Covid: Pryderon am allu'r GIG i ddarparu gwasanaethau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dr Frank Atheron a Dr Andrew Goodall
Disgrifiad o’r llun,

Dr Frank Atheron y prif swyddog meddygol a Dr Andrew Goodall, prif weithredwr y GIG yng Nghymru

Mae pennaeth y GIG yng Nghymru wedi dweud fod ganddo bryderon sylweddol ynghylch eu gallu i ddarparu gwasanaethau, gyda nifer y cleifion Covid mewn ysbytai yn fwy na dwbwl yr hyn oedd ym mis Ebrill.

Yng nghynhadledd newyddion y llywodraeth ddydd Mercher dywedoddd Dr Andrew Goodall fod rhai arwyddion calonogol fod yr haint yn dechrau sefydlogi, ond rhybuddiodd fod cyfnod heriol o'n blaenau.

"Rwy'n credu y bydd y gaeaf hwn yr un mwyaf heriol rwyf i a staff yr NHS wedi ei wynebu," meddai.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mesurau yn eu lle cyn y Nadolig sydd o bosib yn rhoi ychydig o dystiolaeth fod pethau yn dechrau gwella.

"Mae'n parhau yn heriol iawn, ac yn brysur... ac ein pryder ar gyfer Ionawr yw y bydd y straen newydd yn golygu o bosib y bydd yna gynnydd pellach."

Cynnydd pellach yn bosib

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 66 marwolaeth a 1,533 achos newydd o Covid-19, sy'n golygu fod cyfanswm y marwolaethau o ddechrau'r pandemig hyd at 1 Ionawr wedi cyrraedd 4,064.

Cyfanswm yr achosion positif hyd yma ydy 174,412.

Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Genedlaethol (ONS) yn cynnwys y marwolaethau a gofrestrwyd yn y cyfnod ers hynny, sy'n mynd â chyfanswm y marwolaethu i 5,169.

Dywedodd Dr Goodall fod yna bryderon penodol am y gogledd "lle mae nifer y bobl yn yr ysbyty gyda Covid wedi dyblu ers Gŵyl San Steffan".

Wrth fanylu ar effaith y pandemig ar y gwasanaeth iechyd, dywedodd Dr Goodall fod 14 ysbyty ar lefel tri neu bedwar - y ddau lefel uchaf o ran pwysau.

Mae tri ysbyty ar lefel pedwar.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pandemig yn cael effaith sylweddol ar gleifion ac ar staff, meddai pennaeth y GIG yng Nghymru

Galwodd ar bobl i wrando ar neges gweithwyr y gwasanaeth iechyd am y pwysau sylweddol sy'n bodoli ar y funud: "Gwrandewch ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud - maen nhw'n dweud wrthych chi fod hyn yn real iawn ac mae'r pandemig yn cael effaith sylweddol ar gleifion ac ar staff.

"Mae nifer y bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty â symptomau coronafeirws wedi parhau i gynyddu dros y pythefnos diwethaf. Erbyn hyn mae tua 2,870 o gleifion sy'n gysylltiedig â Covid yn ysbytai Cymru - yr uchaf a gofnodwyd.

"Rydym bellach wedi cyrraedd dros ddwbl y niferoedd uchaf o gleifion yn ystod y don gyntaf ym mis Ebrill. Ar y lefel yma, bydd yn rhaid i'r GIG wneud rhai penderfyniadau anodd iawn ynghylch cydbwysedd y gwasanaethau y mae modd eu darparu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd fod mwy na thraean o welyau ysbyty yn cael eu defnyddio gan gleifion sy'n dioddef o'r haint.

"Mae hyn yn syml yn ddigynsail," meddai.

"Er gwaethaf yr arwyddion calonogol o achosion yn sefydlogi yn y gymuned, rydym yn parhau i fod â phryderon sylweddol ynghylch gallu'r GIG i ddarparu gwasanaethau.

"Bydd effaith y cyfyngiadau, gan gynnwys y mesurau cloi, yn cymryd rhai wythnosau i'w teimlo yn y gwasanaeth iechyd."

Achosion yn sefydlogi

Ar ddechrau'r gynhadledd, dywedodd Dr Frank Atherton, prif swyddog meddygol Cymru fod arwyddion calonogol yn awgrymu fod nifer yr achosion o goronafeirws yng Nghymru yn sefydlogi.

Roedd gostyngiad bychan wedi bod yn nifer yr achosion yn y mwyafrif o ardaloedd yn y dyddiau diwethaf, gyda'r gyfradd erbyn hyn yn 410 ymhob 100,000 o'r boblogaeth.

Ond roedd y niferoedd ar gynnydd yn y gogledd, meddai, yn enwedig yn Wrecsam a Sir y Fflint.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Yr wythnos diwethaf roedd un o bob pedwar prawf yn gadarnhaol. Heddiw, mae un o bob pum prawf yn bositif. Mae hwn yn mynd i'r cyfeiriad cywir ond mae'n dal yn rhy uchel ac yn dangos bod llawer o goronafeirws yn cylchredeg yn y gymuned o hyd.

"Unwaith eto, mae hyn yn amrywio ledled Cymru - yn Wrecsam mae mwy na 30% o'r profion yn bositif.

"Rydym hefyd yn parhau i wneud cynnydd gwirioneddol yn brechu pobl - mae'r ffigurau diweddaraf, sydd newydd eu cyhoeddi, yn dangos bod mwy na 101,300 o bobl wedi cael eu dos cyntaf."

Amrywiad yn ymledu

Ond dywedodd Dr Atherton nad oeddynt yn gwybod a yw'r amrywiad newydd o'r haint wedi cyrraedd ei binacl eto.

Hwn yw'r prif straen yn y gogledd erbyn hyn, meddai, ac mae'n ymledu ar hyd y de o'r dwyrain i'r gorllewin.

Wrth ymateb i gwestiynau pellach ynglŷn â'r broses brechu dywedodd y byddai'n disgwyl i fyrddau iechyd sefydlu canolfannau brechu 24 awr pe bai galw am hynny.

Ond ychwanegodd fod angen i'r cyhoedd gofio "taw'r un bobl sy'n gweithio i roi brechlyn ag sydd hefyd yn rhan o'r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gwneud dyletswyddau eraill.

"Felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydym yn gwneud y gwasanaeth yn ansefydlog drwy gynyddu gwaith mewn mannau eraill."

"Rydym wedi bod drwy gymaint ond mae yna beth ffordd i fynd eto a bydd angen eich help i wneud yn siŵr fod y rhaglen brechu bresennol yn gweithio.

"Felly plîs, arhoswch gartref, amddiffyn y gwasanaeth iechyd ac arbed bywydau."