Williams i golli dechrau'r Chwe Gwlad wedi gwaharddiad
- Cyhoeddwyd

Fe welodd Liam Williams gerdyn coch am wneud cysylltiad pen yn erbyn pen â Shane Lewis-Hughes
Ni fydd Liam Williams ar gael i Gymru ar gyfer dechrau'r Chwe Gwlad eleni wedi iddo gael ei wahardd ar ôl derbyn cerdyn coch i'r Scarlets yn y golled yn erbyn Gleision Caerdydd.
Cafodd y cefnwr ei yrru o'r maes am wneud cysylltiad pen yn erbyn pen â Shane Lewis-Hughes mewn sgarmes.
Mae bellach wedi cael ei wahardd am dair gêm, gan olygu na fydd ar gael ar gyfer gêm agoriadol Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon ar 7 Chwefror.
Mae gemau Ewropeaidd wedi'u canslo am y tro oherwydd Covid-19, felly'r disgwyl yw y bydd y Scarlets yn trefnu gêm Pro14 yn erbyn y Gleision y penwythnos nesaf gan fod bwlch yn yr amserlen.
Ni fydd Williams ar gael ar gyfer y gêm honno na'r gêm yn erbyn Leinster ar 30 Ionawr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2021