Lle i enaid gael llonydd: Marc Griffiths
- Cyhoeddwyd

Mae'r cyflwynydd a chynhyrchydd radio Marc Griffiths, neu Marci G i'w wrandawyr, yn byw yn Nant y Caws ger Caerfyrddin gyda'i wraig Rebecca a'u teulu.
Yma, mae'n mynd â ni i'r lle tawel sy'n rhoi llonydd iddo:

S'dim byd yn well na wâc fach! Ry'n ni'n lwcus iawn yma yn y gorllewin fod yna ddigonedd o lefydd i fynd os oes eisiau awel y môr ac ychydig o gerdded hamddenol.
Un o'm hoff lefydd ers pan o'n i'n blentyn yw Llansteffan a dyma'r lle fydda'i a'r teulu, a Mali'r ci, yn mynd pan fydd angen bach o lonyddwch.
Mae gweld Mali yn cyffroi wrth i ni agosáu yn rhoi gwên ar fy wyneb bob tro.

Mae Mali'r ci hefyd yn mwynhau wâc i Lansteffan
Tua saith milltir i'r de orllewin o Gaerfyrddin, mae'r cyfuniad perffaith o'r traeth a'r castell yn apelio trwy gydol y tymhorau. Mae safle'r castell yn odidog, yn sefyll ar benrhyn trawiadol ac yn edrych dros dywod gwastad aber afon Tywi.
Yn ffodus i ni, dim ond rhyw ddeg munud o daith yw Llansteffan o'n cartref a boed glaw neu hindda mae'n bleser pur cael dianc o brysurdeb bywyd wrth gerdded ar y traeth cyn ymdroi tuag at y castell.

Ry'n ni wedi dathlu nifer o achlysuron hapus iawn yn Llansteffan ac wedi llenwi boliau gyda sawl barbeciw awyr agored yno.
Unwaith daw y cyfnod clo i ben fe fyddwn ni unwaith eto yn mynd tuag at Lansteffan gan obeithio erbyn hynny y byddwn yn gallu joio fish a chips cyn gadael!
Hefyd o ddiddordeb: