Pro14: Gleision Caerdydd 29-20 Scarlets
- Cyhoeddwyd

Y canolwr Willis Halaholo sgoriodd gais cynta'r Gleision yn Stadiwm Dinas Caerdydd
Llwyddodd Gleision Caerdydd i drechu'r Scarlets nos Sadwrn yng ngêm gynta'r rhanbarth ers ymadawiad John Mulvihill.
Aeth y Gleision ar y blaen gyda gôl gosb gan Jarrod Evans cyn i ganolwr Cymru, Jonathan Davies sgorio cais cynta'r gêm i'r ymwelwyr.
Ond fe darodd y Gleision yn ôl yn syth gyda chais gan Willis Halaholo, cyn i Jarrod Evans ymestyn eu mantais gyda gôl gosb arall.
Sgoriodd Dan Evans gôl gosb i'r Scarlets cyn i Rey Lee-Lo ychwanegu ail gais i'r tîm cartref gan sicrhau mai 18-10 fyddai'r fantais iddynt ar yr egwyl.
Ond ym munudau olaf yr hanner cyntaf fe welodd gefnwr Cymru, Liam Williams gerdyn coch am wneud cysylltiad pen yn erbyn pen â Shane Lewis-Hughes, gan wneud tasg y Scarlets hyd yn oed yn fwy yn yr ail hanner.

Fe welodd Liam Williams gerdyn coch am wneud cysylltiad pen yn erbyn pen â Shane Lewis-Hughes
Llwyddodd Leigh Halfpenny gyda gôl gosb i leihau mantais y Gleision cyn i gais gan Sione Kalamafoni roi 14 dyn y Scarlets ar y blaen.
Er gwaetha'r faith bod y prop Rhys Carré wedi cael cerdyn melyn i'r tîm cartref i'w gwneud yn gyfartal o ran nifer y chwaraewyr, y Gleision lwyddodd i sgorio'r cais nesaf trwy Tomos Williams.
Ychwanegodd Jarrod Evans ddwy gôl gosb i ymestyn eu mantais a selio'r fuddugoliaeth i'r rhanbarth o Gaerdydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2021