Darlledu pecynnau Bitesize a mwy i helpu dysgu o adref
- Cyhoeddwyd

Mae Amser Maith yn Ôl yn un cyfres a fydd yn cael ei darlledu ar Hwb
Bydd pecynnau addysgol BBC Bitesize i'w gweld ar S4C o ddydd Llun ymlaen i hwyluso y gwaith o ddysgu o adref i "deuluoedd sy'n cael trafferth gyda cysylltiad y we, neu heb offer digidol".
Bydd pob rhaglen, a fydd yn cael eu darlledu am 11.45, ar thema benodol a chyfnod allweddol wedi ei labelu yn glir yn yr amserlen, gyda'r ddarpariaeth yn addas i gyfnod allweddol 2 a 3 ac yn amrywio o ran pynciau gan gynnwys hanes, rhifedd, llythrennedd a gwyddoniaeth.

Bydd y cynnwys yn berthnasol i blant cyfnod allweddol 2 a 3
Dywed Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: "Mae'n gyfnod anodd i ddisgyblion, rhieni ac athrawon ac mae BBC Cymru yn hynod o falch o allu cefnogi dysgwyr drwy Gymru unwaith eto.
"Gall fod yn her i rieni di-Gymraeg i sicrhau parhad ieithyddol eu plant yn ystod y cyfnod hwn ac mae'r bartneriaeth rhwng BBC Bitesize ac S4C yn ein caniatáu i ddarlledu pecynnau addysgol Cymraeg ar deledu.
"Mae'r ddarpariaeth newydd yma yn golygu y bydd plant yn parhau i allu clywed yr iaith Gymraeg yn eu cartrefi".
Yn ogystal bydd S4C yn rhyddhau 80 awr o raglenni ar borth addysgol Hwb Llywodraeth Cymru.

Dywed S4C bod ganddynt rôl bwysig i chwarae wrth gefnogi athrawon a rhieni mewn cyfnod anodd i bawb
Ymhlith y cyfresi ar Hwb mae Shwshaswyn, Dwylo'r Enfys, Amser Maith Maith yn Ôl, a hefyd rhaglenni o'r brif amserlen fel Cynefin a DRYCH.
Bydd ffilmiau sydd ar gwricwlwm Safon A, AS a TGAU hefyd yn cael eu hychwanegu i'r porth ac yn dod yn rhan o arlwy S4C ar Hwb gan gynnwys Martha Jac a Sianco, ac Y Gwyll.
'Sicrhau fod y Gymraeg yn ffynnu'
"Mae ein ymrwymiad i addysg yn flaenoriaeth fawr i ni" meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C
"Fel darlledwr cyhoeddus, yn sicr mae gan S4C rôl bwysig i chwarae wrth gefnogi athrawon a rhieni mewn cyfnod anodd i bawb.

Mae Dwylo'r Enfys ymhlith yr arlwy i'r rhai lleiaf
"Mae ein cynnwys wedi ei deilwra yn arbennig i gyd-fynd â'r cwricwlwm ac i alluogi athrawon ac arbenigwyr pwnc i greu adnoddau law yn llaw â'r rhaglenni. Mae ein arlwy plant yn hynod boblogaidd ac yn rhan o amryw o weithgareddau ychwanegol mae S4C wedi bod yn trafod gyda'r sector addysg yng Nghymru.
"Ry'n ni'n falch iawn o allu gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y cynlluniau hyn gyda'r bwriad o ysbrydoli plant a phobl ifanc gan sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn ffynnu. "
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Lles ac Iaith Gymraeg: "Mae S4C yn creu rhaglenni o'r ansawdd uchaf ar gyfer plant. I ddysgwyr hŷn, gall drama deledu fod yn ffordd dda iawn o gymysgu adloniant â dysgu Cymraeg, felly mae hyn yn newyddion da iawn i bobl o bob oed. "
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2021