Gorymdaith Caerdydd wedi marwolaeth dyn 24 oed

  • Cyhoeddwyd
protest
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai cannoedd wedi bod yn gorymdeithio yng Nghaerdydd ddydd Mawrth

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH) wedi cadarnhau y byddan nhw'n cynnal ymchwiliad llawn i amgylchiadau marwolaeth dyn 24 oriau ar ôl gael ei ryddhau o'r ddalfa.

Yn gynharach ddydd Mawrth fe wnaeth cannoedd o bobl orymdeithio o ganol Caerdydd i orsaf yr heddlu ym Mae Caerdydd fel protest.

Bu farw Mohamud Mohammed Hassan dydd Sadwrn ar ôl cael ei ryddhau gan yr heddlu heb gyhuddiad.

Dywed Heddlu De Cymru eu bod yn trin y farwolaeth fel un heb esboniad.

Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu dyw'r ymchwiliadau cynnar ddim yn awgrymu unrhyw gamymddwyn neu rym eithafol.

Ond yn ôl teulu Mr Hassan roedd ganddo nifer o anafiadau a chleisiau.

Dywedodd cyfarwyddwr SAYH Cymru, Catrin Evans: "Rydym yn dechrau ymchwiliad annibynnol i gyswllt yr heddlu gyda Mohamud Hassan cyn ei farwolaeth yng Nghaerdydd ar 9 Ionawr.

"Cawsom wybod fod Mr Hassan wedi marw mewn eiddo ar Ffordd Casnewydd nos Sadwrn. Cawsom wybod hefyd ei fod wedi cael ei arestio gan yr heddlu yn yr un eiddo nos Wener ac wedi cael ei rhyddhau o orsaf Bae Caerdydd yn ddi-gyhuddiad am tua 08:30 y diwrnod canlynol.

"Yn gynnar iawn fe ddywedon ni wrth yr heddlu bod angen lluniau o'r camerâu oedd gan yr heddlu ar eu gwisg yn ystod yr arestiad a'r daith i'r orsaf, ac unrhyw luniau CCTV o'r orsaf, yn cael eu cadw ar gyfer ymchwiliad.

"Byddwn yn edrych ar y fideo ar fyrder. Byddwn yn holi'r swyddogion oedd yn rhan o'r digwyddiad ac yn ceisio siarad gyda nifer o dystion i'r digwyddiad gyda'r heddlu ar y nos Wener ac i symudiadau Mr Hassan ddydd Sadwrn ar ôl gadael yr orsaf.

"Hoffwn sicrhau pobl y byddwn yn cynnal ymchwiliad trylwyr ac annibynnol i'r cysylltiad a gafodd yr heddlu gyda Mr Hassan. Byddwn mewn cysylltiad gyda'i deulu, Heddlu De Cymru a'r crwner gydol yr ymchwiliad."

Cwestiynau yn y Senedd

Codwyd y mater gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price a galwodd ar y Prif Weinidog Mark Drakeford i gefnogi galwad y teulu am atebion ac am ymchwiliad annibynnol i farwolaeth Mr Hassan.

Dywedodd Mr Price: "Does dim amheuaeth fod hwn yn achos dirdynnol, a dylid sicrhau ein bod yn chwilio am wirionedd am beth ddigwyddodd.

"Ni ddylem rhagfarnu unrhyw ymchwiliad, ond rwy'n ymbil ar y prif weinidog i ymrwymo i wneud popeth o fewn ei allu i gynorthwyo'r teulu i gael atebion, ac i gefnogi eu galwad am ymchwiliad annibynnol o'r achos yma."

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu

Cadw yn y ddalfa

Cafodd yr heddlu eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans i eiddo aml-annedd ar Heol Casnewydd yn ardal Y Rhath o'r ddinas toc wedi 22:30 nos Sadwrn.

Y noson gynt roedd Mr Hassan wedi cael ei gadw yn y ddalfa yng ngorsaf yr heddlu ym Mae Caerdydd yn dilyn adroddiadau o gythrwfl yn yr un cyfeiriad.

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o darfu ar yr heddwch, a'i ryddhau'n ddiweddarach heb gyhuddiad - cam sy'n arferol mewn achosion o'r fath, meddai'r heddlu.

Cafodd Mr Hassan ei ryddhau tua 08:30 fore Sadwrn.

Dywedodd llefarydd Heddlu De Cymru bod "luniau camerâu cylch cyfyng a chamerâu oedd yn cael eu gwisgo wedi cael, ac yn dal i gael eu hastudio".

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu eu bod yn asesu'r wybodaeth cyn penderfynu a oes angen iddynt gynnal ymchwiliad annibynnol.

Pynciau cysylltiedig