14,000 yn fwy yn ddi-waith yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae diweithdra wedi cynyddu yng Nghymru a dros y DU, yn ôl ffigyrau newydd.
Yn ôl ffigyrau ar gyfer y tri mis hyd at fis Tachwedd, roedd 14,000 yn fwy o bobl yn ddi-waith na'r tri mis blaenorol.
Roedd ffigwr mis Tachwedd hefyd 25,000 yn uwch na'r un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Dros Gymru mae 4.6% o bobl yn ddi-waith, o'i gymharu â chyfradd o 5% dros y DU gyfan.
O ran y niferoedd mewn gwaith yng Nghymru rhwng Medi a Thachwedd, roedd 32,000 yn llai o bobl mewn gwaith na'r un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Mae cyfradd diweithdra Cymru yn parhau'n is na gwledydd eraill y DU, ond mae'r gyfradd yn tyfu'n gynt nac unrhyw ardal arall oni bai am Lundain.
Mae'r ffigyrau'n awgrymu bod y swyddi sydd wedi eu colli yng Nghymru yn rhai â chyflogau isel.
Y celfyddydau, adloniant a lletygarwch ydy'r sectorau sydd wedi eu heffeithio waethaf.
Dros y DU, roedd 793,000 o bobl yn llai mewn gwaith fis diwethaf o'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn gynt.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2020