Dim taliad hunan-ynysu drwy'r ap ffôn yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sydd wedi cael gwrthod grant o £500 ar ôl cael cyfarwyddyd i hunan-ynysu gan ap ffôn y gwasanaeth iechyd wedi disgrifio hynny fel "annheg".
Yng Nghymru, mae'r taliad ond ar gael i bobl ar incwm isel sy'n cael cais i hunan-ynysu drwy alwad ffôn, ebost, llythyr neu neges destun.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "ystyried a oes modd dilysu defnyddwyr yr ap fel eu bod yn gallu gwneud cais am y taliad".
Fe gollodd David Miller, sy'n yrrwr tacsi yn Sir Benfro, 10 diwrnod o waith, ond ni chafodd y taliad.
Ym mis Rhagfyr fe gyhoeddwyd bod yr ap i Gymru a Lloegr wedi ei ddiweddaru er mwyn caniatáu i bobl oedd yn cael neges i hunan-ynysu hawlio'r £500.
Ond er bod defnyddwyr yn Lloegr nawr yn medru gwneud hynny, dyw defnyddwyr yng Nghymru'n dal yn methu gwneud cais.
Dewis anodd
Cafodd Mr Miller neges drwy'r ap ar Ŵyl San Steffan yn dweud wrtho am hunan-ynysu am 10 diwrnod.
Fel un sy'n derbyn lwfans tai, fe ddylai fod wedi medru hawlio grant o £500 i'w ddigolledu am golli cyflog.
Ond pan geisiodd am y taliad drwy ei gyngor lleol, cafodd wybod nad oedden nhw'n medru ei dalu.
"Roedd yn annheg ac yn ergyd," meddai. "Dydw i heb gael unrhyw help ers dechrau'r pandemig gan y llywodraeth.
"Maen nhw'n gofyn i chi hunan-ynysu er mwyn gwarchod eraill ond dydych chi'n cael dim cefnogaeth ariannol, felly mae'n rhaid gwneud dewis; ydw i'n mynd allan a pheryglu eraill am fod gen i filiau i'w talu, neu a ddylwn i stryglo'n ariannol ac aros adre?
"Fy newis i yw gwrando ar yr ap, aros adre a hunan-ynysu."
Ond mae Mr Miller yn credu bod eraill yn gwneud y dewis arall.
Ychwanegodd: "Mae gen i lot o ffrindiau yn y busnes tacsis sydd ddim yn lawrlwytho'r ap oherwydd hynny.
"Rwy'n gwybod am bobl fydd ddim yn glynu at y cyfarwyddyd, oherwydd dwi wedi siarad gyda nhw. Allan nhw ddim gwneud e yn ariannol."
Cafodd y grantiau £500 eu cyflwyno yng Nghymru ganol Tachwedd er mwyn cynorthwyo'r rhai ar incwm isel i hunan-ynysu.
Mae pobl yn gymwys os nad ydyn nhw'n medru gweithio o adre, ac yn derbyn rhai budd-daliadau penodol.
Ceisio dilysu'r ap
Ond mae pryder am effeithiolrwydd y cynllun.
Mae ymchwil gan raglen Wales Live BBC Cymru'n awgrymu bod oddeutu 3,000 o daliadau wedi eu gwneud (2,543 gan 19 cyngor gyda'r tri arall heb ateb) gan gynghorau Cymru.
Yn ystod y cyfnod yna, cafodd degau o filoedd o bobl oedd wedi cael prawf positif, neu wedi dod i gysylltiad gyda rhywun oedd wedi cael prawf positif, gais i hunan-ynysu.
Yn Lloegr, mae pobl sy'n cael neges drwy'r ap yn medru hawlio'r taliad yn dilyn proses o ddilysu eu hunaniaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ystyried a oes modd dilysu defnyddwyr yr ap yma fel eu bod yn medru gwneud cais am y taliad.
"Rydyn ni'n dal i weithio ar sut i newid yr ap er mwyn medru dilysu pobl heb beryglu dyluniad ac ymarferoldeb yr ap."
Gallwch weld mwy am y stori yma ar Wales Live, BBC One Wales am 22:30 nos Fawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd1 Mai 2020