Hyder i fentro ar ôl byw gyda chanser
- Cyhoeddwyd
Saith mlynedd yn ôl roedd gwylwyr S4C yn dilyn taith Meinir Siencyn wrth iddi gael diagnosis a thriniaeth canser.
Dim ond yn ei thridegau oedd hi pan gafodd wybod bod ganddi ganser y fron. Roedd hi'n gweithio yn y byd teledu, a phenderfynodd ddogfennu'r cyfnod yn syth ar ôl diagnosis i godi ymwybyddiaeth o'r profiad o fyw gyda chanser - ac yna ail raglen am ei hadferiad flwyddyn wedi'r driniaeth.
Nawr, ar ôl ystyried gadael y diwydiant yn llwyr, mae'n dweud fod cyfnod tywyll ei salwch wedi rhoi'r hyder iddi sefydlu cwmni teledu - Snapyn TV - mewn amser ansicr.
Yn ôl Meinir, sy'n wreiddiol o'r Wyddgrug ond yn byw yn Llanberis erbyn hyn, mae elfen o gymryd risg ac agwedd anturus tuag at fywyd wedi bod ynddi erioed. Mae hi'n tynnu ar ôl ei thad meddai, fyddai'n mynd â nhw ar wyliau teuluol heb wybod lle'r oedden nhw'n mynd.
Ond ers iddi ddod dros ei salwch mae'r rhan yma o'i chymeriad wedi cryfhau.
"Os mae rhywbeth yn dod i'ch meddwl a 'da chi am ei wneud o, yna mae'n rhaid cymryd y cyfle," meddai wrth Cymru Fyw.
"Ar ôl bod drwy gyfnod anodd, pan ti'n gorfod ymladd a ti mor sâl, ella bod hi'n haws gwneud y pethau yma. Ti wedi brwydro cymaint o'r blaen ac wedi bod i le tywyll a meddwl dyma'r diwedd i mi.
"Nes i golli fy nhad i salwch tebyg, pan gafodd o ganser y brostad bron i 15 mlynedd yn ôl erbyn hyn, ac aeth o fel yna. Felly ti yn meddwl ella wnaiff hynny ddigwydd i fi.
"Rŵan os dwi'n cael syniad am rywbeth neu gyfle i wneud rhywbeth dwi'n mynd i droi pethau rownd i'w wneud o."
Gwrandewch ar Meinir yn siarad am ei fentro mewn cyfnod anodd ar raglen Radio Cymru Aled Hughes
Aeth Meinir yn isel ei hysbryd yn ystod y cyfnod clo ac ystyried gadael y byd teledu yn gyfan gwbl a chwilio am swydd hollol wahanol.
Er ei bod wedi mwynhau ei gyrfa, yn gweithio ar gyfresi fel Priodas a Prosiect Pum Mil yn ddiweddar, roedd hi'n cwestiynu natur bywyd ffrilans o fynd o un cytundeb i'r llall yn gweithio oriau hir.
Ar ôl perswâd gan ffrindiau, fe benderfynodd nad rhoi'r gorau i'r diwydiant oedd yr ateb ond parhau i wneud y rhaglenni oedd hi'n teimlo bod angen eu gwneud - a sefydlu cwmni ei hun i'w gwneud nhw, gyda iechyd a lles yn ganolog i feddylfryd y cwmni.
Mae hi'n derbyn na fydd hynny'n hawdd mewn diwydiant lle mae oriau hir o ffilmio a golygu yn mynd law yn llaw â'r swydd. Ei hateb ydi rhoi canran llai o broffid i'r cwmni, fydd yn rhyddhau adnoddau er mwyn gallu parhau i wneud rhaglenni o safon tra'n gwarchod ei lles hi a'i chydweithwyr.
Mae'r ethos yn rhan o daith Meinir i newid ei ffordd o fyw i geisio osgoi mynd yn sâl eto.
Ar ôl ymchwilio i ganser, mae hi wedi addasu ei deiet gan roi'r pwyslais ar blanhigion, mae hi'n cadw'n heini ac yn ceisio cadw rheolaeth dros straen meddyliol a'i hemosiynau drwy wneud yoga.
Yn ôl Meinir mae'r tueddiad i feddwl yn ddwys am bethau drwy gyfnod o salwch wedi arwain at well dealltwriaeth o bobl hefyd - sydd wedi cael sgil-effaith bositif ar ei gwaith bob dydd.
Meddai: "Ar ôl y salwch ti'n gweld ochr arall i bethau o hyd, mae cymaint o haenau gwahanol i bob dim. Pan ti'n mynd drwy rywbeth fel yma ti'n mynd trwy lot, a mynd trwy rywbeth tywyll ac yn meddwl lot a dod i ddysgu am chdi dy hun.
"'Da ni'n edrych yn ddyfnach i ni'n hunain, ac wedyn pan ti'n cyfweld rhywun ac maen nhw'n dweud rhywbeth ti'n gwybod pan mae hynny'n dod o rywle rili dwfn achos ti wedi bod yna dy hun. Mae deall pobl yn bwysig yn y gwaith yma."
Ac un arwydd bod trin cyfranwyr a staff yn deg am dreiddio i ethos y cwmni newydd ydi agwedd Meinir wrth ffilmio rhaglenni:
"Un rheol oedd gen i efo Priodas Pum Mil - pan oedda ni'n dechrau ffilmio, a pawb yn cyrraedd y lleoliad cynta', roedd pawb o'r criw yn gorfod mynd mewn am banad a sgwrs cyn i'r criw gael unrhyw gêr o'r car ac i neb wneud dim byd arall.
"Mae'n bwysig i roi amser i bobl, ac wedyn maen nhw'n gweld chi fel pobl achos ella'u bod nhw'n nerfus o wneud rhaglen, ac mae rhywun hefyd yn clywed eu straeon dros baned.
"Ro'n i'n rhoi hynny yn yr amserlen."
Hefyd o ddiddordeb:
'Canu'r gloch' ar y cyfnod 'anoddaf un' i deulu ifanc o Lŷn
Dathlu'r Plygain yn Llanfyllin