Dathlu'r hen flwyddyn newydd
- Cyhoeddwyd
Blwyddyn newydd dda i bawb (eto)!
Mae rhai pobl yn dathlu'r flwyddyn newydd heddiw oherwydd hen draddodiad sydd wedi aros mewn rhai ardaloedd.
Mae'r Hen Galan yn cael ei ddathlu tua phythefnos ar ôl y flwyddyn newydd fodern, o gwmpas 12 neu 13 Ionawr, gan ddibynnu ar yr ardal, ac yn cael ei gysylltu gyda'r Fari Lwyd a thraddodiadau eraill.
Mae'r rheswm dros yr hen Galan yn ymwneud â newid y calendr fel eglurodd yr Athro Ann Parry Owen o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru sy'n Olygydd Hŷn gyda Geiriadur Prifysgol Cymru.
"Yn 1752 mabwysiadwyd y calendr Gregoraidd ym Mhrydain, sef y calendr a ddefnyddiwn ni heddiw ac a gymeradwywyd gan y Pab Gregori XIII yn 1582," meddai'r Athro Parry Owen.
"Cyn hynny defnyddid y calendr Iwlaidd, a sefydlodd Julius Caesar yn 46 C.C.
"Gan fod y calendr Iwlaidd yn ddiffygiol yn ei allu i ymdrin â blynyddoedd naid, nid oedd y flwyddyn Iwlaidd, erbyn oes Gregori XIII, yn cyfateb yn gywir i'r tymhorau a chylchro'r haul.
"Wrth addasu o'r naill galendr i'r llall, roedd yn rhaid 'colli' dyddiau o ddechrau'r flwyddyn, felly mae diwrnod cyntaf y flwyddyn yn y calendr Iwlaidd yn cyfateb erbyn heddiw i 14 Ionawr yn y calendr Gregoraidd.
"Roedd rhai ardaloedd yn gyndyn iawn o newid o'r naill galendr i'r llall - a dyma'r ardaloedd a oedd yn dathlu'r 'Hen Galan'."
Ymysg yr ardaloedd hynny roedd Cwm Gwaun yn Sir Benfro.
Mae llun enwog gan Geoff Charles o rai o blant yr ardal yn canu Calennig adeg Hen Galan 1961.
Hel Calennig
Roedd dydd Calan yn ddiwrnod pwysig iawn yng nghalendr y Cymry ers talwm gyda phlant yn mynd o gwmpas tai'r ardal yn canu neu adrodd rhigwm er mwyn hel calennig, sef arian neu rodd.
Mae'r newid yn y calendr hefyd yn egluro pam fod cyfarfodydd canu plygain yn dal i gael eu cynnal mewn rhai rhannau o Gymru yn y flwyddyn newydd gan eu bod yn draddodiadol yn digwydd yn y cyfnod rhwng y Nadolig a'r hen Galan.
Roedd y Fari Lwyd, sef penglog ceffyl wedi'i orchuddio â defnydd a rhubanau, yn cael ei ei thywys o gwmpas tai'r ardal a'r dafarn leol a phenillion hwyliog yn cael eu canu'n gofyn am wahoddiad i ddod i mewn. Byddai perchennog y tŷ yn ateb her y penillion cyn penderfynu gadael iddyn nhw ddod i mewn ai peidio. Roedd yn anlwcus gwrthod mynediad i'r Fari Lwyd.
Yn y tŷ wedyn byddai'r grŵp yn diddanu'r teulu ac yn cael bwyd a diod yn gyfnewid am eu gadael i mewn.
Doedd pawb ddim yn croesawu'r cwmni swnllyd a dirywiodd yr arferiad erbyn diwedd y 19eg ganrif ond mae rhai ardaloedd wedi dal eu gafael ar y traddodiad neu wedi ei atgyfodi.
Fydd dim o hyn yn digwydd eleni wrth gwrs ond cafwyd dathliadau ym mhentref Llangynwyd yng Nghwm Llynfi yn 2020, lle sy'n cael ei gysylltu'n arbennig â'r Fari Lwyd.
Mae'n debyg bod gwreiddiau'r Fari, sy'n gyffredin i wledydd eraill hefyd, mewn arferion hynafol o'r cyfnod cyn-Gristnogol ac, yn ôl rhai, yn adlewyrchiad o ba mor werthfawr roedd ceffylau i bobl. Mae'n bosib fod cysylltiad gyda chwedlau Celtaidd hefyd fel stori Rhiannon yn y Mabinogi.
Hefyd o ddiddordeb: