Sut mae dathlu'r Nadolig wedi newid dros y blynyddoedd?
- Cyhoeddwyd
Roedd yna ŵyl aeafol yn cael ei chynnal yr adeg yma o'r flwyddyn ymhell cyn geni Iesu Grist, a datblygodd yr ŵyl honno i'r Nadolig. Ond pa mor bell yn ôl mae'n rhaid mynd i ddarganfod yr ŵyl rydyn ni am ei dathlu yr wythnos nesaf?
Ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru ar ddydd Llun 14 Rhagfyr, roedd Yr Athro Martin Johnes o Adran Hanes Prifysgol Abertawe yn trafod sut mae'r Nadolig wedi datblygu.
"Mae pobl wedi dathlu rhyw fath o Nadolig ers oes Iesu Grist. Ond mae'r ffordd ni'n dathlu a deall yr ŵyl heddi' yn mynd nôl i oes Fictoria - coeden Nadolig, cardiau Nadolig, y siopa, bwyta twrci.
"I bobl oes Fictoria roedd y Nadolig yn gyfle i ddathlu Iesu, ond hefyd plentyndod.
"Ry'n ni'n meddwl am oes Fictoria fel rhyw fath o oes galed, ble roedd pobl ddim yn garedig iawn i'w plant. Ond mewn gwirionedd roedd hwn yn gyfnod lle roedd pobl yn credu bod e'n bwysig i ddathlu plant, i helpu plant - a bach o indulgence hefyd.
"Felly siopa, plentyndod a Iesu - ma'r tri peth yna'n dod efo'i gilydd yn yr oes Fictoria i greu be' dwi'n galw'n 'Nadolig fodern'."
"Mae'r Nadolig yn gymysg o draddodiadau Cristnogol, ond hefyd pethau hŷn - sy'n ymwneud â dathlu, dod â 'chydig o olau i'n bywydau ni yng nghanol y gaeaf. A be' ni'n gweld yw bod y dathliad o Iesu yn dod at ei gilydd gyda traddodiadau paganaidd i ddweud y gwir, sydd i'w cael o gwmpas Ewrop."
Dylanwadau o Ewrop
Ar nos Fawrth 15 Rhagfyr bydd Martin Johnes yn rhoi darlith ar-lein wedi ei threfnu gan Archifau Morgannwg ar 'Hanes y Nadolig yn y Brydain fodern.'
Mae Martin yn nodi bod dylanwad yr Almaen yn bwysig iawn wrth ystyried datblygiad dathliadau'r Nadolig yng Nghymru a gweddill Prydain.
"Mae'r goeden Nadolig yn dod o'r Almaen, ac yn yr Almaen mae'n rhyw fath o draddodiad sydd 'di cael ei ddathlu ers cyn oes Iesu. Wrth gwrs mae coeden Nadolig yn wyrdd yng nghanol y gaeaf - mae hynny'n bwysig. Mae'n ymwneud â dathlu natur, ond hefyd golau.
"Felly be' sy'n digwydd yn yr oes Fictoria yw bod traddodiadau yn dod fewn i Brydain o fannau gwahanol, yn enwedig yr Almaen ble mae'r Nadolig yn bwysig.
"Wrth gwrs yn ystod yr oes Fictoria roedd Albert yn ŵr i'r Frenhines. Roedd rhyw fath o celebrity culture i ddweud gwir, ble roedd Albert wedi dod i Brydain gyda thraddodiadau'r Almaen - rhoi coeden Nadolig lan ayyb.
"Dim fe oedd y person cyntaf i wneud hyn ym Mhrydain, roedd Almaenwyr yma cyn fe. Ond mae e'n rhoi coeden Nadolig lan gyda Fictoria, ac mae llun o hyn yn ymddangos mewn cylchgrawn poblogaidd, ac unwaith mae Albert yn gwneud e gyda Victoria roedd pobl eraill yn dilyn."
Colli'r crefydd?
Ond wrth gwrs yn ystod oes Fictoria roedd y Capeli a'r Eglwysi'n llawn addolwyr, gyda Christnogaeth mewn sefyllfa dipyn cryfach nag y mae heddiw. Felly ydy Martin yn credu bod y Nadolig yn ŵyl llai crefyddol heddiw nag y bu?
"Mae pobl wedi bod yn dweud hynny ers 150 o flynyddoedd falle. Ar ddiwedd oes Fictoria roedd pobl yn dweud 'ni'n siopa gormod', 'ni'n rhoi gormod o anrhegion', 'ni wedi anghofio beth mae'r Nadolig amdano'.
"Ar un llaw mae hynny yn wir - mae stori'r Nadolig yn rhan o'r wlad yn troi'n fwyfwy seciwlar, ble mae'r Capel a'r Eglwys wedi colli ei safle o fewn cymdeithas.
"Ond ar y llaw arall, pan ni'n edrych ar y Nadolig (efallai nid Nadolig Covid, ond Nadolig arferol) ti'n gallu cerdded mewn i dref a chlywed bobl yn canu carolau - mae neges Iesu ac imagery Iesu o'n cwmpas ni.
"Felly dydi'r Nadolig ddim mor grefyddol â beth oedd e, ond mae diwrnod Nadolig a'r cyfnod yn fwy crefyddol nag adegau eraill y flwyddyn."
Dathlu gyda'r teulu
Mae'r elfen deuluol bellach yn hollbwysig i'r Nadolig, ond a oedd hyn wastad yn wir?
"Mae hwnna'n mynd nôl i oes Fictoria hefyd. Roedd y syniad o'r Nadolig yn bwysig iawn yn y cyfnod yna, ond wrth gwrs er mwyn dathlu gyda'r teulu mae'n rhaid i ti gael cartref sy'n weddol gyfforddus, ac mae hynna yn lot fwy rhwydd i'r dosbarth canol na beth oedd e i'r dosbarth gweithiol.
"Felly os edrychwn ni ar gyfnod oes Fictoria, mewn teulu dosbarth canol roedd pobl yn dathlu yn y tŷ gyda'r teulu. Ond i bobl dosbarth gweithiol roedden nhw'n dathlu yn y stryd gyda'r gymuned, achos doedd y tŷ dim digon mawr, cyfforddus na twym.
"Felly be' ni'n gweld yw dros amser yn dilyn oes Fictoria mae'r syniad bod hwn yn gyfnod i ddathlu'r teulu a gwario amser gyda'r teulu yn tyfu.
"Roedd dyfodiad radio a theledu yn rhan o hynny hefyd - er mwyn gwario amser yn y tŷ mae'n rhaid cael rhywbeth i'w wneud, ar ôl bwyta, ac roedd rhain yn gwneud pethau mwy cyfforddus ac yn tynnu bobl mewn i'r tŷ.
"Wedyn dros yr ugeinfed ganrif ni'n gweld pethau fel y sinema, sw, y pêl-droed, yn cau - ar ôl yr 1960au roedd e'n anodd iawn ffeindio rhywle oedd agor dydd Nadolig, ac roedd hyn yn tynnu bobl at ei gilydd yn y tai."
Nadolig dros Zoom
Sut bydd haneswyr y dyfodol yn edrych ar Nadolig 2020?
"Mae wedi bod yn flwyddyn cymhleth ac anodd, nid jest achos Covid-19, ond Brexit a'r ffordd ry' ni'n ymateb i hiliaeth a rhaniadau yn ein cymdeithas ni. Felly bydd haneswyr y dyfodol yn gwario lot o amser yn edrych ar beth ddigwyddodd eleni.
"Ond gobeithio bydden ni'n edrych ar Nadolig fel siawns bach i anghofio'r stwff arall a chofio pwy a beth sy'n bwysig i ni, a bod yn hapus ac yn neis i bobl wahanol.
"Ni dal yn gallu gwneud hynna 'leni - falle dim dros y ford, efallai dros Zoom, ac edrych 'mlaen i ddyfodol sydd, gobeithio, am fod lot yn well."
Hefyd o ddiddordeb: