Covid: 62 achos ers dechrau'r mis yn y DVLA yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
DVLAFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Adeilad DVLA yn Abertawe

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod clwstwr o achosion o Covid-19 yng nghanolfan y DVLA yn Abertawe.

Ers 1 Medi, mae cyfanswm o 352 o achosion ymhlith aelodau o staff yno wedi cael eu cadarnhau, ond yn fwy diweddar mae 62 o achosion wedi dod i'r amlwg ers 1 Rhagfyr.

Mae ICC wedi bod yn cwrdd gyda phartneriaid eraill er mwyn ceisio cynorthwyo'r DVLA i reoli effaith yr achosion.

Mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi gosod adnoddau profi ar y safle o ddydd Llun tan ddydd Mercher 23 Rhagfyr ar gyfer staff y ganolfan yn benodol.

Dywedodd Siôn Lingard o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Gall ICC gadarnhau bod y gwasanaeth profi ac olrhain wedi bod yn ymateb i 62 achos sydd wedi'u cadarnhau o Covid-19 ymysg gweithwyr yng nghanolfan gyswllt y DVLA yn Abertawe ers 1 Rhagfyr.

"Hoffwn annog holl staff y ganolfan i fanteisio ar y cynnig o brawf ar y safle tan ddydd Mercher. Mae canfod achosion yn gynnar fel arfer yn allweddol i leihau ymlediad y feirws a'r risg i bobl o'ch cwmpas.

"Byddwn hefyd yn atgoffa'r cyhoedd yng Nghymru o dan lefel 4 o gyfyngiadau Llywodraeth Cymru fod gan bawb rôl hanfodol i chwarae i atal lledaeniad coronafeirws.

"Po fwya o bobl y byddwch yn cymysgu gyda nhw, y mwyaf yw'r risg o ledaenu a chael coronafeirws."

Pynciau cysylltiedig