Y Gynghrair Genedlaethol: Chesterfield 2-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Y Gynghrair GenedlaetholFfynhonnell y llun, Getty Images

Gôl funud olaf wnaeth atal Wrecsam rhag sicrhau gêm gyfartal a phwynt oddi cartref yn erbyn Chesterfield yn y Gynghrair Genedlaethol.

Ond roedd y tîm cartref yn haeddu ennill, diolch i Akwasi Asante, a sgoriodd goliau cyntaf ac olaf y gêm.

Dryswch amddiffynnol arweiniodd at y gôl gyntaf, cyn i Wrecsam ddod yn gyfartal wedi i Jak McCourt lawio'r bêl.

Luke Young wnaeth sgorio o'r smotyn.

Roedd yna gyfle agos i Jordan Ponticelli wedi hynny cyn i ail gôl Asante sicrhau'r triphwynt.

Mae'r canlyniad yn gadael Wrecsam yn y 12fed safle gyda 23 o bwyntiau.