankhamun arnyn nhw, a oedd yn enw anghyfarwydd ar pryd. Dechreuodd Harold dybio felly fod yna fedd gerllaw ar gyfer pharo o'r enw Tutankhamun.
Yn anffodus, chafodd o fyth wybod fod ei theori yn gywir, am iddo gael ei daro'n wael unwaith eto, a bu farw yn ei gartref yn Luxor yn 1911, yn ddim ond 34 oed. Cafodd ei angladd ei drefnu gan Howard Carter a'r Arglwydd Caernarfon, ac fe gafodd ei gladdu ym mynwent Gristnogol Luxor.

Howard Carter yn archwilio beddrod Tutankhamun yn 1925
Ni chafodd fyw i weld bedd Tutankhamun yn cael ei ddadorchuddio am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 1922 gan Howard Carter, na'r mwgwd angladdol euraidd ac arch y pharo ifanc yn dod i'r fei yn 1925; y cyfan wedi eu darganfod drwy ddilyn y cliwiau roedd Harold wedi dod ar eu traws.
Pur anaml y gwelwch chi enw Harold Jones yn y stori am ddarganfyddiad beddrod Tutankhamun, ond mae bellach yn cael ei goffáu gyda phlac glas ar wal y tŷ ble cafodd ei eni yn Barnsley, ac mewn arddangosfa arbennig sydd yn Amgueddfa Sir Gâr ar hyn o bryd.
Yn ôl curadur yr arddangosfa, yr Athro Joann Fletcher o University of York, mae hi'n bur debygol y byddai Harold wedi dod o hyd i'r bedd cyn Carter, os na fyddai wedi marw mor ifanc.
"Dwi'n hoffi meddwl, os fyddai Jones wedi byw ychydig yn hirach, roedd ar y llwybr i wneud un o'r darganfyddiadau archeolegol pwysicaf erioed."
Mae arddangosfa Archwiliwch yr Hen Aifft: Stori Harold Jones yn Amgueddfa Sir Gâr, Abergwili tan 28/09/2025.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd26 Mai 2021