Prif Weinidog yn ymweld â Sgiwen wedi'r llifogydd
- Cyhoeddwyd

Mark Drakeford yn Sgiwen ddydd Sul
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi ymweld â phentref Sgiwen, yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi i lifogydd orfodi 80 o drigolion i adael eu cartrefi.
Yn ddiweddarach anfonodd neges ar ei gyfrif Twitter yn dweud ei fod yn meddwl am y rhai sydd wedi dioddef yn sgil y llifogydd.
Mae'r Awdurdod Glo yn dweud eu bod wedi dod o hyd i siafft a gwympodd wedi i ddŵr gronni'n ormodol wrth ymchwilio i achos y llifogydd.
Yn ôl arbenigwyr, mae archwiliadau hyd yn hyn yn awgrymu fod holl siafftiau'r hen weithfeydd glo gerllaw yn ddiogel.
Mae'r cyngor sir yn rhybuddio nad yw'n ddiogel eto i bobl ddychwelyd i'w cartrefi, ar ôl derbyn adroddiadau fod rhai wedi gwneud hynny.
'Rhaid cadw draw'
Dywedodd yr awdurdod mewn neges Twitter fod ymholiadau'n parhau ar y safle, gan gynnwys gwiriadau diogelwch cwmnïau dŵr, nwy, trydan a ffôn.
"Maen nhw wedi gofyn i ni ailadrodd y cais i breswylwyr gadw draw, ac nad yw'n ddiogel i ddychwelyd heddiw nac yfory."
Roedd arweinydd y cyngor sir eisoes wedi rhybuddio y gallai gymryd ychydig ddyddiau cyn bod modd i bobl fynd adref.
Peiriannau mwy
"Rydym yn parhau gyda'r gwaith ar y safle i ddeall yn llaw beth ddigwyddodd," meddai Lisa Pinney, prif weithredwr yr Awdurdod Glo - y corff sy'n rheoli effeithiau cloddio yn y gorffennol ar gymunedau.
"Ddoe fe wnaeth criw sy'n drilio â llaw nodi union leoliad y siafft a gwympodd.
"Mae hynny nawr yn caniatáu i ni ddod â pheiriannau mwy i mewn, i ymchwilio gweithfeydd glo ehangach a'r sianeli draenio yn yr ardal o'u cwmpas, fel y gallwn ni ddeall yn fanwl beth achosodd y pwysedd dŵr gormodol."

Mae'r Awdurdod Glo'n credu mai rhwystr dan ddaear wnaeth achosi i'r dŵr gronni a dod i'r wyneb.
Ychwanegodd Ms Pinney: "Rydym wedi archwilio pob siafft sydd wedi'u cofnodi gerllaw a chanfod eu bod oll yn ddiogel.
"Byddwn yn archwilio ardal ehangach yn y dyddiau nesaf."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot ddydd Sul bod yr awdurdod "yn gweithio'n agos gyda'r Awdurdod Glo i ddeall sut fydd trigolion yn cael eu heffeithio gan yr ymchwiliadau sy'n mynd rhagddynt.
"Rydym yn gwybod y bydd pobl eisiau dychwelyd i'w cartrefi ond am heddiw ac yfory nid yw'n ddiogel i wneud hynny."
"Diogelwch trigolion yw ein prif flaenoriaeth o hyd, ac yn y cyfamser rydym yn gofyn i chi fod yn amyneddgar, os gwelwch yn dda, wrth i'r ymchwiliad barhau."
Mae'r cyngor yn annog dioddefwyr sydd angen help i gysylltu â llinell gymorth arbennig - 01639 686868 - neu ddefnyddio'r ganolfan sydd wedi'i sefydlu ar eu cyfer yn Ysgol Gynradd Abbey rhwng 09:00 a 17:00.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2021