Y cerddor a'r addysgwr Dr Aled Lloyd Davies wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae'r cerddor, beirniad ac arbenigwr cerdd dant, Dr Aled Lloyd Davies, wedi marw - ddyddiau cyn y byddai wedi cael ei ben-blwydd yn 91 oed.
Nid yn unig y gwnaeth gyfraniad nodedig ym maes cerdd dant yn ystod ei oes, ond roedd hefyd wedi cyflawni swyddi blaenllaw ar bwyllgorau'r Eisteddfod Genedlaethol.
Yn enedigol o'r Brithdir, bu am flynyddoedd yn arweinydd un o bartïon cerdd dant enwocaf Cymru, Meibion Menlli a sefydlwyd pan oedd yn athro yn Nyffryn Clwyd.
Dros ddeng mlynedd ar hugain cynhaliodd Meibion Menlli 500 o gyngherddau, gan ennill pum gwobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol a'r un nifer o wobrau yn yr Ŵyl Gerdd Dant.
Er ei ddiddordeb cerddorol mawr, mewn daearyddiaeth y graddiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Wedi hynny treuliodd ddwy flynedd yn adran addysg y fyddin cyn mynd i Benbedw i weithio fel athro.
Yn 1965 symudodd i ddysgu yn Ysgol Uwchradd Maes Garmon yn Yr Wyddgrug, gan ymddeol 20 mlynedd yn ddiweddarach yn brifathro.
Roedd yn un o hoelion wyth y dref honno, ac yn flaenor, codwr canu ac aelod ffyddlon o Gapel Bethesda am flynyddoedd.
Enillodd raddau MA a PhD am ei ymchwil i hanes cerdd dant ac roedd yn awdur ar nifer o gyfrolau.
Bu'n feirniad sawl gwaith a lluniodd sgriptiau ar gyfer chwe sioe gerdd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
'Wedi colli un o'r goreuon'
Pan ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol â'r Wyddgrug yn 1991 ef oedd cadeirydd y pwyllgor gwaith.
Cafodd ei urddo'n Gymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2004 am ei gyfraniad i ddiwylliant Cymru.
Dyma'r anrhydedd uchaf y mae'r Brifwyl yn gallu ei rhoi i berson, a dim ond pum Cymrawd sydd ar unrhyw adeg.
Bu hefyd yn gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod ac yn llywydd y Llys, ac roedd yn llais a wyneb cyfarwydd ar radio a theledu a ddegawdau.
Dywedodd prif weithredwr y Brifwyl, Betsan Moses: "Ry'n ni wedi colli un o'r goreuon heddiw.
"Nid gorddweud yw sôn am Aled fel un o 'hoelion wyth' yr Eisteddfod - a'r Pethe'n gyffredinol. Roedd ei wybodaeth, ei frwdfrydedd a'i ddawn yn arbennig, a'i allu i rannu a chyfathrebu hyn gyda phawb yn gwbl unigryw.
"Ry'n ni'n diolch am ei gefnogaeth diwyro i'r Eisteddfod dros y blynyddoedd, ei gyngor doeth a'i gyfeillgarwch.
"Nid un i gefnogi am wythnos y flwyddyn oedd Aled. Roedd bob amser ar gael am bwt o gyngor neu air cefnogol."
'Diolch am bob dim, Mr Davies'
Dywed neges ar dudalen Twitter Ysgol Maes Garmon ei fod "yn arweinydd arbennig, yn gerddor dawnus, a ffrind ffyddlon yr ysgol. Colled aruthrol i deulu Maes Garmon, ein cymuned a Chymru gyfan".
Ychwanega'r neges "Diolch am bob dim Mr Davies."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cafodd ei ddisgrifio gan brif weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol, Pedr ap Llwyd fel "gŵr caredig ac amryddawn a gyfoethogodd ein bywyd diwylliannol mewn sawl maes yn ystod ei fywyd a'i yrfa nodedig. Bydd bwlch mawr ar ei ôl."
Mae'n gadael gwraig, Beryl a'i blant, Rhodri, Gwenno, Powys ac Iestyn.