Covid: Staff DVLA Abertawe'n 'ofn mynd i'r gwaith'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Swyddfa'r DVLAFfynhonnell y llun, Zweifel
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 352 o achosion Covid yn gysylltiedig â'r ganolfan yn Llansamlet wedi'u cofnodi o fewn pedwar mis erbyn Rhagfyr

Mae undeb yn galw ar weinidogion i ymyrryd yng nghanolfan alwadau asiantaeth drwyddedu'r DVLA, ble mae 500 o aelodau staff wedi'u heintio â coronafeirws.

Mae'r niferoedd, medd undeb PCS, yn "sgandal" ac mae'n honni fod gweithwyr yn ofni mynd i'r gwaith rhag ofn iddyn nhw gael eu heintio.

Dywedodd llefarydd ar ran y DVLA fod diogelwch yn flaenoriaeth, a'u bod yn dilyn y canllawiau "i helpu diogelu ein swyddfeydd rhag Covid".

Ond mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth BBC Radio Cymru eu bod "yn poeni am y DVLA ers sbel," ac mai dyna un o'r rhesymau dros ddeddfwriaeth i dynhau'r rheolau coronafeirws yn y gweithle.

'Angen lleihau'r nifer yn y gweithlu'

"Mae'n sgandal nad yw'r DVLA yn gwneud mwy i leihau niferoedd yn y gweithlu pan fo heintiadau Covid ar gynnydd," meddai Mark Serwotka, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb PCS sy'n cynrychioli gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus a masnachol.

"Mae ein haelodau yn dweud wrthym eu bod yn ofn mynd i'r gwaith rhag ofn iddyn nhw ddal Covid-19.

"Rhaid i weinidogion ymyrryd a sicrhau fod y DVLA'n gwneud eu gorau glas i helpu staff weithio o adref ac atal gwasanaethau nad sy'n hanfodol dros dro."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru'n cadw golwg ar y sefyllfa ers sbel, medd Eluned Morgan

Ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul, dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, Eluned Morgan fod gweinidogion wedi "bod yn poeni am y DVLA ers sbel" ac wedi "bod yn rhoi pwyse' arnyn nhw".

"Mae hwn yn rhywbeth sy' wedi dod lan yn aml gan y bobl sy'n cynrychioli ardal Abertawe, ac 'y ni'n poeni fod y pwyse ar y bobl sy'n gweithio yno wedi bod yn rhywbeth sy' ddim wedi bod yn help.

"Dyna un o'r rhesymau pam ddaethon ni â'r rheolau newydd i mewn; deddfwriaeth i dynhau rheolau ar bobl yn y gweithle."

Profiad gweithiwr

Dywedodd un sy'n gweithio ar y safle, ac na sydd am gael ei enwi, wrth y BBC nad yw pobl sydd â chysylltiadau agos â rhywun sydd wedi cael prawf positif yn cael eu hanfon adref bob tro. Dyw pellhau cymdeithasol ddim wastad yn digwydd a 'dyw hi ddim, wastad, yn bosib gweithio o adref oherwydd systemau 'hynafol'.

"Mae rhai o'r rheolwyr yn ceisio newid y rheolau," meddai.

"Mae 'na sôn wedi bod am beidio defnyddio'r app olrhain track and trace. Os oes rhywun bant o'r gwaith gyda Covid dyw'r rhai na sy'n defnyddio'r app ddim yn cael eu hanfon adref.

"Maent yn dweud os nad yw eich app wedi canu - yna chi ddim yn cael mynd adref."

Ychwanegodd y gweithiwr ei bod yn anodd glynu at y rheol dau fetr gan nad yw dull gweithredu y swyddfa yn caniatáu hynny ac mae'n dweud bod rhai pobl wedi ymddiswyddo.

"Mae pobl ofn," meddai, "ond dim bai'r rheolwyr yw'r cyfan - maen nhw ofn hefyd."

Gwasanaethau hanfodol

Dywed y DVLA bod rhai aelodau staff wedi gallu gweithio o adref "yn unol â chyngor y llywodraeth", ond bod angen i rai ohonyn nhw fod yn y swyddfa oherwydd natur eu gwaith.

"Yn sgil natur hanfodol y gwasanaethau cyhoeddus rydym yn eu darparu, rhaid i rai staff fod yn y swyddfa os yw eu rôl yn golygu na allen nhw weithio o adref," medd llefarydd.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y DVLA eu bod wedi cymryd camau i ddiogelu gweithwyr, gan gynnwys agor swyddfa ychwanegol

Ychwanegodd fod yr asiantaeth wedi gweithio'r agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, adran iechyd yr amgylchedd Cyngor Abertawe a swyddogion undeb i geisio diogelu eu hadeiladau rhag Covid. Mae hynny'n cynnwys agor swyddfa ychwanegol yn Abertawe.

Ar hyn o bryd, mae pedwar aelod staff â'r feirws, ond does dim un ohonyn nhw'n gweithio yn y ganolfan alwadau.

Ychwanegodd y llefarydd: "Cyn Nadolig, pan roedd cyfraddau heintio'n uchel iawn yn y gymuned leol ble mae mwyafrif ein staff yn byw, fe welsom gynnydd yn nifer y staff yn cael prawf Covid positif."

Dywed AS Abertawe, Carolyn Harris ei bod "mewn cysylltiad cyson" gyda'r asiantaeth yn ystod y cyfnod clo cyntaf oherwydd pryderon gweithwyr.

"Ers Nadolig, dydw i heb allu cael gafael ar unrhyw un o'r DVLA," meddai wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales.

"Neithiwr nes i dreulio amser hir yn ceisio cael gafael ar y prif weithredwr."Mae rhywfaint o'r hyn rwy' nawr yn ei ddarllen, a rhywfaint o'r hyn sydd wedi fy nghyrraedd yn y 24 awr diwethaf wirioneddol yn fy mhoeni."

Pynciau cysylltiedig