Methu targed o frechu 70% o bobl dros 80 oed
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi methu eu targed i frechu 70% o'r bobl dros 80 oed erbyn diwedd y penwythnos diwethaf.
Awgrymodd y llywodraeth fod y tywydd yn ffactor wrth iddyn nhw fethu â chyrraedd carreg filltir gyntaf y rhaglen frechu.
Bu'n rhaid cau pedair canolfan frechu yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg dros y penwythnos oherwydd y tywydd.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford wrth Senedd Cymru bod llawer o bobl dros 80 oed wedi teimlo nad oedd yn ddiogel cadw apwyntiadau oherwydd y rhew ac eira diweddar.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae 96,830 o bobl dros 80 wedi cael eu brechiad cyntaf rhag Covid-19 - 52.8% o'r grŵp arbennig yma, er mae'r ystadegau sy'n cael ei gyhoeddi eisoes yn sawl diwrnod oed.
Daw wrth i gyfanswm nifer y marwolaethau yn ymwneud â Covid-19 yng Nghymru godi i'w lefel wythnosol uchaf ers dechrau'r pandemig.

Canofan frechu Merthyr Tudful oedd un o'r rhai fu'n rhaid cau dros y Sul oherwydd eira
Dywedodd Mr Drakeford yn ystod sesiwn wythnosol Holi'r Prif Weinidog: "Ni fyddwn yn cyrraedd y targed o 70% o ran y rhai dros 80 oed oherwydd y toriad i'r rhaglen frechu ddydd Sul a bore Llun.
"Dydw i ddim am gael pobl dros 80 yn teimlo dan bwysau i ddod mas i gael eu brechu pan maen nhw'u hunain yn penderfynu nad yw'n ddiogel iddyn nhw wneud hynny."
Ychwanegodd y bydd yna gyfle pellach i'r unigolion hynny gael eu brechu erbyn diwedd dydd Mercher.
Dywedodd hefyd fod Cymru ar y trywydd cywir i gynnig brechlyn i bawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn canol Chwefror.
'Rhaid cymryd cyfrifoldeb llawn'
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig fe fyddai'r sefyllfa'n "ffars oni bai bod bywydau yn y fantol".
Dywedodd arweinydd y blaid yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies fod y Blaid Lafur â hanes o "hawlio'r clod pan fo pethau'n mynd yn dda ond yn beio unrhyw un ac unrhyw beth arall pan maen nhw'n mynd o'i le".
Ychwanegodd: "Rhaid i'r Prif Weinidog a'i Weinidog Iechyd gymryd y cyfrifoldeb llawn am y methiant yma... a chael y rhaglen frechu'n ôl ar y trywydd cywir trwy benodi gweinidog brechu penodol a gosod targed mae modd iddyn nhw ei gyrraedd."
Yn y Senedd, dywedodd Mr Davies fod yna "loteri cod post" o ran brechu.
Atebodd Mr Drakeford fod cyfanswm y bobl sy'n cael eu brechu wedi codi o 162,000 wythnos diwethaf i 230,000 ddydd Mawrth, a bod cyfradd y cynnydd yn gyflymach yng Nghymru nag yn unrhyw rhan o'r DU.

Mynegodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, amheuon wedi i'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething awgrymu ond mymryn yn brin o'r nod oedd y llywodraeth.
"Mae bwlch rhwng canran o 52.7% a tharged o 70% yn rhy fawr i wneud y fath haeriad," meddai, "hyd yn oed os oes 'na beth data yn dal angen ei fwydo i'r system."
Ychwanegodd: "Dwi ddim yn meddwl bod beio eira dros y Sul yn dal dŵr, waeth faint o broblem 'nath yr eira greu mewn rhai ardaloedd.
"Y broblem oedd eich bod chi dal ar 24% o bobl dros 80 oed ganol yr wythnos ddwetha', ac mi oedd yna ormod o fynydd i'w ddringo."

Daeth datganiad Mr Drakeford oriau wedi i ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) nodi fod cyfanswm nifer y marwolaethau yn ymwneud â Covid-19 yng Nghymru ar ei lefel wythnosol uchaf ers dechrau'r pandemig.
Roedd 467 o farwolaethau yn ystod yr wythnos ddaeth i ben ar 15 Ionawr, sydd 13 yn uwch na'r wythnos flaenorol.
Roedd hyn bron i 40% o'r holl farwolaethau gafodd eu cofrestru, yn ôl yr ONS.
Hyd yma mae 289,556 o bobl wedi derbyn eu brechiad cyntaf ar gyfer Covid-19 - sydd yn 9.2% o'r boblogaeth, gyda 581 yn wedi derbyn dau ddos.
Fe wnaeth byrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Cwm Taf Morgannwg gofnodi eu niferoedd wythnosol uchaf o farwolaethau, gyda'r niferoedd yn uwch na'r hyn a brofwyd yn ystod y don gyntaf y llynedd.
Roedd 74 o farwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, a 116 yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Yn y cyfamser mae wyth o farwolaethau'n rhagor wedi eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Mawrth, gyda 570 o achosion newydd.
O ganlyniad mae cyfanswm nifer yr achosion positif yn 189,152, gyda 4,561 o unigolion wedi marw o ganlyniad i'r haint meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn wahanol i'r hyn ddigwyddodd yn ystod brig y don gyntaf yn 2020, mae Cymru bellach yn gweld niferoedd uwch o farwolaethau yn y gogledd a'r gorllewin.
Yn y gogledd ddwyrain, lle bu'r cyfraddau achosion uchaf o Covid-19 yn ystod yr wythnosau diwethaf, bu 30 o farwolaethau ymysg trigolion Sir y Fflint, gan gynnwys 25 mewn ysbytai.
Yn Wrecsam, bu 27 o farwolaethau - gyda 21 o'r rhain mewn ysbytai.
Roedd 49 o farwolaethau mewn ysbytai yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr - y nifer wythnosol uchaf yng Nghymru.
Bu farw hefyd 33 o gleifion yn Rhondda Cynon Taf, a chwech ym Merthyr Tudful.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2021