'Y trawma o fod yn ddigartref yn 12 oed yn helpu fi i rannu fy stori'

Osian LloydFfynhonnell y llun, Kirsten Mcternan Photography
  • Cyhoeddwyd

"Dwi wedi cael profiadau o fod yn ddigartref ers mod i'n fychan efo teulu ddim yn 'neud yn iawn. Mynd o fflatiau i ofal i ddigartrefedd i lety dros dro, mae wedi bod yn siwrne anodd."

Roedd Osian Lloyd yn 12 oed yn profi digartrefedd am y tro cyntaf gan gysgu mewn blwch metel tu ôl i'r Co-op ym Mlaenau Ffestiniog dros gyfnod Nadolig 2011.

Erbyn hyn mae'n gweithio fel actor ac yn rhannu ei brofiadau o ddigartrefedd mewn sioe newydd o'r enw An Orange in the Subway sy'n cychwyn yng Nghaerdydd ar 9 Medi.

Meddai am ei waith yn y ddrama: "Mae wedi bod yn brofiad arbennig oherwydd bod gynna'i brofiad o fod yn ddigartref so mae'n rhywbeth sy'n gallu rhoi ongl wahanol i'r sioe.

"Mae'n rhywbeth dwi'n cymryd lot o inspiration o a'n rhywbeth dwi'n falch i fod wedi mynd trwy a dwi'n falch i ddangos o ar lwyfan efo passion.

Osian LloydFfynhonnell y llun, Kirsten Mcternan Photography

Trawma

"I ddechrau efo, roedd o'n rhywbeth trawmatig ac yn rhywbeth dwi wedi stryglo efo ond ers i fi fod yn yr ystafell ymarfer efo pawb dwi'n teimlo fod y trawma wedi helpu fi – dwi'n gallu rhoi input fi mewn i bethau mewn ffordd positif, ac mae wedi rhoi persbectif gwahanol i fi.

"Dwi'n meddwl rŵan am y pethau dwi wedi bod trwy a dwi'n teimlo hyder a balchder a dwi'n teimlo'n gryf amdano fo.

"A dwi'n teimlo mwy hyderus i gymryd camau ymlaen rŵan efo'r trawma tu ôl i fi ac yn helpu fi."

Bu farw mam Osian pan oedd yn chwe mlwydd oed ac yn y cyfnod wedi hynny mi wnaeth y teulu chwalu.

Yn ddigartref am y tro cyntaf yn 12 oed, mae Osian yn cydnabod: "Roedd profiad cyntaf fi yn ddigartref yn brutal (pan fu'n cysgu tu ôl i'r Co-op) ond dwi wedi symud i ofal wedyn ac o ofal i le fy hun ar fy mhen-blwydd yn 16.

"Ers hynny dwi wedi symud i wahanol lefydd yn y gogledd ac wedi cysgu ar soffa ac mewn llety dros dro.

"Oedd hi'n afiach o sefyllfa."

Mae Osian wedi bod yn ddigartref yng ngogledd a de Cymru ac yn dweud fod y ddau yn brofiadau gwahanol iawn: "Mae 'na lot o wahaniaeth – 'nes i deimlo fod bod yn ddigartref yn ne Cymru lot mwy anodd oherwydd mae local connections a chael help sy'n actual help yn bwysig.

"Mae scale y broblem yn ne Cymru lot mwy na yn y gogledd so mae'n anoddach cael help yn gyflym.

"Ond dwi mor lwcus bod fi wedi cael siawns i symud i'r de drwy bêl-droed (bu Osian yn chwarae dros Gymru yng Nghwpan y Byd i'r Digartref).

"O'n i'n rhedeg oddi wrth trawma fi. Rŵan ar y llwyfan efo pobl sy a'r un mindset â fi dwi'n teimlo mwy hyderus i fod yn fi fy hun."

Osian a'i gi DaveFfynhonnell y llun, Osian Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Osian a'i gi, Dave

Trawsnewid bywyd

Daeth trobwynt ym mywyd Osian pan aeth o at y Wallich, elusen digartrefedd yng Nghymru, am help efo cardiau adnabod a lle i fyw.

Meddai: "'Nath nhw roi siawns i fi fynd mewn i brosiect o'r enw Our Story Project sy'n brosiect 10 wythnos i ddatblygu ysgrifennu ac actio.

"'Nes i ddefnyddio trawma fi gyd mewn sioe ac ers hynny dwi wedi datblygu cariad am actio. Hynna wnaeth ddechrau fi a 'nes i fynd o sioe i sioe. Mae'n rili inspiring."

Mae'r sioe ddiweddaraf, An Orange in the Subway gan Owen Thomas, wedi ei hysbrydoli gan brofiadau pobl o fyw ar y stryd ac mae Osian yn angerddol am y neges: "I fod yn onest dwi jest isho cael gwared ar y stigma o ddigartrefedd – dwi'n deall mae'n anodd i edrych ar bobl ar y stryd a meddwl ti'n gallu helpu.

"Mae'n bwysig i fi ddweud profiad fi i gyd ar lwyfan er mwyn cael trwy i bobl. Mae'n rhywbeth pwysig i sôn amdano achos mae bod yn ddigartref yn agos iawn at bobl – it's only a couple of bad decisions away. Dwi isio rhoi hwnna ar lwyfan.

"'Dydy o ddim amdana i - mae jest yn dangos pa mor ddifrifol yw bod yn ddigartref. Dwi isho rhoi golau ar bobl sy' wedi profi yr un peth."

Ers cychwyn actio mae Osian wedi byw yn ei gartref ei hun ers pedair mlynedd: "Dwi'n talu fy hun (am y tŷ) ac efo ci. A dwi'n dweud straeon sy'n rili anodd i ddweud. Dwi'n teimlo'n rial prowd o fy hun.

"Lle fi ydy Caerdydd rŵan ac mae'n neis i fod mewn lle mor fawr ond ddim yn teimlo mor fach."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig