Covid: 'Rhwystredig' methu cael triniaeth ar ôl genedigaeth
- Cyhoeddwyd
Datblygodd Ffion Thurston-Kellar, o Gaerdydd, gyflwr o'r enw diastasis recti pan yr oedd yn feichiog gyda'i merch Hâf y llynedd.
Mae'r cyflwr - sy'n achosi i gyhyrau'r stumog wahanu - yn bennaf yn effeithio ar fenywod beichiog, ac i un o bob tair menyw dydy'r cyflwr ddim yn gwella'n naturiol ar ôl yr enedigaeth.
Er hyn, doedd Ffion, 23 oed, erioed wedi clywed am y cyflwr, a chafodd hi anhawster derbyn triniaeth.
"Mae profiad fi 'di bod yn anodd hefo'r referral system," meddai.
"Fi dal heb glywed am e ac mae bron saith mis ar ôl yr enedigaeth nawr, sy'n amser eitha' hir, ac am diastasis, ti angen cael y driniaeth yn eitha' cynnar i allu helpu e, felly mae hynna bach yn frustrating."
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ei bod "yn flin i glywed am bryderon a phrofiadau" Ffion.
Ychwanegodd bod "amseroedd rhestrau aros ar gyfer ffisiotherapi o fewn targed 14 wythnos Llywodraeth Cymru".
Er bod Ffion yn derbyn triniaeth breifat am y cyflwr erbyn hyn, mae'r diastasis wedi effeithio ar ei gallu i wneud tasgau pob dydd fel mam newydd.
"Fi yn angen meddwl am e cyn i fi 'neud unrhyw fel ymarfer corff, neu unrhyw beth sy'n codi straen ar gyhyrau craidd fi, felly cyn i fi godi Hâf lan, fi really angen meddwl am e, neu cyn i fi godi unrhyw beth arall lan fel car seat neu rywbeth fel 'na," meddai Ffion.
Mae'r cyflwr hefyd wedi effeithio ar hunanhyder Ffion.
"Mae diastasis fi wedi curo fy hyder bach, just oherwydd mae 'di newid sut mae stumog fi'n edrych, a ddim just hynna ond fel stretch marks fi hefyd, sy'n digwydd i bron pob menyw feichiog," meddai.
"Ond mae just yn anodd dod i dermau hefo'r newid mawr yna."
'Rhywbeth i fod yn hapus ac yn hyderus amdano'
Mae Ffion yn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr, ac mae wedi dechrau cyfrif Instagram i rannu'r heriau, a'r llawenydd, o fod yn fam sengl newydd.
"Fi'n credu mae'n bwysig iawn codi ymwybyddiaeth am y topics yma, just fel bod pobl yn gallu gwybod beth sy'n gallu digwydd i unrhyw un, ac i siarad i bobl sy' mewn sefyllfa debyg, bod nhw wedyn yn gallu siarad am e hefo hyder, a ddim yn teimlo fel mae'n rhywbeth i fod yn ashamed of.
"Mae'n rhywbeth i fod yn hapus ac yn hyderus am, oherwydd dyma'r corff chi 'di tyfu eich babi lan mewn, a ti 'di 'neud rhywbeth amazing, a chreu person arall, ac i ddim bod yn siomedig neu'n embarassed gan fe."
Dywedodd llefarydd ar ran bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro: "Mae yna wahaniaethau arwyddocaol rhwng yr amseroedd rhestr aros ar gyfer cleifion allanol ar draws y nifer fawr o arbenigeddau gwahanol y mae'r bwrdd iechyd yn darparu.
"Er hyn, galla' i gadarnhau bod yr amseroedd aros cyfredol ar gyfer ffisiotherapi o fewn targed 14 wythnos Llywodraeth Cymru.
"Rydyn ni'n flin i glywed am bryderon a phrofiad y claf. Byddwn yn gofyn i'r claf gysylltu â'r bwrdd iechyd er mwyn delio gyda'i phryderon drwy'r gwasanaeth pryderon ffurfiol."
Beth yw diastasis recti?
"Cyflwr yw diastasis recti lle mae cyhyrau'r rectus abdominus, neu'r six pack, yn gwahanu", meddai Carys Williams, sy'n Ffisiotherapydd Arbenigol Iechyd Menywod a Chyhyrysgerbydol.
"Mae bennaf yn effeithio ar fenywod beichiog. Erbyn y trimester ola' bydd pob menyw sy'n disgwyl babi yn debygol o gael tamed o wahanu yn y cyhyrau yma achos bod maint y babi'n tyfu a phwysau'r babi yn gwthio'n erbyn y cyhyrau. Mae fe'n rhan naturiol o'r corff i'r cyhyrau i wahanu fel bod y babi'n gallu tyfu.
"Ond beth sydd yn digwydd yn tua thraean o fenywod yw bod y gwahanu ddim yn mynd 'nôl ar ôl yr enedigaeth."
Dywedodd Ms Williams bod peidio cael triniaeth am y cyflwr yn gallu cael effaith hirdymor ar y claf, yn cynnwys problemau cefn, problemau yn y pelfis, prolapse ac hernia.
Yn ôl Ms Williams "s'dim lot o ymwybyddiaeth ambiti'r cyflwr. So bydden ni'n tybio bod lot o bobl gyda'r cyflwr ond ddim yn gwybod bod e 'da nhw".
"Mae'n gallu cael effaith mawr ar iechyd a lles y fam. So ma' delwedd gorfforol negyddol, ma' nhw ddim yn lico shwt mae'r bol yn edrych, yn gallu cael effaith mawr ar hyder y fam."
Ychwanegodd: "Dyw pobl ddim yn trafod y pethe' 'ma'n agored... Fi'n credu yn aml ma' rhai mamau just yn diodde' mewn tawelwch, pan fod gymaint o bethau gallwn ni 'neud i helpu."
Dywedodd Ms Williams y dylai unrhyw un sydd â symptomau weld arbenigwr meddygol er mwyn derbyn y driniaeth gywir.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2020