'Angen gwarchod heddlu sy'n plismona'r cyfnod clo'
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwarchod swyddogion heddlu sy'n plismona cyfyngiadau'r cyfnod clo, yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys.
Mae Dafydd Llywelyn hefyd yn dweud nad oes cynllun gan Lywodraeth Cymru, ar hyn o bryd, i sicrhau fod plismyn yn cael brechiad yn erbyn Covid-19.
"Mae'n gyfnod anodd a thrist," meddai, "ac ry'n ni wedi gweld heddweision yn mynd i dai pobl sydd wedi marw o'r feirws ac wedyn yn cael eu hunain mewn sefyllfa fregus yn unigol.
"Dyna pam dwi'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr heddlu ddim yn cael eu hanghofio pan ni'n dod i flaenoriaethu y brechlyn - dwi ddim yn teimlo bod yna gynllun clir ar hyn o bryd."
Ers dechrau'r cyfyngiadau mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dosbarthu bron i fil wyth gant (1,784) o ddirwyon i bobl sy'n torri'r rheolau.
Mae Heddlu De Cymru wedi dosbarthu 853 o ddirwyon, Heddlu'r Gogledd 623 a Heddlu Gwent 395.
Mwy o ymosodiadau
Dywed Dafydd Llywelyn hefyd bod yr ymosodiadau ar blismyn wedi cynyddu.
"Dwi'n galw ar y gymuned i fod yn fwy amyneddgar ac i ddangos parch at y sawl sydd yn y pen draw yn gweithio yn y gymuned i gadw ni gyd yn saff yn ystod y cyfnod anodd hwn," meddai.
"Wrth i'r tensiynau godi dyw'r math yma o ymddygiad ddim yn dderbyniol o gwbl."
Ond nid yn unig yn y cymunedau mae'r pwysau. Mae yna bwysau cynyddol hefyd yn y swyddfa wrth i fwy o bobl fynd yn sâl neu orfod hunan-ynysu, yn ôl Gareth Scanlon sy'n rheolwr perfformiad canolfan reoli'r heddlu.
"Ni wedi cael tipyn o challenges fan hyn gyda staff wedi bod yn sâl o Covid," meddai. "Mae llai o staff 'da ni ac mae'r galwadau ni'n gael nawr lot yn uwch na beth roedden ni'n ei gael cyn y pandemig."
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn dilyn cynllun y pwyllgor brechu o ran pa grwpiau ddylai gael blaenoriaeth.
Mewn cyfnod lle mae pob rhan o gymdeithas yn teimlo'r straen neges yr heddlu yw nad ydyn nhw'n eithriad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2020