Pryder am famau newydd yng nghyfnod Covid-19
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryderon dros iechyd meddwl rhieni sydd wedi cael babanod yn ystod y cyfnod gloi.
Dywedodd y National Childbirth Trust (NCT) fod llawer o deuluoedd newydd wedi teimlo eu bod "wedi'u hynysu" yn ystod y misoedd diwethaf ac nad bob tro oeddent yn ymwybodol o sut i gael gafael ar gymorth.
Daw'r sylwadau wrth i Aelod o Senedd Cymru a gafodd fabi ym mis Ebrill feirniadu'r gefnogaeth a gafodd hi ar ôl rhoi genedigaeth a rhybuddio am yr effaith hirdymor ar iechyd meddwl mamau newydd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod gwasanaethau wedi parhau drwy'r cyfnod clo a bod cefnogaeth ar gael i rieni.
'Gore po gynta' mae cael cymorth
Dywedodd rheolwr practis gyda'r NCT, Val Wilcox, y gall rai rhieni "fod yn amharod i estyn allan at ymwelydd iechyd neu fydwraig oherwydd nad ydyn nhw am eu trafferthu, neu nad ydyn nhw'n siŵr a ydyn nhw'n cael gwneud hynny".
"Rydyn ni wedi clywed am rai gwasanaethau yn estyn allan ac yn ffonio'r rhai sydd wedi'u hynysu'n gymdeithasol - efallai bod hynny'n rhywbeth y gellid ei roi ar waith i rieni newydd hefyd, felly yn hytrach na gorfod codi'r ffôn eu hunain."
Ychwanegodd Ms Wilcox: "Mae yna lawer o ymchwil sy'n dangos po gyntaf y bydd rhywun sy'n profi iselder ôl-enedigol yn ceisio cael cymorth, y cyflymaf y bydd yn gwella. Ac os nad yw'n hawdd neu'n amlwg o ble mae'r help hwnnw'n dod, yna mae unigolyn yn fwy tebygol o droelli tuag i lawr ac yna mae'n cymryd llawer mwy o amser ac adnoddau iddyn nhw wella."
'Diffyg cysondeb'
Fe wnaeth yr Aelod o'r Senedd Bethan Sayed o Blaid Cymru roi genedigaeth i'w mab Idris ddechrau mis Ebrill.
Dywedodd yr AS dros Orllewin De Cymru nad yw hi wedi cael yr un ymweliad gan ymwelydd iechyd a disgrifiodd y gefnogaeth a oedd ar gael fel "ysbeidiol".
Dywedodd hefyd ei bod wedi cael ei "rhyfeddu" gan nifer y bobl sydd wedi cysylltu â hi gyda phryderon tebyg ac yn dweud eu bod yn teimlo'n "ynysig".
Mae Ms Sayed yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob mam yn cael cynnig archwiliad chwe wythnos ac yn cael gwybod am y gwasanaethau sydd ar gael.
"Mae'r diffyg cysondeb ar y ddau gyfrif yn wirioneddol siomedig," meddai.
Fe gafodd Katie Jones o Borthcawl ei hail blentyn, George, ym mis Mawrth, ychydig cyn i'r cyfnod clo gychwyn yn swyddogol.
Dywedodd ei bod wedi teimlo "wedi'i hanghofio" heb gael yr un ymweliad gan ymwelydd iechyd a dim ond dwy alwad ffôn ers i'w mab gael ei eni.
"Rwy'n iawn mewn gwirionedd ond dydyn nhw ddim yn gwybod hynny. Fe allwn i fod yn llanast ar y llawr yn llefen y glaw gyda fy mabi ddim yn gwybod beth i'w wneud, ac ni fyddai gan unrhyw un gliw ar hyn o bryd oherwydd does neb wedi cysylltu ers iddo fod yn wyth wythnos oed."
Dywedodd Katie ei bod wedi cael rhif i'w ffonio os oes angen cefnogaeth arni ond ei bod hi'n credu y byddai'n well pe bai'r ymwelwyr iechyd yn codi'r ffôn yn lle.
Codi cyfyngiadau'n help
Ganwyd Audrey, merch Michelle Townsend yn gynnar ar ôl 26 wythnos ym mis Hydref.
Ar ôl cael ei chadw yn yr ysbyty wedi hynny cafodd fynd adref 10 niwrnod cyn i'r cyfnod clo ddechrau.
Tra bod y tîm newydd enedigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru wedi parhau i ymweld ag Audrey gartref yng Nghaerdydd, mae Michelle yn dweud fod y gefnogaeth sydd ar gael iddi fel mam newydd wedi bod yn "brin".
"Rwyf wedi cael sgwrs gyda'r ymwelydd iechyd cwpl o weithiau dros y ffôn ac un wyneb yn wyneb ac roedd yna ychydig o drafodaeth am fy iechyd meddwl.
"Ond i fod yn onest roedden ni wedi bod adref tua dau ddiwrnod ac yna digwyddodd y cyfnod clo ac mewn gwirionedd rwy'n credu bod hynny wedi cael mwy o effaith ar fy iechyd meddwl i."
Dywedodd Michelle fod y penderfyniad i godi cyfyngiadau teithio a chaniatáu i bobl ffurfio aelwyd estynedig wedi gwneud "gwahaniaeth enfawr" a'i fod yn "hen bryd".
Ychwanegodd, os oes ail don o'r pandemig a bod angen tynhau cyfyngiadau eto dylid, dylid rhoi "rhai ystyriaethau arbennig" i rieni â babanod newydd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "cefnogaeth amenedigol yn y gymuned a chefnogaeth iechyd meddwl wedi parhau drwy gydol y pandemig, gan gynnwys gwasanaethau bydwragedd ac ymwelwyr iechyd.
"Mae cefnogaeth ar gael i rieni drwy eu bydwraig ac ymwelydd iechyd, yn ogystal â thrwy apwyntiadau rhithiol, ffôn ac wyneb yn wyneb ble mae hynny'n ddiogel.
"Bydden ni yn galw ar i unrhyw un sy'n cael profi anawsterau i gysylltu â'i ymwelydd iechyd, bydwraig neu wasanaethau cefnogaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd20 Mai 2020
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2020