70,000 o bobl yn ddi-waith yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Diweithdra

Roedd nifer y di-waith yng Nghymru wedi codi i 70,000 ym mis Hydref, dros 22,000 yn uwch na'r ffigwr ym mis Gorffennaf.

O holl wledydd y DU, yng Nghymru oedd y cynnydd mwyaf mewn diweithdra o fewn y cyfnod.

Yng Nghymru, mae 4.6% o bobl bellach yn ddi-waith, a dros y DU cyfan mae 4.9% heb swydd - y lefel uchaf mewn tair blynedd.

Dros y DU, mae'n golygu bod 1,692,000 o bobl bellach heb waith - sydd dros 400,000 yn uwch na'r nifer ar gyfer yr un cyfnod llynedd.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol mae'r ffigyrau treth diweddaraf yn dangos bod 800,000 o bobl yn llai wedi derbyn cyflog ym mis Tachwedd o'i gymharu â Chwefror.

Roedd traean o'r bobl yna wedi bod yn gweithio yn y sector lletygarwch.

Dyma'r tro cyntaf i ffigyrau ddangos faint o bobl sy'n derbyn cyflogau gan gwmnïau fesul diwydiant.

Mae'n cadarnhau bod sectorau lletygarwch a bwyd wedi eu heffeithio waethaf gan y pandemig, yn ogystal â siopau a gweithgynhyrchu.

Yn ôl y ffigyrau roedd hefyd 459,000 yng Nghymru oedd ddim yn gweithio am eu bod nhw'n sâl, yn gofalu am rywun arall neu'n fyfyrwyr ym mis Hydref - 8,000 yn uwch na Gorffennaf.

Pynciau cysylltiedig