Lle i enaid gael llonydd: Catrin Mara
- Cyhoeddwyd

Yr actores Catrin Mara, sy'n chwarae rhan y brifathrawes Elen Edwards yn y gyfres Rownd a Rownd, sy'n trafod y lle sy'n rhoi llonyddwch meddwl iddi, y lle y bydd hi'n mynd iddo i roi perspectif ar bethau, yng Nghaernarfon:
Yn nghrombil y trydydd cyfnod clo a ninnau wedi'n cyfyngu unwaith yn rhagor i'n milltir sgwâr rhaid i mi ddiolch am y llecyn hudolus yma.
'Ben Twthill.'

Rydym yn siwr o fod wedi troedio pob llwybr cyhoeddus bosib yn - ac o amgylch tref Caernarfon dros y misoedd diwethaf ond mae'r olygfa o Ben Twtil yn newid o awr i awr heb sôn am o dymor i dymor.

Fydda i byth yn blino ar yr olygfa panoramig o'r fan yma - o gewri Eryri a phrydferthwch y Fenai ac Ynys Môn y tu hwnt iddi.
Dyma lle y bydda i'n dod i anadlu ac i roi perspectif ar bethau.
Hefyd o ddiddordeb: