Galw am rieni maeth wedi cynyddu yn ystod y pandemig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Brian and Helen HarrisonFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd Brian a Helen Harrison o Ben-y-bont faethu bedair blynedd yn ôl

Mae'r galw am rieni maeth wedi cynyddu 30% yn ystod y pandemig, medd elusen.

Rhwng Ebrill a Rhagfyr 2020 fe wnaeth nifer y plant a gyfeiriwyd i wasanaethau maeth Barnardo's Cymru godi o 486 i 630.

Mae'r elusen yn poeni na fydd cannoedd o blant yn dod o hyd i gartref maeth oni bai bod mwy o ofalwyr yn cael eu recriwtio.

Dywed yr elusen bod mwy o deuluoedd wedi canfod bywyd yn anodd yn ystod y cyfnod clo - yn enwedig teuluoedd bregus sydd wedi wynebu colli swydd, mwy o dlodi a phroblemau iechyd meddwl.

Dywed Barnardo's Cymru hefyd bod mwy o blant wedi gweld trais yn y cartref a thrais rhyw yn ystod y cyfnod clo.

Mae'r elusen yn credu y bydd y pwysau yn effeithio ar fwy o deuluoedd wrth i'r pandemig barhau.

Ar wythnos genedlaethol maethu mae Barnardo's yn galw ar bobl sydd dros 21 oed ac sydd ag ystafell ac amser sbâr i ystyried maethu plentyn.

'Angen gwrando ar blentyn'

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Barnardo's yn poeni bod nifer o blant wedi gweld neu brofi trais yn y cyfnod clo

Fe ddechreuodd Brian a Helen Harrison o Ben-y-bont ar Ogwr faethu bedair blynedd yn ôl. Dewisodd Brian ddod yn ofalwr maeth llawn amser pan oedd yn 60 oed wedi iddo fod yn gweithio yn y sector ofal gyda phobl ifanc. Mae Helen yn parhau i weithio yn y sector feithrin.

Er bod gan y ddau gefndir helaeth yn y maes maent yn dweud nad oes angen profiad eang - yr hyn sy'n bwysig, meddent, yw sgiliau gwrando ac amynedd.

Dywedodd Brian: "Mae'n rhaid cael amynedd a bod yn barod i wrando ar blentyn. Mae eu hymddygiad yn adlewyrchiad o'r hyn y maent wedi ei wynebu - allwch chi ddim eu beirniadu am hynny.

"Fe gewch eich gwobr pan ry'ch yn gweld personoliaeth go iawn y plentyn yn dod i'r amlwg, pan y'u gwelwch yn ffurfio cyfeillgarwch am y tro cyntaf a'r pleser y maent yn ei gael yn darganfod ffrindiau newydd."

'Newid dyfodol plentyn'

Mae gofalwyr o bob cefndir yn cael eu hannog i gofrestru a nodir bod cymorth ar gael ar hyd y daith a lwfans.

Dywedodd Martin Kaid, un o reolwyr Barnardo's: "Heb fwy o deuluoedd maeth mae'n bosib y bydd plant yn gorfod byw yn bell o'u teulu, eu ffrindiau a'u hysgol ac o bosib yn gorfod mynd at deulu na sy'n cwrdd â gofynion unigol.

"Ry'n yn benodol yn chwilio am ofalwyr i fwy nag un plentyn o'r un teulu ac hefyd i blant ag anghenion arbennig."

Pa gymorth sydd ar gael?

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn ymwybodol o'r trafferthion sy'n wynebu dioddefwyr trais yn y cartref a thrais rhyw, yn enwedig, yn ystod y pandemig.

"Ry'n wedi darparu cyllid ychwanegol i sicrhau llety brys i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio ac ry'n yn gweithio gyda gwasanaethau arbenigol i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i gwrdd â'r gofyn.

"Ry'n hefyd yn gweithio'n galed i sicrhau bod y rhai sydd angen y cymorth yn gwybod amdano."

Ychwanegodd y llefarydd bod modd ffonio y linell gymorth Byw Heb Ofn, dolen allanol os am gymorth a chefnogaeth.