Ysgol Abersoch: Ymestyn cyfnod ymgynghori
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd wedi newid cyfnod ymgynghori ar gynnig i gau Ysgol Gynradd Abersoch.
Daeth y newid yn sgil cwynion gan ymgyrchwyr, gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith, am degwch cynnal y broses tra bod yr ysgol ar gau yn ystod y pandemig.
Fis Tachwedd fe wnaeth cabinet y cyngor bleidleisio dros gau'r ysgol yn dilyn cyfnod o ymgynghoriad.
Yn wreiddiol roedd y cyfnod ymgynghori rhwng 5 Ionawr a 16 Chwefror, ond fe fydd nawr yn cael ei ymestyn o wythnos.
Roedd y cabinet wedi cefnogi cynnal ymgynghoriad ym mis Medi, cyn i'r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi alw am ail-ystyried y mater.
Ond mae'r cyngor yn bwrw 'mlaen gyda'r cynllun, gan ddadlau nad ydy cynnal ysgol â 10 o blant ynddi yn ymarferol.
Mae hi'n costio £17,000 y flwyddyn i addysgu pob disgybl yn ysgol Abersoch tra bo'r cyfartaledd drwy'r sir yn ychydig dros £4,000.
Ond mae cymuned Abersoch yn awyddus i gadw'r ysgol, sydd wedi bod yn y pentref ers bron i 100 mlynedd, yn agored.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020