Covid-19: Prawf negyddol yn hanfodol cyn dod i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae teithwyr sy'n dod i Gymru o dramor bellach yn gorfod dangos eu bod wedi cael prawf coronafeirws negyddol cyn iddynt adael.
Fe ddaeth y rheol newydd i rym am 04:00 fore Llun, 18 Ionawr a'r nod yw amddiffyn Cymru rhag mathau newydd o Covid-19 sy'n cylchredeg yn rhyngwladol.
Mae'r rheol yn berthnasol i deithwyr sy'n cyrraedd mewn cwch, awyren neu drên o wledydd y tu allan i'r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel.
Mae pedair gwlad y DU wedi cytuno ar y mesurau, ac fe fyddan nhw mewn grym tan o leiaf 15 Chwefror.
Dirwy o £500
Mae Llywodraeth Cymru yn rhybuddio os nag oes prawf o ganlyniad negyddol, ni fydd modd teithio a gallai person fod yn cael dirwy o £500 pan yn cyrraedd Cymru.
Bydd yn rhaid cymryd y prawf dridiau cyn dechrau ar y daith o dramor - er enghraifft, os yn teithio ddydd Gwener y cyngor yw peidio cael prawf cyn ddydd Mawrth.
Bydd cyfnod cwarantîn 10 diwrnod yn parhau mewn grym ar gyfer teithwyr sy'n cyrraedd o wledydd nad ydynt ar restr gwaharddiadau teithio Llywodraeth Cymru, beth bynnag fydd canlyniad eu prawf cyn gadael.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, bod amrywiaethau o'r feirws wedi eu gweld dros y byd, ac felly bod angen "camau pellach i amddiffyn pobl yng Nghymru".
"Mae atal teithio rhydd yn golygu y bydd pobl sy'n teithio dramor yn gorfod cael prawf cyn dychwelyd ac ynysu ar ôl cyrraedd Cymru i sicrhau nad ydyn nhw'n dod â'r feirws yn ôl gyda nhw."
Ddydd Gwener, dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething bod y llywodraeth yn "gwneud popeth o fewn ei gallu" i arafu lledaeniad y feirws.
Yn ôl gwybodaeth gan arbenigwyr sydd yn astudio amrywiaethau Covid-19, mae un o ddau fath gwahanol o amrywiadau newydd o'r haint o Frasil wedi ei ddarganfod yn y DU.
Yn ôl Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, mae'r mesurau newydd yn "hanfodol" wrth i'r DU gymryd camau ymlaen yn y broses frechu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2020